Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 181(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Teyrngedau i Steffan Lewis AC Yn dilyn yr eitem hon, bydd y Llywydd yn gohirio’r cyfarfod am 10 munud. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 12.45 Arweiniwyd y
Cynulliad gan y Llywydd i nodi munud o dawelwch, a chanwyd y gloch ar ddechrau
ac ar ddiwedd y tawelwch. Arweiniodd y Llywydd y teyrngedau a galwodd ar
Aelodau i gyfrannu. Am 13.51, gohiriwyd
y trafodion am 9 munud. Canwyd y gloch 5 munud cyn ailymgynnull. |
||||||||||
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem am
14.00 Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Carwyn Jones (Pen-y-Bont ar Ogwr): Pa asesiad mae’r Gweinidog wedi ei wneud
o’r sefyllfa bresennol yn Ford Europe a’i heffaith bosibl ar y Ffatri
Beiriannau ym Mhen-y-bont ar Ogwr? |
||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd
y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif
Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i
ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.07 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit: Cynigion presennol Llywodraeth y DU ar gyfer Ymadael â’r UE Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.28 |
|||||||||
(15 munud) |
Dadl: Pennu Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2019-20 NDM6915 - Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 116D o Ddeddf Cymru 2014, yn
cytuno ar y penderfyniad ynghylch y cyfraddau Cymreig ar gyfer cyfraddau
Cymreig y dreth incwm yn 2019-20 fel a ganlyn: a) y gyfradd
Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c; b) y gyfradd
Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c; ac c) y gyfradd
Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.16 NDM6915 - Rebecca Evans (Gŵyr) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 116D o Ddeddf Cymru 2014, yn
cytuno ar y penderfyniad ynghylch y cyfraddau Cymreig ar gyfer cyfraddau
Cymreig y dreth incwm yn 2019-20 fel a ganlyn: a)
y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c; b)
y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c; ac c)
y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl: Cyllideb Derfynol 2019-20 NDM6902 - Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25, yn cymeradwyo'r
Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019-20 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar 18 Rhagfyr
2018. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.29 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan
y Cyfnod Pleidleisio. NDM6902 - Rebecca Evans (Gŵyr) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25, yn
cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019-20 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar 18 Rhagfyr 2018.
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2019-20 NDM6903 - Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth
Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2019-2020
(Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd
copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Rhagfyr 2018. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.15 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan
y Cyfnod Pleidleisio. NDM6903 - Rebecca Evans (Gŵyr) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid
Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1)
2019-2020 (Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 19 Rhagfyr 2018.
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 18.00 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |