Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 168(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/11/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad gan y Llywydd Gwnaeth y Llywydd ddatganiad i nodi blwyddyn ers
marwolaeth Carl Sargeant. Ar ran holl Aelodau’r Cynulliad a staff,
cydymdeimlodd y Llywydd yn ddwys â Jack Sargeant a’i deulu. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1 a 2, 4-8 a 10-14. Tynnwyd cwestiynau 3 a 9 yn ôl. Atebwyd cwestiynau
8 ac 11 gan Weinidog yr Amgylchedd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i
ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.15 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 1, 5 ac 8 eu grwpio i’w hateb gyda’i
gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd
y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Cafodd y trafodion eu hatal dros dro gan y Llywydd am 14.39 oherwydd i
ddiffyg ar y meicroffonau effeithio ar y Siambr. Ailymgynullodd y cyfarfod am
15.30. Cafodd y gloch ei chanu 5 munud cyn ailymgynnull. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros
Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Rhun Ap Iorwerth (Ynys Môn): Pa drafodaethau sydd wedi
bod rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynglŷn â hyfforddi
peilotiaid Saudi Arabia yn RAF y Fali? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.53 Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros
Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Rhun
Ap Iorwerth (Ynys Môn):
Pa drafodaethau sydd wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynglŷn
â hyfforddi peilotiaid o Saudi Arabia yn RAF y Fali? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.00 Gwnaeth
Bethan Sayed ddatganiad am - Cofio Carl Sargeant. Gwnaeth
Jane Hutt ddatganiad am - Menywod yn y Rhyfel Byd 1af. Gwnaeth
David Rees ddatganiad am 36 mlynedd o
redeg ras 10k Richard Burton. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor Dechreuodd yr eitem am 16.06 NDM6857
Elin Jones (Ceredigion) Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cyllid wedi'i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol NDM6852
Lynne Neagle (Torfaen) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adroddiad y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Cyrraedd y nod? Cyllid wedi’i Dargedu i
Wella Canlyniadau Addysgol', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20
Mehefin 2018. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru
ar 31 Hydref 2018. Cofnodion: NDM6852 Lynne Neagle (Torfaen) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adroddiad y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Cyrraedd y nod? Cyllid wedi’i Dargedu i
Wella Canlyniadau Addysgol', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Mehefin 2018 Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Brexit a Chydraddoldebau – Canfyddiadau ar y cyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol NDM6848
John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi casgliadau'r
Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion
Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar 'Brexit a Chydraddoldebau' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25
Hydref 2018. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.56 NDM6848
John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi casgliadau'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r
Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar 'Brexit a
Chydraddoldebau' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25
Hydref 2018. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Lluoedd Arfog NDM6854
Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Mae Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Sul y Cofio
eleni yn nodi canmlwyddiant Diwrnod y Cadoediad a ddiwedd y rhyfel byd cyntaf. 2. Yn croesawu ymgyrch
'Thank you 100' y Lleng Brydeinig Frenhinol, sy'n cofio'r rhai a wasanaethodd,
aberthodd a newidodd ein byd rhwng 1914 a 1918. 3. Yn anrhydeddu cyfraniad
y rheini sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu yn ein lluoedd
arfog. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i benodi comisiynydd y lluoedd arfog i Gymru er mwyn sicrhau
bod Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei gynnal. Cyfamod y Lluoedd Arfog (Saesneg yn
unig) Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant
1 - Julie James (Gorllewin Abertawe) Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le: Yn croesawu penodi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog
drwy Gymru a dull cydweithredol Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog o fynd ati
i sicrhau bod Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei gynnal. Gwelliant
2 - Neil McEvoy (Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau Deddf peidio â
gadael yr un milwr ar ôl a fyddai'n gwarantu ansawdd tai a gofal iechyd i
gyn-filwyr sydd wedi gweld gwasanaeth gweithredol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.34 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6854 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Sul y Cofio eleni yn nodi canmlwyddiant Diwrnod y
Cadoediad a ddiwedd y rhyfel byd cyntaf. 2. Yn croesawu ymgyrch 'Thank you 100' y Lleng Brydeinig Frenhinol, sy'n
cofio'r rhai a wasanaethodd, aberthodd a newidodd ein byd rhwng 1914 a 1918. 3. Yn anrhydeddu cyfraniad y rheini sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau
i wasanaethu yn ein lluoedd arfog. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i benodi comisiynydd y lluoedd arfog i
Gymru er mwyn sicrhau bod Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei gynnal.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu pwynt 4 a rhoi yn
ei le: Yn croesawu penodi
Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog drwy Gymru a dull cydweithredol Grŵp
Arbenigol y Lluoedd Arfog o fynd ati i sicrhau bod Cyfamod y Lluoedd Arfog yn
cael ei gynnal. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau Deddf peidio â gadael yr un milwr ar ôl a fyddai'n gwarantu
ansawdd tai a gofal iechyd i gyn-filwyr sydd wedi gweld gwasanaeth gweithredol. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. NDM6854 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Sul y Cofio eleni yn nodi canmlwyddiant Diwrnod y
Cadoediad a ddiwedd y rhyfel byd cyntaf. 2. Yn croesawu ymgyrch 'Thank you 100' y Lleng Brydeinig Frenhinol, sy'n
cofio'r rhai a wasanaethodd, aberthodd a newidodd ein byd rhwng 1914 a 1918. 3. Yn anrhydeddu cyfraniad y rheini sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau
i wasanaethu yn ein lluoedd arfog. 4. Yn croesawu penodi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog drwy Gymru a
dull cydweithredol Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog o fynd ati i sicrhau bod
Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei gynnal.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.35 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.37 NDM6853 Angela
Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) Cymru wledig - economi
i'w hyrwyddo. |