Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Nodyn: 50(v3)
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Trawsgrifiad: Trawsgrifiad ar gyfer 08/02/2017 - Y Cyfarfod Llawn
Nodyn | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld Cofnod y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1, 5 a 9 gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem am 14.21 I Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinewfwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a yw, bellach, yn bwriadu cefnogi datblygu Cylchffordd Cymru, yn dilyn adroddiadau bod yr Heads of the Valleys Development Company wedi sicrhau'r cyllid preifat sydd ei angen ar gyfer ei adeiladu? |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.31 Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.31
Gwnaeth Mike Hedges ddatganiad ynglŷn â sut mae ymddiriedolaeth cefnogwyr Dinas Abertawe yn rhoi llais i gefnogwyr pêl-droed.
Gwnaeth Janet Finch Saunders ddatganiad yn nodi 65 mlynedd ein Brenhines ar yr orsedd.
Gwnaeth Dai Lloyd ddatganiad yn nodi 300 mlynedd ers geni’r emynwr William Williams, Pantycelyn ddydd Sadwrn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau NDM6222 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil yn ymwneud â sgiliau achub bywyd. 2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai: a) creu hawl statudol i bobl gael addysg a hyfforddiant sgiliau achub bywyd sy'n briodol i'w hoedran ar amrywiol adegau yn eu bywydau b) llunio cyfrifoldebau statudol i sicrhau: i) bod hyfforddiant sgiliau achub bywyd yn cael ei ddarparu; ii) bod diffibrilwyr yn cael eu darparu mewn lleoliadau priodol; iii) bod unigolion sydd wedi cael hyfforddiant achub bywyd ar gael mewn swyddi allweddol mewn gwasanaethau cyhoeddus (yn hytrach na pherson cymorth cyntaf penodedig); a iv) bod deunyddiau cymorth cyntaf sylfaenol ar gael i'r cyhoedd mewn adeiladau cyhoeddus, ac nid ar gyfer y staff yn unig. c) creu ffyrdd o wella a gorfodi o ran yr uchod. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.38
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6222 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil yn ymwneud â sgiliau achub bywyd. 2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai: a) creu hawl statudol i bobl gael addysg a hyfforddiant sgiliau achub bywyd sy'n briodol i'w hoedran ar amrywiol adegau yn eu bywydau b) llunio cyfrifoldebau statudol i sicrhau: i) bod hyfforddiant sgiliau achub bywyd yn cael ei ddarparu; ii) bod diffibrilwyr yn cael eu darparu mewn lleoliadau priodol; iii) bod unigolion sydd wedi cael hyfforddiant achub bywyd ar gael mewn swyddi allweddol mewn gwasanaethau cyhoeddus (yn hytrach na pherson cymorth cyntaf penodedig); a iv) bod deunyddiau cymorth cyntaf sylfaenol ar gael i'r cyhoedd mewn adeiladau cyhoeddus, ac nid ar gyfer y staff yn unig. c) creu ffyrdd o wella a gorfodi o ran yr uchod.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i Waith Ieuenctid NDM6230 Lynne Neagle (Torfaen) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 'Ba fath o wasanaeth ieuenctid y mae Cymru ei eisiau? Adroddiad yr ymchwiliad i Waith Ieuenctid' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Rhagfyr 2016. Dogfen ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.04
NDM6230 Lynne Neagle (Torfaen) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 'Ba fath o wasanaeth ieuenctid y mae Cymru ei eisiau? Adroddiad yr ymchwiliad i Waith Ieuenctid' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Rhagfyr 2016.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6229 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae addysg bellach a sgiliau galwedigaethol yn eu gwneud i economi Cymru, yn arbennig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gylch cyllido tair blynedd i golegau addysg bellach ar lefel deg, er mwyn galluogi gwaith cynllunio mwy cynaliadwy a diogelu'r sgiliau sydd eu hangen i wneud economïau lleol yn wydn. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi cyfran sylweddol o'r arian y mae'n disgwyl ei arbed, o ganlyniad i newidiadau i'r cymorth a roddir i fyfyrwyr addysg uwch, yn y sector addysg bellach, gan gynnwys buddsoddi cyfran yn y sgiliau lefel uwch a ddarperir mewn lleoliad addysg bellach a chyfran yn y ddarpariaeth Gymraeg. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1.
Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y cyfraniad pwysig y mae sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch yn ei wneud i gefnogi cyfleoedd economaidd ac yn nodi'r rôl arweiniol bwysig sydd ganddynt yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. 2. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod llwybrau addysg galwedigaethol ac academaidd yn cael parch cydradd. 3. Yn cydnabod pa mor bwysig yw cyfleoedd llawn amser a rhan-amser o ansawdd uchel i addysg ôl-16 yn y ddwy iaith, sy'n gallu cefnogi dysgwyr o bob oed a gwasanaethu economi Cymru. 4. Yn croesawu'r £30m o gyllid ychwanegol a ddarperir ar gyfer Addysg Bellach ac Addysg Uwch yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18. 5. Yn nodi'r gwaith a wneir gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â rhanddeiliaid ledled Cymru drwy Adolygiad Diamond ac Adolygiad Hazelkorn i ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer cyllido, rheoleiddio a llywodraethu addysg ôl-16 yng Nghymru. 6. Yn galw am ddiwedd i bolisi cyni niweidiol Llywodraeth y DU sydd wedi cael effaith negyddol ar yr holl wasanaethau cyhoeddus ar draws y DU, gan gynnwys addysg uwch ac addysg bellach.
Cyllideb Llywodraeth Cymru 2017-18 [Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2.
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Yn credu y dylid sicrhau parch cydradd rhwng llwybrau galwedigaethol ac academaidd, ac y dylai Llywodraeth Cymru weithio tuag at hyrwyddo cydraddoldeb rhyngddynt. Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio o fewn ysbryd Hazelkorn er mwyn dileu llawer o'r gystadleuaeth ddiangen sydd wedi dod i'r amlwg mewn addysg ôl-16 yn ddiweddar, a datblygu llwybrau dysgu ôl-16 cliriach a mwy hyblyg. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.55
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6229 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae addysg bellach a sgiliau galwedigaethol yn eu gwneud i economi Cymru, yn arbennig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gylch cyllido tair blynedd i golegau addysg bellach ar lefel deg, er mwyn galluogi gwaith cynllunio mwy cynaliadwy a diogelu'r sgiliau sydd eu hangen i wneud economïau lleol yn wydn. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i fuddsoddi cyfran sylweddol o'r arian y mae'n
disgwyl ei arbed, o ganlyniad i newidiadau i'r cymorth a roddir i
fyfyrwyr addysg uwch, yn y sector addysg bellach, gan gynnwys
buddsoddi cyfran yn y sgiliau lefel uwch a ddarperir mewn lleoliad
addysg bellach a chyfran yn y ddarpariaeth Gymraeg.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1.
Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y cyfraniad pwysig y mae sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch yn ei wneud i gefnogi cyfleoedd economaidd ac yn nodi'r rôl arweiniol bwysig sydd ganddynt yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. 2. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod llwybrau addysg galwedigaethol ac academaidd yn cael parch cydradd. 3. Yn cydnabod pa mor bwysig yw cyfleoedd llawn amser a rhan-amser o ansawdd uchel i addysg ôl-16 yn y ddwy iaith, sy'n gallu cefnogi dysgwyr o bob oed a gwasanaethu economi Cymru. 4. Yn croesawu'r £30m o gyllid ychwanegol a ddarperir ar gyfer Addysg Bellach ac Addysg Uwch yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18. 5. Yn nodi'r gwaith a wneir gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â rhanddeiliaid ledled Cymru drwy Adolygiad Diamond ac Adolygiad Hazelkorn i ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer cyllido, rheoleiddio a llywodraethu addysg ôl-16 yng Nghymru. 6. Yn galw am ddiwedd i
bolisi cyni niweidiol Llywodraeth y DU sydd wedi cael effaith
negyddol ar yr holl wasanaethau cyhoeddus ar draws y DU, gan
gynnwys addysg uwch ac addysg bellach. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1.
Derbyniwyd gwelliant 1, felly cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio o fewn ysbryd Hazelkorn er mwyn dileu llawer o'r
gystadleuaeth ddiangen sydd wedi dod i'r amlwg mewn addysg
ôl-16 yn ddiweddar, a datblygu llwybrau dysgu ôl-16
cliriach a mwy hyblyg. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6229 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y cyfraniad pwysig y mae sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch yn ei wneud i gefnogi cyfleoedd economaidd ac yn nodi'r rôl arweiniol bwysig sydd ganddynt yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. 2. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod llwybrau addysg galwedigaethol ac academaidd yn cael parch cydradd. 3. Yn cydnabod pa mor bwysig yw cyfleoedd llawn amser a rhan-amser o ansawdd uchel i addysg ôl-16 yn y ddwy iaith, sy'n gallu cefnogi dysgwyr o bob oed a gwasanaethu economi Cymru. 4. Yn croesawu'r £30m o gyllid ychwanegol a ddarperir ar gyfer Addysg Bellach ac Addysg Uwch yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18. 5. Yn nodi'r gwaith a wneir gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â rhanddeiliaid ledled Cymru drwy Adolygiad Diamond ac Adolygiad Hazelkorn i ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer cyllido, rheoleiddio a llywodraethu addysg ôl-16 yng Nghymru. 6. Yn galw am ddiwedd i bolisi cyni niweidiol Llywodraeth y DU sydd wedi cael effaith negyddol ar yr holl wasanaethau cyhoeddus ar draws y DU, gan gynnwys addysg uwch ac addysg bellach.
7. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio o fewn ysbryd Hazelkorn er mwyn dileu
llawer o'r gystadleuaeth ddiangen sydd wedi dod i'r amlwg mewn
addysg ôl-16 yn ddiweddar, a datblygu llwybrau dysgu
ôl-16 cliriach a mwy hyblyg.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6232 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU a'r effaith a gaiff ar Gymru. 2. Yn cydnabod y gwaith rhynglywodraethol i ddatblygu Bargen Dwf Gogledd Cymru. 3. Yn credu y gall dinas-ranbarthau chwarae rhan werthfawr o ran sicrhau gwelliannau economaidd i gymunedau ledled Cymru. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i lywio twf economaidd ym mhob rhan o Gymru. 'Building our Industrial Strategy – UK Government Green Paper January 2017' (Saesneg yn unig) Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1.
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) 1. Yn nodi'r angen i gryfhau perfformiad economi gogledd Cymru. 2. Yn cydnabod pa mor bwysig yw buddsoddi mewn seilwaith i hyrwyddo economi gogledd Cymru. 3. Yn credu bod angen i unrhyw Strategaeth Ddiwydiannol gan Lywodraeth y DU fynd i'r afael â diffyg buddsoddi digonol ers blynyddoedd yn seilwaith Cymru. 4. Yn galw am raglen gyson o welliannau i goridor yr A55, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi'r bwriad i drydaneiddio rheilffordd arfordir gogledd Cymru. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ei Strategaeth Economaidd ar gyfer Cymru, a fydd yn nodi sut y gall gogledd Cymru ddatblygu'n bwerdy economaidd ei hun gan gydweithredu hefyd â phwerdy gogledd Lloegr i hyrwyddo gweithgarwch economaidd trawsffiniol. [Os derbynnir gwelliant
1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol] Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Papur Gwyrdd Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU wedi'i gyhoeddi. 2. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i ddatblygu polisi diwydiannol mwy gweithredol, ond yn gresynu at ei methiant i gefnogi'r diwydiant dur ar draws Cymru a'r DU dros y flwyddyn ddiwethaf. 3. Yn nodi cynllun Llywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth drawsbynciol ar gyfer cefnogi twf economaidd yn nes ymlaen yn y gwanwyn. 4. Yn cydnabod y gwaith rhwng llywodraethau sydd wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch Bargen Ddinesig Caerdydd ac Abertawe a hefyd Bargen Dwf Gogledd Cymru. 5. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU ynghylch pob maes sydd o ddiddordeb i Gymru a'r DU er lles busnesau ac economi pob rhan o Gymru. 6. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ymgysylltu'n briodol ac fel rhan o bartneriaeth gyfartal ynghylch materion diwydiannol trawsffiniol, gan barchu'n llwyr y setliad datganoli. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.59
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6232 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU a'r effaith a gaiff ar Gymru. 2. Yn cydnabod y gwaith rhynglywodraethol i ddatblygu Bargen Dwf Gogledd Cymru. 3. Yn credu y gall dinas-ranbarthau chwarae rhan werthfawr o ran sicrhau gwelliannau economaidd i gymunedau ledled Cymru. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i lywio twf
economaidd ym mhob rhan o Gymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1.
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) 1. Yn nodi'r angen i gryfhau perfformiad economi gogledd Cymru. 2. Yn cydnabod pa mor bwysig yw buddsoddi mewn seilwaith i hyrwyddo economi gogledd Cymru. 3. Yn credu bod angen i unrhyw Strategaeth Ddiwydiannol gan Lywodraeth y DU fynd i'r afael â diffyg buddsoddi digonol ers blynyddoedd yn seilwaith Cymru. 4. Yn galw am raglen gyson o welliannau i goridor yr A55, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi'r bwriad i drydaneiddio rheilffordd arfordir gogledd Cymru. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ei Strategaeth Economaidd ar gyfer Cymru, a fydd yn nodi sut y gall gogledd Cymru ddatblygu'n bwerdy economaidd ei hun gan gydweithredu hefyd â phwerdy gogledd Lloegr i hyrwyddo gweithgarwch economaidd trawsffiniol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Papur Gwyrdd Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU wedi'i gyhoeddi. 2. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i ddatblygu polisi diwydiannol mwy gweithredol, ond yn gresynu at ei methiant i gefnogi'r diwydiant dur ar draws Cymru a'r DU dros y flwyddyn ddiwethaf. 3. Yn nodi cynllun Llywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth drawsbynciol ar gyfer cefnogi twf economaidd yn nes ymlaen yn y gwanwyn. 4. Yn cydnabod y gwaith rhwng llywodraethau sydd wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch Bargen Ddinesig Caerdydd ac Abertawe a hefyd Bargen Dwf Gogledd Cymru. 5. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU ynghylch pob maes sydd o ddiddordeb i Gymru a'r DU er lles busnesau ac economi pob rhan o Gymru. 6. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i ymgysylltu'n briodol ac fel rhan o bartneriaeth
gyfartal ynghylch materion diwydiannol trawsffiniol, gan barchu'n
llwyr y setliad datganoli. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6232 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Papur Gwyrdd Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU wedi'i gyhoeddi. 2. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i ddatblygu polisi diwydiannol mwy gweithredol, ond yn gresynu at ei methiant i gefnogi'r diwydiant dur ar draws Cymru a'r DU dros y flwyddyn ddiwethaf. 3. Yn nodi cynllun Llywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth drawsbynciol ar gyfer cefnogi twf economaidd yn nes ymlaen yn y gwanwyn. 4. Yn cydnabod y gwaith rhwng llywodraethau sydd wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch Bargen Ddinesig Caerdydd ac Abertawe a hefyd Bargen Dwf Gogledd Cymru. 5. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU ynghylch pob maes sydd o ddiddordeb i Gymru a'r DU er lles busnesau ac economi pob rhan o Gymru. 6. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i ymgysylltu'n briodol ac fel rhan o bartneriaeth
gyfartal ynghylch materion diwydiannol trawsffiniol, gan barchu'n
llwyr y setliad datganoli.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.04
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6231 Lynne Neagle (Torfaen): Meithrin gwydnwch emosiynol yn ein plant a phobl ifanc. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.09 NDM6231 Lynne Neagle (Torfaen): Meithrin gwydnwch emosiynol yn ein plant a phobl ifanc.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |