Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 232(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/10/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(60 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd
y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif
Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Bydd
y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn
hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 13.30 Gofynnwyd yr 8
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. Gofynnodd Rhun ap Iorwerth gwestiynau ar
ran Plaid Cymru. Atebodd y Dirprwy
Weinidog a’r Prif Chwip y 5 cwestiwn am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion
yn ymwneud â’i chyfrifoldebau. |
|
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.43 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.59 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Digartrefedd Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.46 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Teithio Rhatach Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.22 |
|
(15 munud) |
Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) 2019 NDM7154 - Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo
bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol)
(Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn
ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Medi 2019. Dogfennau Atodol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.16 NDM7154 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog
27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Materion Gwledig
(Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019 yn cael ei llunio
yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Medi 2019. Dogfennau Atodol Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Gemau'r Gymanwlad Birmingham NDM7156 - Yr
Arglwydd / Lord Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai
Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham i’r
graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mehefin 2019 yn
unol â Rheol Sefydlog 29.2. Bil
Gemau'r Gymanwlad Birmingham Dogfennau Atodol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.18 NDM7156 - Yr Arglwydd Elis-Thomas (Dwyfor
Meirionnydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Gemau'r
Gymanwlad Birmingham i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19
Mehefin 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham Dogfennau Atodol Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Nid oedd cyfnod pleidleisio. |