Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 84(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/07/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld
Cofnod
y Trafodion |
||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Bydd
y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 13.30 Gofynnwyd y 6
chwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(20 muned) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 14.20 Gofynnwyd y 4
cwestiwn. |
|||||||||
(20 muned) |
Cwestiynau Amserol I
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Julie Morgan
(Gogledd Caerdydd):
Beth yw'r goblygiadau i Gymru yn dilyn y penderfyniad i gynnal ymchwiliad cyhoeddus
i'r sgandal gwaed halogedig? I
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith (i’w ateb gan y Gweinidog
Sgiliau a Gwyddoniaeth): Eluned Morgan
(Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ynghylch y swyddi a
gaiff eu colli o ganlyniad i'r penderfyniad i gau swyddfeydd yr Adran Gwaith a
Phensiynau yn Llanelli ac mewn rhannau eraill o Gymru? I
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: Mohammad
Asghar (Dwyrain De Cymru):
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn
bwriadu atal swyddi rhag cael eu colli yng Coilcolor yng Nghasnewydd? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.37 I Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd,
Llesiant a Chwaraeon: Julie Morgan
(Gogledd Caerdydd): Beth
yw'r goblygiadau i Gymru yn dilyn y penderfyniad i gynnal ymchwiliad cyhoeddus
i'r sgandal gwaed halogedig? I Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r
Seilwaith (atebwyd gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth): Eluned Morgan
(Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa
drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ynghylch y swyddi a gaiff
eu colli o ganlyniad i'r penderfyniad i gau swyddfeydd yr Adran Gwaith a
Phensiynau yn Llanelli ac mewn rhannau eraill o Gymru? I Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r
Seilwaith: Mohammad
Asghar (Dwyrain De Cymru): A
wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn
bwriadu atal swyddi rhag cael eu colli yng Coilcolor yng Nghasnewydd? |
|||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.18 Gwnaeth Suzy Davies
ddatganiad ar Gyfeillion Rhaeadr Aberdulais, grŵp elusennol a ddathlodd 30
mlynedd ers ei sefydlu yn ddiweddar. Gwnaeth Vikki Howells
ddatganiad ar 'Gôr Mawr Caradog': buddugoliaeth Undeb Corawl De Cymru yng
Nghwpan Her y Palas Grisial ar 10 Gorffennaf 1873. Gwnaeth Simon Thomas ddatganiad i nodi 50
mlynedd ers Deddf yr Iaith Gymraeg 1967. |
|||||||||
(60 munud) |
Cynnig i gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Pumed Cynulliad a nodi'r adroddiad cydymffurfio ar gyfer y cyfnod 2015-2017 NDM6365 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cymeradwyo Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, yn unol â pharagraff
8(11)(d) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron
Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 5 Gorffennaf 2017; a 2.
Yn nodi'r Adroddiad Cydymffurfio ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y
Cynulliad ar gyfer y cyfnod 2015-2017, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i
Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
ar 5 Gorffennaf 2017. Dogfennau
ategol: Cynllun
Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad Adroddiad
Cydymffurfio ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad 2015-2017 Llythyr
gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu at Adam Price (31
Mai 2017) Llythyr
gan Adam Price at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu (6
Mehefin 2017) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.23 NDM6365 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cymeradwyo Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, yn unol â pharagraff
8(11)(d) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron
Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 5 Gorffennaf 2017; a 2.
Yn nodi'r Adroddiad Cydymffurfio ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y
Cynulliad ar gyfer y cyfnod 2015-2017, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i
Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
ar 5 Gorffennaf 2017. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM6348 David
Melding (Canol De Cymru) Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru) Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Julie
Morgan (Gogledd Caerdydd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi mai Cymru yw'r unig un o'r gwledydd cartref sydd heb ganolfan
rhewmatoleg bediatrig arbenigol; 2.
Yn nodi bod tua 400 o blant yn ne Cymru yn unig sy'n dioddef o arthritis
idiopathig ieuenctid; 3.
Yn cydnabod yr angen am ganolfan rhewmatoleg bediatrig amlddisgyblaeth yng
Nghymru; 4.
Yn nodi bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn cynnal adolygiad
cynhwysfawr o wasanaethau pediatrig arbenigol yng Nghymru; a 5.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi galwadau gan Gofal Arthritis, y
Gymdeithas Arthritis Gwynegol Genedlaethol a Chymdeithas Brydeinig Rhewmatoleg
ar gyfer creu canolfan rhewmatoleg bediatrig amlddisgyblaeth benodedig lwyr yng
Nghymru. Cefnogir
gan: Angela
Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.50 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. NDM6348 David
Melding (Canol De Cymru) Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru) Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Julie
Morgan (Gogledd Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi mai Cymru yw'r unig un o'r gwledydd
cartref sydd heb ganolfan rhewmatoleg bediatrig arbenigol; 2. Yn nodi bod tua 400 o blant yn ne Cymru yn unig
sy'n dioddef o arthritis idiopathig ieuenctid; 3. Yn cydnabod yr angen am ganolfan rhewmatoleg
bediatrig amlddisgyblaeth yng Nghymru; 4. Yn nodi bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd
Arbenigol Cymru yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o wasanaethau pediatrig
arbenigol yng Nghymru; a 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi galwadau
gan Gofal Arthritis, y Gymdeithas Arthritis Gwynegol Genedlaethol a Chymdeithas
Brydeinig Rhewmatoleg ar gyfer creu canolfan rhewmatoleg bediatrig
amlddisgyblaeth benodedig lwyr yng Nghymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar y Ddeiseb 'Amddiffyn Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru' NDM6362 David
Rowlands (Dwyrain De Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi deiseb P-05-756 Diogelu Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru sydd wedi derbyn
5,383 o lofnodion. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.46 NDM6362 David
Rowlands (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi deiseb P-05-756 Diogelu Cerddoriaeth Fyw yng
Nghymru sydd wedi derbyn 5,383 o lofnodion. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.28 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6363 Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd) Cofio
Srebrenica Cofnodion: |