Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 169(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/11/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd
y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif
Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.17 |
|||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Gwerthfawrogi ein Hathrawon – Buddsoddi yn eu Rhagoriaeth Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.41 |
|||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Diwygio Trefniadau Llywodraethu a Chyllid Awdurdodau Tân ac Achub Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.19 |
|||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Gwella Canlyniadau i Blant: Lleihau'r Angen i Blant fynd i Mewn i Ofal, a Gwaith Grŵp Cynghori'r Gweinidog Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.58 |
|||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Lles Anifeiliaid Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.42 |
|||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynlluniau Cyflenwi ar gyfer y Gaeaf Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 17.15 |
|||||||||||||||||
Cynigiodd y Llywydd y dylid trafod eitemau 8 a 9 gyda’i gilydd, gan bleidleisio arnynt ar wahân. Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad. |
||||||||||||||||||
Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018 NDM6858 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o
Orchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol
â’r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Hydref 2018. Dogfen Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.51 Cytunwyd o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda’i
gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân. Dechreuodd yr eitem am 17.51 NDM6858 - Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo
bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018 yn
cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15
Hydref 2018. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||
Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Apelau) (Cymru) 2018 NDM6859 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn
unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Draenio Cynaliadwy
(Apelau) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Hydref 2018.
Dogfen Ategol Cofnodion: NDM6859 - Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo
bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Draenio Cynaliadwy (Apelau) (Cymru) 2018 yn
cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15
Hydref 2018. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2017-18 NDM6855 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adroddiad
Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2017-18. Adroddiad
Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2017-18. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 – Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu fel pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod y
Comisiynydd Plant wedi sgorio cynnydd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â
gwasanaethau elw mewn gofal, iaith arwyddion Prydain, eiriolaeth iechyd, gofal
plant ac addysg yn y cartref dewisol fel coch, sy'n golygu na chafwyd unrhyw
dystiolaeth o newidiadau polisi neu arfer ers y gwnaethpwyd yr argymhelliad a
ni chafwyd unrhyw welliant o ran profiadau plant. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.55 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6855 - Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adroddiad
Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2017-18. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu fel pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod y
Comisiynydd Plant wedi sgorio cynnydd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â
gwasanaethau elw mewn gofal, iaith arwyddion Prydain, eiriolaeth iechyd, gofal
plant ac addysg yn y cartref dewisol fel coch, sy'n golygu na chafwyd unrhyw
dystiolaeth o newidiadau polisi neu arfer ers y gwnaethpwyd yr argymhelliad a
ni chafwyd unrhyw welliant o ran profiadau plant. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6855 - Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adroddiad
Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2017-18.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
18.32 |
||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |