Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Amseriad disgwyliedig: 112(v3) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/01/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 3.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 2–9. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 3, 5, 6, 8 a 9 gan Weinidog yr Amgylchedd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 3.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.16

Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1, 2 a 7 gan y Gweinidog Tai ac Adfywio. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fuddsoddiad £2.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn TVR?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.04

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fuddsoddiad £2.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn TVR?

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.19

Gwnaeth Dawn Bowden ddatganiad ar Synagog Merthyr Tudful.

Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad i nodi 23 mlynedd ers ail-agor Glofa’r Tŵr.

Gwnaeth Simon Thomas ddatganiad ar Fws Arfordir Llŷn.

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Dechreuodd yr eitem am 15.23

NDM6630 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mandy Jones (Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(30 munud)

5.

Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

NDM6576 Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil Parhad i Gymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai cadarnhau bod yr holl bynciau a oedd yn rhan o gyfraith yr UE yn parhau o fewn cyfraith Cymru lle bônt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Deddf Cymru 2017.

Cefnogwyr:

Adam Price (Dwyrain Casnewydd a Dinefwr)
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Leanne Wood (Rhondda)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Sian Gwenllian (Arfon)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.24

NDM6576 Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil Parhad i Gymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai cadarnhau bod yr holl bynciau a oedd yn rhan o gyfraith yr UE yn parhau o fewn cyfraith Cymru lle bônt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Deddf Cymru 2017.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

6.

Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

NDM6565

Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Leanne Wood (Rhondda)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod tystiolaeth glinigol o effeithiolrwydd canabis at ddibenion meddyginiaethol.

2. Yn cydnabod, er mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU lle mae'r cyffur rheoli symptomau canabinoid Sativex ar gael ar y GIG, ei fod dim ond wedi'i drwyddedu i drin sbastigedd ac yna dim ond ar gael i grŵp bach o bobl sy'n byw gyda sglerosis ymledol (MS) ac sy'n bodloni'r meini prawf.

3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ofyn i Lywodraeth y DU ailddyrannu canabis at ddibenion meddyginiaethol; ac, wrth baratoi ar gyfer y canlyniad hwn, y dylai Llywodraeth Cymru nodi sut y gellid sicrhau bod system o fewn y GIG lle gallai canabis at ddibenion meddyginiaethol fod ar gael drwy bresgripsiwn i'r rhai a allai elwa ohono.

4. Yn nodi:

a) bod llawer o bobl sy'n byw gyda chyflyrau fel sglerosis ymledol, dystonia, epilepsi a chanser yng Nghymru yn defnyddio canabis a gawsant yng anghyfreithlon at ddibenion meddyginiaethol ond, drwy wneud hynny, yn wynebu'r risg o gael eu herlyn a hefyd wynebu perygl o gyffuriau eraill;

b) bod y grŵp seneddol hollbleidiol ar ddiwygio'r polisi ar gyffuriau yn Nhŷ'r Cyffredin wedi galw'n bendant ar Lywodraeth y DU i gyfreithloni canabis meddygol yn seiliedig ar ganlyniadau ei ymchwiliad saith mis i'r mater a chanfyddiadau'r adolygiad annibynnol o dystiolaeth fyd-eang o dan arweiniad yr Athro Michael P. Barnes;

c) bod nifer cynyddol o wledydd sy'n rheoleiddio canabis a deilliadau canabis at ddefnydd meddygol, megis Canada, yr Iseldiroedd, Israel a bod dros 20 talaith yn yr Unol Daleithiau yn rheoleiddio canabis gwair at ddefnydd meddygol;

d) bod nifer o wledydd, gan gynnwys yr Almaen a'r Swistir, yn galluogi cleifion i fewnforio canabis at ddefnydd meddygol o'r Iseldiroedd;

e) bod MS Society UK wedi newid ei safbwynt polisi i alw ar Lywodraeth y DU a chyrff iechyd i ddatblygu system sy'n cyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol, yn sgil tystiolaeth gadarnhaol am ddefnyddio canabis i drin poen a spastigedd;

f) y cafodd Bil rheol 10 munud yr Aelod Seneddol dros Gasnewydd, Paul Flynn, ar gyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol ei drosglwyddo'n ddiwrthwynebiad ar 10 Hydref i'r darlleniad nesaf ar 23 Chwefror 2018.

Report of the Inquiry of the All Party Parliamentary Group for Drug Policy Reform into medicinal cannabis (Saesneg yn unig)
Cannabis: The Evidence for Medical Use - Professor Michael P Barnes (Saesneg yn unig)
MS Society UK - Cannabis and MS (Saesneg yn unig)
Legalisation of Cannabis (Medicinal Purposes) Bill 2017-19 (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.56

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6565

Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Leanne Wood (Rhondda)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod tystiolaeth glinigol o effeithiolrwydd canabis at ddibenion meddyginiaethol.

2. Yn cydnabod, er mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU lle mae'r cyffur rheoli symptomau canabinoid Sativex ar gael ar y GIG, ei fod dim ond wedi'i drwyddedu i drin sbastigedd ac yna dim ond ar gael i grŵp bach o bobl sy'n byw gyda sglerosis ymledol (MS) ac sy'n bodloni'r meini prawf.

3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ofyn i Lywodraeth y DU ailddyrannu canabis at ddibenion meddyginiaethol; ac, wrth baratoi ar gyfer y canlyniad hwn, y dylai Llywodraeth Cymru nodi sut y gellid sicrhau bod system o fewn y GIG lle gallai canabis at ddibenion meddyginiaethol fod ar gael drwy bresgripsiwn i'r rhai a allai elwa ohono.

4. Yn nodi:

a) bod llawer o bobl sy'n byw gyda chyflyrau fel sglerosis ymledol, dystonia, epilepsi a chanser yng Nghymru yn defnyddio canabis a gawsant yng anghyfreithlon at ddibenion meddyginiaethol ond, drwy wneud hynny, yn wynebu'r risg o gael eu herlyn a hefyd wynebu perygl o gyffuriau eraill;

b) bod y grŵp seneddol hollbleidiol ar ddiwygio'r polisi ar gyffuriau yn Nhŷ'r Cyffredin wedi galw'n bendant ar Lywodraeth y DU i gyfreithloni canabis meddygol yn seiliedig ar ganlyniadau ei ymchwiliad saith mis i'r mater a chanfyddiadau'r adolygiad annibynnol o dystiolaeth fyd-eang o dan arweiniad yr Athro Michael P. Barnes;

c) bod nifer cynyddol o wledydd sy'n rheoleiddio canabis a deilliadau canabis at ddefnydd meddygol, megis Canada, yr Iseldiroedd, Israel a bod dros 20 talaith yn yr Unol Daleithiau yn rheoleiddio canabis gwair at ddefnydd meddygol;

d) bod nifer o wledydd, gan gynnwys yr Almaen a'r Swistir, yn galluogi cleifion i fewnforio canabis at ddefnydd meddygol o'r Iseldiroedd;

e) bod MS Society UK wedi newid ei safbwynt polisi i alw ar Lywodraeth y DU a chyrff iechyd i ddatblygu system sy'n cyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol, yn sgil tystiolaeth gadarnhaol am ddefnyddio canabis i drin poen a spastigedd;

f) y cafodd Bil rheol 10 munud yr Aelod Seneddol dros Gasnewydd, Paul Flynn, ar gyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol ei drosglwyddo'n ddiwrthwynebiad ar 10 Hydref i'r darlleniad nesaf ar 23 Chwefror 2018.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

18

2

51

Derbyniwyd y cynnig.

(60 munud)

7.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Glystyrau Gofal Sylfaenol

NDM6624 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Glystyrau Gofal Sylfaenol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Hydref 2017.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Ionawr 2018.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.48

NDM6624 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Glystyrau Gofal Sylfaenol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Hydref 2017.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Ionawr 2018.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.41

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

9.

Dadl Fer

NDM6625 Lee Waters (Llanelli)

Mae'r robotiaid yn dod – mae angen i Gymru gael cynllun ar gyfer awtomateiddio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.42