Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd/Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Amseriad disgwyliedig: 309(v6)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/12/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod
hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno
drwy gyswllt fideo. |
||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif
Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(15 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.31 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Argymhellion Burns – Y Camau Nesaf Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.49 Yn unol â Rheol Sefydlog
12.18, am 15.55 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd. |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Diweddariad ar Dasglu'r Cymoedd Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.03 |
|||||||||
(0 munud) |
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2020 - Gohiriwyd NDM7499 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2020 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Tachwedd 2020. Dogfennau Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon |
|||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020 NDM7498 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd Planhigion (Coedwigaeth)
(Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 yn cael ei llunio yn unol
â’r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Tachwedd 2020. Dogfennau Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.37 NDM7498 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y
fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygiadau
Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn
ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Tachwedd 2020. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(45 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig NDM7497 Jeremy
Miles (Castell-nedd) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y
darpariaethau ym Mil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig i’r graddau y maent yn
dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Medi 2020 yn
unol â Rheol Sefydlog 29.2. Bil
Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2019-21 (Saesneg yn unig) Dogfennau
Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.39 Am 16.52, cafodd y
trafodion eu hatal am bum munud gan y Dirprwy Lywydd oherwydd anawsterau
technegol yn y Siambr. Am 16.57, cafodd y cyfarfod ei ailgynnull. Am 17.02,
cafodd y cyfarfod ei atal am 25 munud, ac am 17.27, cafodd y cyfarfod ei
ailgynnull. Am 17.30, cafodd y cyfarfod ei atal dros dro eto. Am 17.45, cafodd y
trafodion eu gohirio gan y Dirprwy Lywydd. Caiff y cyfarfod ei
ailgynnull am 12.30 dydd Mercher 9 Rhagfyr 2020. Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7497 Jeremy Miles (Castell-nedd) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y
darpariaethau ym Mil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig i’r graddau y maent yn
dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Medi 2020
yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Bil Marchnad Fewnol y
Deyrnas Unedig 2019-21 (Saesneg yn unig) Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||
(5 munud) |
Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog dros droMotion Dechreuodd yr eitem am 13.25 NDM7500 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog
33.6 a 33.8: Yn atal Rheolau Sefydlog 12.20(i), 12.22 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog
11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog
11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos
ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7501 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn
ddydd Mawrth, 8 Rhagfyr 2020. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(5 munud) |
Cynnig Gweithdrefnol Dechreuodd yr
eitem am 12.36 Cynnig gweithdrefnol yn unol â Rheol
Sefydlog 12.32 i ohirio’r eitem nesaf o fusnes tan ddydd Mercher, 9 Rhagfyr
2020 |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl: Cyfyngiadau Coronafeirws Newydd NDM7501 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi: a) y cynnydd yn y gyfradd
dreigl saith niwrnod mewn perthynas â digwyddedd achosion o’r coronafeirws
ledled Cymru; b) y datganiad gan y
Prif Weinidog ar 1 Rhagfyr a oedd yn nodi’r mesurau cenedlaethol newydd i
ddiogelu iechyd y cyhoedd a lleihau lledaeniad y coronafeirws; ac c)
y pecyn cymorth busnes £340m a ddarperir drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd i
gefnogi busnesau yr effeithir arnynt gan y mesurau cenedlaethol newydd. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Yn unol â Rheol
Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 1 a gyflwynwyd i’r cynnig Gwelliant 2 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn credu nad yw dull
gweithredu Cymru gyfan yn gymesur o ystyried bod COVID-19 yn cylchredeg ar
wahanol gyfraddau mewn gwahanol rannau o'r wlad. Gwelliant 3 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn credu nad oes digon
o dystiolaeth i ddangos bod cyfyngiadau presennol Llywodraeth Cymru ar werthu
alcohol mewn tafarndai, caffis a bwytai yn gymesur. Gwelliant 4 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod y cymorth
ariannol sydd ar gael i fusnesau y mae'r cyfyngiadau'n effeithio arnynt yn
annigonol, yn enwedig pan fo cwmnïau wedi gwario symiau enfawr ar sicrhau bod
eu safleoedd yn ddiogel i staff a chwsmeriaid o ran COVID-19. Gwelliant 5 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyhoeddi'r dystiolaeth a oedd yn sail i'w phenderfyniad i gau
lleoliadau adloniant dan do. Gwelliant 6 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o gymorth ariannol ar gael i fusnesau mewn
modd amserol. Yn unol â Rheol
Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 7, 8 a 9 a gyflwynwyd i’r
cynnig Gwelliant 10 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu: a) at y ffaith bod
Llywodraeth Cymru wedi mynd ar drywydd camau gweithredu yn seiliedig ar
dystiolaeth gyfyngedig iawn o'r sefyllfa yng Nghymru; b) at y ffaith mai
effaith gyfyngedig iawn a gaiff y cyfyngiadau ar gyfraddau heintio yng Nghymru; c) at y ffaith y bydd
y cyfyngiadau hyn yn cael effaith barhaol ar swyddi a bywoliaethau ac y byddant
yn achosi niwed parhaol i'r sector lletygarwch yng Nghymru. Gwelliant 11 Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn cytuno, er y gall
lleoliadau lletygarwch aros ar agor, na ddylent fod yn destun gwaharddiad llwyr
ar werthu alcohol fel y nodir ar hyn o bryd yn y rheoliadau a ddaeth i rym ar 4
Rhagfyr. Gwelliant 12 Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn cytuno y dylai'r
terfyn amser ar gyfer gwerthu alcohol mewn archfarchnadoedd a siopau diodydd
trwyddedig fod yn gyson â'r terfyn amser a bennwyd ar gyfer lleoliadau
lletygarwch. Gwelliant 13 Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn cytuno y dylid
caniatáu i leoliadau lletygarwch aros ar agor tan 8pm. Gwelliant 14 Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i amlinellu a) yr amcanion penodol
y mae'n gobeithio y bydd y cyfyngiadau cenedlaethol newydd a amlinellwyd yn
natganiad y Prif Weinidog i'r Senedd ar 1 Rhagfyr yn eu cyflawni; a b) beth fydd y trothwy
ar gyfer llacio'r mesurau hynny. Gwelliant 15 Sian Gwenllian
(Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn cytuno y dylid
cyhoeddi cyngor diweddaraf cell cyngor technegol Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r
holl ddata sy'n cefnogi'r penderfyniadau polisi, ochr yn ochr ag unrhyw
gyhoeddiad ar gyfyngiadau coronafeirws cenedlaethol pellach, neu cyn cyhoeddiad
o'r fath. Gwelliant 16 Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn cytuno y dylai
Llywodraeth Cymru fabwysiadu rhagdybiaeth o blaid cynnal pleidlais ystyrlon yn
y Senedd cyn y bydd unrhyw gyfyngiadau coronafeirws cenedlaethol pellach a
gaiff yr un fath o effaith â'r rhai a amlinellir yn natganiad y Prif Weinidog
i'r Senedd ar 1 Rhagfyr yn dod i rym. Gwelliant 17 Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyfle i'r gwrthbleidiau wneud ceisiadau rhesymol
am fodelu annibynnol gan y gell cyngor technegol ar gynigion amgen mewn
perthynas â materion fel cau'r sector lletygarwch ac ymyriadau eraill nad ydynt
yn rhai fferyllol. Cofnodion: Cafodd yr eitem ei gohirio tan gyfarfod dydd Mercher 9 Rhagfyr 2020. |
|||||||||
(0 munud) |
Dadl: Adolygiad Blynyddol Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2019-2020 - Gohiriwyd NDM7496 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi Adroddiad Effaith
Pwyllgor Cymru 2019-20 y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 13.27 cafodd y
cyfarfod ei atal dros dro i ganiatáu egwyl dechnegol cyn y cyfnod pleidleisio. Dechreuodd yr eitem am 13.30 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |