Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 41(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/01/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cofnod y Trafodion

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

Cwestiwn Brys

Dechreuodd yr eitem am 14.15

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch y sylwadau a wnaeth y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys fod gofal brys yng Nghymru mewn argyfwng?

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.33

(45 munud)

3.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Ymgynghoriad ynghylch Cynllun Gweithredu Strategol Drafft ar gyfer Dementia yng Nghymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.50

(30 munud)

4.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig: Ffliw Adar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.35

(45 munud)

5.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Y Gronfa Triniaethau Newydd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.13

(60 munud)

6.

Dadl: Cyllideb Derfynol 2017-18

NDM6192 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25:

Yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-2018 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar 20 Rhagfyr 2016.

Troednodyn:

Yn unol â darpariaethau perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20.28, mae'r Gyllideb Flynyddol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

1. y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;

2. yr adnoddau y cytunodd y Trysorlys arnynt ar gyfer cyllideb bloc Cymru am y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

3. cysoni rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau i'w hawdurdodi i'w defnyddio yn y cynnig;

4. cysoni rhwng yr amcangyfrif o'r symiau i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o'r Gronfa yn y cynnig; a

5. cysoni rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Darparwyd y wybodaeth atodol ganlynol i'r Aelodau:

        Nodyn Esboniadol ar y newidiadau rhwng cynigion y Gyllideb Ddrafft a'r Gyllideb Flynyddol.

 

Dogfennau Ategol
Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-2018

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.46

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM6192 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25:

Yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-2018 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet og dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar 20 Rhagfyr 2016.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

8

17

52

Derbyniwyd y cynnig.

 

(60 munud)

7.

Dadl: Egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)

NDM6193 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru).

Gosodwyd Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 12 Medi 2016.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Fil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 20 Rhagfyr 2016.

Dogfennau Ategol
Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol


Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.46

NDM6193 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru).

Gosodwyd y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 12 Medi 2016.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 20 Rhagfyr 2016.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(5 munud)

8.

Dadl ar y Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)

NDM6194 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69 sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.39

NDM6194 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69 sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

9.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.40

 

Crynodeb o Bleidleisiau 10.01.17

Dogfennau ategol: