Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 43(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/01/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld
Cofnod
y Trafodion |
||||||||||
Datganiad gan y Llywydd Croesawodd
y Llywydd gynrychiolaeth seneddol o Basra, Irac, oedd ar ymweliad â’r Cynulliad
Cenedlaethol. |
||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(10 munud) |
Cwestiwn Brys 1 Dechreuodd
yr eitem am 14.19 I Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Bethan
Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am atal
cyllid Llywodraeth Cymru i NSA Afan? |
|||||||||
(10 munud) |
Cwestiwn Brys 2 Dechreuodd
yr eitem am 14.25 I
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet
ddatganiad am ddyfodol tollau ar Bontydd Hafren? |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 14.43 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: Y Fframwaith Cyllidol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 15.02 |
|||||||||
(90 muned) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cymru NDM6203
Carwyn
Jones (Pen-y-bont ar Ogwr) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau
ym Mil Cymru, i'r graddau eu bod yn dod o dan gymhwysedd deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu yn ei addasu, barhau i gael eu hystyried gan
Senedd y DU. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Tachwedd
2016 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10
Ionawr 2017 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Mae copi o'r Bil i'w
weld ar wefan Senedd y DU: Bill documents — Wales
Bill 2016-17 — UK Parliament (Saesneg yn unig) Dogfennau ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.54 Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM6203 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol
â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau ym Mil Cymru, i'r
graddau eu bod yn dod o dan gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, neu yn ei addasu, barhau i gael eu hystyried gan Senedd y DU. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 21 Tachwedd 2016 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Ionawr 2017 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU: Bill documents — Wales Bill 2016-17 — UK Parliament Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2017 NDM6200
Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y
fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion
Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael ei lunio
yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Rhagfyr 2016. Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
18.04 NDM6200 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol
â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau
Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun
Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft
a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Rhagfyr 2016. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyflenwadau Meddygol (Costau) y Gwasanaeth Iechyd NDM6201 Vaughan
Gething (De Caerdydd a Phenarth) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil
Cyflenwadau Meddygol (Costau) y Gwasanaeth Iechyd sy'n ymwneud â chael a
rhannu gwybodaeth am gynhyrchion y gwasanaeth iechyd i'r graddau y maent yn dod
o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Tachwedd 2016
yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii). Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU: Bill documents — Health Service Medical
Supplies (Costs) Bill 2016-17 — UK Parliament (Saesneg yn
unig) Dogfennau ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
18.07 NDM6201 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol
â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym
Mil Cyflenwadau Meddygol (Costau) y Gwasanaeth Iechyd sy'n ymwneud â
chael a rhannu gwybodaeth am gynhyrchion y gwasanaeth iechyd i'r graddau y
maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Tachwedd 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii). Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU: Bill documents — Health Service Medical Supplies (Costs) Bill
2016-17 — UK Parliament Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2017-18 NDM6202
Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol
1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2017-2018
(Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 21 Rhagfyr 2016. Dogfen
ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
18.09 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM6202 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol
ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad
Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2017-2018 (Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 21 Rhagfyr 2016.
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.44, canwyd y gloch a gohiriwyd y cyfarfod gan
ailgynnull am 18.42 ar gyfer y cyfnod pleidleisio. Dechreuodd yr eitem am 18.42 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |