Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 80(v3) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 28/06/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cofnod y Trafodion

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.18

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

(20 muned)

3.

Cwestiynau Amserol

I Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd o ran ymateb i’r cynlluniau arfaethedig i gau Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid Tesco yng Nghaerdydd?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.04

I Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd o ran ymateb i’r cynlluniau arfaethedig i gau Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid Tesco yng Nghaerdydd?

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.30

Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad ar y maer Asiaidd cyntaf yng Nghymru, Dr Shah Imtiaz.

Gwnaeth Dawn Bowden ddatganiad ar enillydd gwobr Womenspire, Sarah Draper, a’i gwaith yn ymwneud ag ymgyrch “Merthyr Girls Can”.

Gwnaeth Llyr Gruffydd ddatganiad ar Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

(60 munud)

5.

Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

NDM6283

Huw Irranca–Davies (Ogwr)

Jeremy Miles (Castell-nedd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r £217 miliwn o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd diwethaf ac ymrwymiad pellach o £104 miliwn dros y pedair blynedd nesaf i wella effeithlonrwydd ynni yn y cartref a mynd i'r afael â thlodi tanwydd.

2. Yn nodi ymhellach bod angen i effeithlonrwydd ynni yn y cartref gael ei wella'n sylweddol os yw Cymru am gyrraedd ei nod o ran datgarboneiddio a lleihau tlodi tanwydd.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried amrywiaeth ehangach o ddulliau buddsoddi ar gyfer effeithlonrwydd ynni, gan gynnwys cyllid arloesol, gwneud defnydd da o bensiynau'r sector cyhoeddus, a defnyddio cyllid y sector preifat.

4. Yn nodi'r cynnig i sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod anghenion seilwaith ynni hirdymor Cymru a chyfleoedd ar gyfer effeithlonrwydd ynni yn cael eu cynnwys o fewn ei gylch gwaith.

5. Yn credu y byddai buddsoddiad o'r fath yn rhoi hwb enfawr i ymdrechion i fynd i'r afael â thlodi tanwydd mewn rhai o'n cartrefi hynaf, gan ddarparu cartrefi cynnes a chlyd, gwella iechyd a llesiant pawb ac yn arbennig y mwyaf agored i niwed.

6. Yn credu ymhellach y byddai hyn yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd, lleihau'r allyriadau carbon drwy effeithlonrwydd ynni, lleihau'r defnydd o ynni a lleihau nifer y gorsafoedd pŵer newydd sydd angen inni eu hadeiladu.

7. Yn cydnabod y potensial ar gyfer twf economaidd, gan greu miloedd o swyddi ym mhob cymuned ym mhob rhan o Gymru.

Cefnogir gan:

Lee Waters (Llanelli)

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.35

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

6.

Dadl gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ei adroddiad ar ddyfodol polisïau amaethyddol a datblygu gwledig yng Nghymru

NDM6347 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ddyfodol rheoli tir yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mawrth 2017.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mehefin 2017.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.25

NDM6347 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ddyfodol rheoli tir yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mawrth 2017.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM6340 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae addysg uwch ran amser yn ei wneud i economi Cymru, yn arbennig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.

2. Yn cefnogi mentrau fel Wythnos Addysg Oedolion ac yn cydnabod pwysigrwydd cyfleoedd addysg oedolion ac addysg yn y gymuned i Gymru.

3. Yn croesawu'r pecyn cymorth arfaethedig ar gyfer addysg uwch ran amser a myfyrwyr rhan amser a gyflwynwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Diamond.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) darparu gwasanaeth cynghori ac addysg ym maes gyrfaoedd i bob oedran sy'n rhoi parch cydradd i opsiynau astudio llawn amser a rhan amser, yn cefnogi cynnydd i bobl sydd mewn cyflogaeth cyflog isel, ac yn cydnabod manteision ehangach addysg oedolion ac addysg yn y gymuned tuag at wella iechyd a llesiant; a

b) buddsoddi mewn addysg oedolion ac addysg yn y gymuned er mwyn hwyluso llwybrau i addysg bellach ac addysg uwch, a thrwy'r opsiynau hynny.

'Ymateb Llywodraeth Cymru i Argymhellion yr Adolygiad o Gymorth i Fyfyrwyr a Chyllid Addysg Uwch yng Nghymru ('Adolygiad Diamond')'

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru eisoes yn darparu gwasanaeth sy'n rhoi cyngor a chyfarwyddyd ynghylch gwybodaeth am yrfaoedd sy'n annibynnol ac yn ddwyieithog ar gyfer pobl o bob oedran a hynny drwy Yrfa Cymru.

Yn cydnabod uchelgais Llywodraeth Cymru wrth iddi ddatblygu cynllun cyflogadwyedd newydd ar gyfer pob oedran y mae a wnelo rhan allweddol ohoni â'r angen am gyngor effeithiol a chydgysylltiedig am yrfaoedd er mwyn cynorthwyo unigolion i fanteisio ar y cyfleoedd mwyaf priodol o ran addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.

Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol dysgu gan oedolion ynghyd â datblygu sgiliau ategol ar gyfer pobl o bob oedran.

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn annog Llywodraeth Cymru i gadarnhau ei chynigion ar gyfer cymorth i fyfyrwyr a chyllid addysg uwch cyn gynted ag y mae hynny'n rhesymol ymarferol er mwyn galluogi'r sector Addysg Uwch i gynllunio ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.31

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6340 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae addysg uwch ran amser yn ei wneud i economi Cymru, yn arbennig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.

2. Yn cefnogi mentrau fel Wythnos Addysg Oedolion ac yn cydnabod pwysigrwydd cyfleoedd addysg oedolion ac addysg yn y gymuned i Gymru.

3. Yn croesawu'r pecyn cymorth arfaethedig ar gyfer addysg uwch ran amser a myfyrwyr rhan amser a gyflwynwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Diamond.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) darparu gwasanaeth cynghori ac addysg ym maes gyrfaoedd i bob oedran sy'n rhoi parch cydradd i opsiynau astudio llawn amser a rhan amser, yn cefnogi cynnydd i bobl sydd mewn cyflogaeth cyflog isel, ac yn cydnabod manteision ehangach addysg oedolion ac addysg yn y gymuned tuag at wella iechyd a llesiant; a

b) buddsoddi mewn addysg oedolion ac addysg yn y gymuned er mwyn hwyluso llwybrau i addysg bellach ac addysg uwch, a thrwy'r opsiynau hynny.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

34

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru eisoes yn darparu gwasanaeth sy'n rhoi cyngor a chyfarwyddyd ynghylch gwybodaeth am yrfaoedd sy'n annibynnol ac yn ddwyieithog ar gyfer pobl o bob oedran a hynny drwy Yrfa Cymru.

Yn cydnabod uchelgais Llywodraeth Cymru wrth iddi ddatblygu cynllun cyflogadwyedd newydd ar gyfer pob oedran y mae a wnelo rhan allweddol ohoni â'r angen am gyngor effeithiol a chydgysylltiedig am yrfaoedd er mwyn cynorthwyo unigolion i fanteisio ar y cyfleoedd mwyaf priodol o ran addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.

Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol dysgu gan oedolion ynghyd â datblygu sgiliau ategol ar gyfer pobl o bob oedran.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

24

52

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn annog Llywodraeth Cymru i gadarnhau ei chynigion ar gyfer cymorth i fyfyrwyr a chyllid addysg uwch cyn gynted ag y mae hynny'n rhesymol ymarferol er mwyn galluogi'r sector Addysg Uwch i gynllunio ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

1

52

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM6340 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae addysg uwch ran amser yn ei wneud i economi Cymru, yn arbennig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.

2. Yn cefnogi mentrau fel Wythnos Addysg Oedolion ac yn cydnabod pwysigrwydd cyfleoedd addysg oedolion ac addysg yn y gymuned i Gymru.

3. Yn croesawu'r pecyn cymorth arfaethedig ar gyfer addysg uwch ran amser a myfyrwyr rhan amser a gyflwynwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Diamond.

4. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru eisoes yn darparu gwasanaeth sy'n rhoi cyngor a chyfarwyddyd ynghylch gwybodaeth am yrfaoedd sy'n annibynnol ac yn ddwyieithog ar gyfer pobl o bob oedran a hynny drwy Yrfa Cymru.

5. Yn cydnabod uchelgais Llywodraeth Cymru wrth iddi ddatblygu cynllun cyflogadwyedd newydd ar gyfer pob oedran y mae a wnelo rhan allweddol ohoni â'r angen am gyngor effeithiol a chydgysylltiedig am yrfaoedd er mwyn cynorthwyo unigolion i fanteisio ar y cyfleoedd mwyaf priodol o ran addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.

6. Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol dysgu gan oedolion ynghyd â datblygu sgiliau ategol ar gyfer pobl o bob oedran.

7. Yn annog Llywodraeth Cymru i gadarnhau ei chynigion ar gyfer cymorth i fyfyrwyr a chyllid addysg uwch cyn gynted ag y mae hynny'n rhesymol ymarferol er mwyn galluogi'r sector Addysg Uwch i gynllunio ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

8.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.31

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

9.

Dadl Fer

NDM6338 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Technoleg a'r Gymraeg: Perygl neu gyfle?

Sut y mae'r Gymraeg yn ymdopi â heriau, bygythiadau a chyfleon y dechnoleg newydd.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.33

NDM6338 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Technoleg a'r Gymraeg: Perygl neu gyfle?

Sut y mae'r Gymraeg yn ymdopi â heriau, bygythiadau a chyfleon y dechnoleg newydd