Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Amseriad disgwyliedig: 313(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 30/12/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Roedd y cyfarfod hwn yn gyfarfod adalw o’r Senedd o dan
Reol Sefydlog 12.3, a gynhaliwyd ar ffurf hybrid, gydag Aelodau yn ymuno drwy
gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro Dechreuodd
yr eitem am 10.30 NDM7531
Rebecca
Evans (Gŵyr) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn
atal Rheolau Sefydlog 12.20(i) a 12.22(i) er mwyn caniatáu i NDM7530 gael ei
ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 30 Rhagfyr 2020. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(90 munud) |
Dadl: Diwedd Cyfnod Pontio'r UE NDM7530 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi'r cytundeb
mewn egwyddor y daeth Llywodraeth y DU a'r UE iddo ar ein perthynas hirdymor yn
y dyfodol ar ddiwedd y cyfnod pontio. 2. Yn nodi bwriad
Llywodraeth y DU i weithredu'r cytundeb drwy Fil yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas
â'r Dyfodol). 3. Yn edifar nad yw
mewn sefyllfa i ystyried cydsyniad deddfwriaethol, gan mai ar fyr rybudd y
cafodd y Bil ei ddarparu i'r Senedd a'i fod yn cynnwys darpariaethau a all
effeithio ar y setliad datganoli. 4. Yn edifar nad yw'r
cytundeb niweidiol hwn yn adlewyrchu dyheadau'r Senedd fel y'u hadlewyrchir yn
'Diogelu Dyfodol Cymru' a hefyd yn 'Y Berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol:
Blaenoriaethau i Gymru' ond serch hynny, yn derbyn bod y cytundeb hwn yn llai
niweidiol na gadael y cyfnod pontio heb gytundeb masnach. 5. Yn cefnogi’r ymdrechion
parhaus i wneud popeth i darfu cyn lleied â phosibl yn y byrdymor ac i leihau'r
niwed hirdymor a fydd yn deillio o'r newid yn ein cydberthynas economaidd â'r
UE, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru i'r perwyl
hwnnw. Y berthynas
rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol: blaenoriaethau negodi i Gymru Dogfennau Ategol Bil yr Undeb Ewropeaidd
(Perthynas â’r Dyfodol) (Saesneg yn unig) Detholwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: 1. Yn croesawu'r
cytundeb masnach a chydweithrediad rhwng Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd. 2. Yn credu ei bod er
budd Cymru i roi cefnogaeth i'r cytundeb a rhoi cydsyniad deddfwriaethol ar
gyfer ei weithredu drwy Fil yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol). 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i fanteisio ar
gyfleoedd newydd i Gymru sy'n deillio o ddiwedd y cyfnod pontio ar ôl Brexit. [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol] Gwelliant 2 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Dileu popeth ar ôl
pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn gresynu nad yw'r
cytundeb yn adlewyrchu ewyllys pobl Cymru yn llawn, fel y mynegwyd yn
refferendwm yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016, ond yn nodi ei fod yn
symud y Deyrnas Unedig o fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau'r Undeb
Ewropeaidd, sydd wedi cael effaith niweidiol ar ein heconomi a sofraniaeth, ac
yn rhoi terfyn ar wleidyddiaeth ymrannol a fynegir gan ymgyrchwyr aros wrth
wadu'r broses ddemocrataidd. [Os derbynnir
gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol] Gwelliant 3 Sian
Gwenllian (Arfon)
Ym mhwynt 4, dileu
‘ond serch hynny, yn derbyn bod y cytundeb hwn yn llai niweidiol na gadael y
cyfnod pontio heb gytundeb masnach' a rhoi yn ei le 'ac yn credu ei fod yn
cynrychioli Brexit caled nad oes mandad ar ei gyfer ac nad yw o fudd i Gymru'. Gwelliant 4 Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn peidio cefnogi
bargen Llywodraeth Geidwadol y DU ac yn galw ar gynrychiolwyr Cymru yn Senedd y
DU i bleidleisio yn unol â hynny. Yn unol â Rheol
Sefydlog 12.23 (iii), ni ddetholwyd y gwelliannau eraill a osodwyd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 10.30 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7530 Rebecca
Evans (Gŵyr) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi'r cytundeb mewn egwyddor y daeth Llywodraeth y
DU a'r UE iddo ar ein perthynas hirdymor yn y dyfodol ar ddiwedd y cyfnod pontio. 2. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i weithredu'r cytundeb
drwy Fil yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas â'r Dyfodol). 3. Yn edifar nad yw mewn sefyllfa i ystyried cydsyniad
deddfwriaethol, gan mai ar fyr rybudd y cafodd y Bil ei ddarparu i'r Senedd a'i
fod yn cynnwys darpariaethau a all effeithio ar y setliad datganoli. 4. Yn edifar nad yw'r cytundeb niweidiol hwn yn
adlewyrchu dyheadau'r Senedd fel y'u hadlewyrchir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' a
hefyd yn 'Y Berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol: Blaenoriaethau i Gymru'
ond serch hynny, yn derbyn bod y cytundeb hwn yn llai niweidiol na gadael y
cyfnod pontio heb gytundeb masnach. 5. Yn cefnogi’r ymdrechion parhaus i wneud popeth i darfu
cyn lleied â phosibl yn y byrdymor ac i leihau'r niwed hirdymor a fydd yn
deillio o'r newid yn ein cydberthynas economaidd â'r UE, ac yn galw ar
Lywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru i'r perwyl hwnnw. Y berthynas rhwng y
DU a’r UE yn y dyfodol: blaenoriaethau negodi i Gymru Yn
unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddetholwyd 6 o’r 10 gwelliant a gyflwynwyd
i’r cynnig. Detholwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn croesawu'r cytundeb masnach a chydweithrediad rhwng
Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd. 2. Yn credu ei bod er budd Cymru i roi cefnogaeth i'r
cytundeb a rhoi cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer ei weithredu drwy Fil yr
Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol). 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n adeiladol gyda
Llywodraeth y DU i fanteisio ar gyfleoedd newydd i Gymru sy'n deillio o ddiwedd
y cyfnod pontio ar ôl Brexit. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn gresynu nad yw'r cytundeb yn adlewyrchu ewyllys pobl
Cymru yn llawn, fel y mynegwyd yn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd ym mis
Mehefin 2016, ond yn nodi ei fod yn symud y Deyrnas Unedig o fod yn
ddarostyngedig i gyfreithiau'r Undeb Ewropeaidd, sydd wedi cael effaith
niweidiol ar ein heconomi a sofraniaeth, ac yn rhoi terfyn ar wleidyddiaeth
ymrannol a fynegir gan ymgyrchwyr aros wrth wadu'r broses ddemocrataidd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 Sian
Gwenllian (Arfon) Ym mhwynt 4, dileu ‘ond serch hynny, yn derbyn bod y
cytundeb hwn yn llai niweidiol na gadael y cyfnod pontio heb gytundeb masnach'
a rhoi yn ei le 'ac yn credu ei fod yn cynrychioli Brexit caled nad oes mandad
ar ei gyfer ac nad yw o fudd i Gymru'. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn peidio cefnogi bargen Llywodraeth Geidwadol y DU ac yn
galw ar gynrychiolwyr Cymru yn Senedd y DU i bleidleisio yn unol â hynny. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig: NDM7530 Rebecca
Evans (Gŵyr) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi'r cytundeb mewn egwyddor y daeth Llywodraeth y
DU a'r UE iddo ar ein perthynas hirdymor yn y dyfodol ar ddiwedd y cyfnod pontio. 2. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i weithredu'r cytundeb
drwy Fil yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas â'r Dyfodol). 3. Yn edifar nad yw mewn sefyllfa i ystyried cydsyniad
deddfwriaethol, gan mai ar fyr rybudd y cafodd y Bil ei ddarparu i'r Senedd a'i
fod yn cynnwys darpariaethau a all effeithio ar y setliad datganoli. 4. Yn edifar nad yw'r cytundeb niweidiol hwn yn
adlewyrchu dyheadau'r Senedd fel y'u hadlewyrchir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' a
hefyd yn 'Y Berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol: Blaenoriaethau i Gymru'
ond serch hynny, yn derbyn bod y cytundeb hwn yn llai niweidiol na gadael y
cyfnod pontio heb gytundeb masnach. 5. Yn cefnogi’r ymdrechion parhaus i wneud popeth i darfu
cyn lleied â phosibl yn y byrdymor ac i leihau'r niwed hirdymor a fydd yn
deillio o'r newid yn ein cydberthynas economaidd â'r UE, ac yn galw ar
Lywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru i'r perwyl hwnnw. Y berthynas rhwng y
DU a’r UE yn y dyfodol: blaenoriaethau negodi i Gymru
Derbyniwyd y cynnig. Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, am 12.07, cafodd y
trafodion eu hatal dros dro er mwyn caniatáu egwyl technegol cyn y cyfnod
pleidleisio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 12.14 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Coronafeirws Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 12.18 |