Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 236(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/10/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd
y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif
Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif
Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.27 |
||||||||||||||||||||||||||
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog (5 munud) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a
33.8: Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog
11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog
11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos
ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7170 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn
heddiw, 22 Hydref 2019. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Diweddariad ar Brexit (TYNNWYD YN ÔL) |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau Iach-Cymru Iach Dogfen
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.52 |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Ddiogelwch Adeiladau Dogfennau
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.33 |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr 2020-2025 Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.08 |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019 NDM7163 - Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo
bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael
â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2019. Dogfennau
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.59 NDM7163 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y
fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r
UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2019. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Hadau (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019 NDM7164 - Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Hadau (Diwygio etc.) (Cymru)
(Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2019.
Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.01 NDM7164 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y
fersiwn ddrafft o Reoliadau Hadau (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2019. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Dadl o dan Reol Sefydlog 25.15 ar Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2019 - Gohiriwyd tan 6 Tachwedd 2019 NNDM7170 Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn peidio â chytuno i Fil y Cytundeb Ymadael, fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin, gael ei wneud yn ddeddf gan
Senedd y DU. 2. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn gosod Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29 i gynorthwyo’r Cynulliad i roi ystyriaeth
ffurfiol i gydsyniad maes o law. Bil
y Cytundeb Ymadael (Saesneg yn unig) |
|||||||||||||||||||||||||
(90 munud) |
Dadl: Brexit Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn peidio â chytuno i Fil y Cytundeb Ymadael, fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin, gael ei wneud yn ddeddf gan
Senedd y DU. 2.
Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol o
dan Reol Sefydlog 29 i gynorthwyo’r Cynulliad i roi ystyriaeth ffurfiol i
gydsyniad maes o law. Withdrawal Agreement Bill (Saesneg yn unig) Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Darren
Millar Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr
Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016. 2. Yn nodi bod Llywodraeth Ei Mawrhydi wedi sicrhau
bargen gyda'r Undeb Ewropeaidd a fydd yn galluogi Cymru, a gweddill y Deyrnas
Unedig, i adael ar 31 Hydref 2019. 3. Yn gresynu at yr effaith andwyol y bydd oedi ac
ansicrwydd pellach yn ei chael ar fusnesau Cymru, y sector cyhoeddus a
sefydliadau anllywodraethol eraill. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi Llywodraeth y DU
wrth iddi geisio deddfu i sicrhau bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn
31 Hydref 2019. 5. Yn credu, pe na bai'r Cytundeb Ymadael yn cael
cefnogaeth Senedd y DU, y dylid cynnal etholiad cyffredinol yn y DU. Gwelliant 2 – Neil
McEvoy Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu, os bydd Bil y Cytundeb Ymadael yn arwain at
Brexit heb gytundeb, y dylid cynnal refferendwm ar sofraniaeth genedlaethol
Cymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.05 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod
Pleidleisio. Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn
peidio â chytuno i Fil y Cytundeb Ymadael, fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r
Cyffredin, gael ei wneud yn ddeddf gan Senedd y DU. 2. Yn
nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol o
dan Reol Sefydlog 29 i gynorthwyo’r Cynulliad i roi ystyriaeth ffurfiol i
gydsyniad maes o law. Bil
y Cytundeb Ymadael (Saesneg yn unig) Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr
Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016. 2. Yn nodi bod Llywodraeth Ei Mawrhydi wedi sicrhau
bargen gyda'r Undeb Ewropeaidd a fydd yn galluogi Cymru, a gweddill y Deyrnas
Unedig, i adael ar 31 Hydref 2019. 3. Yn gresynu at yr effaith andwyol y bydd oedi ac
ansicrwydd pellach yn ei chael ar fusnesau Cymru, y sector cyhoeddus a
sefydliadau anllywodraethol eraill. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi Llywodraeth y DU
wrth iddi geisio deddfu i sicrhau bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn
31 Hydref 2019. 5. Yn credu, pe na bai'r Cytundeb Ymadael yn cael
cefnogaeth Senedd y DU, y dylid cynnal etholiad cyffredinol yn y DU. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 – Neil McEvoy (Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu, os bydd Bil y Cytundeb Ymadael yn arwain at
Brexit heb gytundeb, y dylid cynnal refferendwm ar sofraniaeth genedlaethol
Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig: NNDM7170 Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn peidio â chytuno i Fil y Cytundeb Ymadael, fel y’i
cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin, gael ei wneud yn ddeddf gan Senedd y DU. 2. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn gosod Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29 i gynorthwyo’r Cynulliad i roi
ystyriaeth ffurfiol i gydsyniad maes o law. Bil
y Cytundeb Ymadael (Saesneg yn unig)
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: The item started at
18.40 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |