Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 186(v6)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 30/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad y Llywydd Cyhoeddodd
y Llywydd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Deddf Cyllido Gofal Plant
(Cymru) 2018 wedi cael Cydsyniad Brenhinol y diwrnod hwnnw. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau
i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau
i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.16 Gofynnwyd y 6 chwestiwn
cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2 a 3 gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a
Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.13 Gofynnwyd y 4 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn
i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bethan
Sayed (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ymateb i adolygiad
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i ymdriniaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe
Bro Morgannwg â honiadau a wnaeth cleifion ag anawsterau dysgu ynghylch
ymosodiadau rhyw yn erbyn gweithiwr gofal? Gofyn
i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Rhun Ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gamau gweithredu
Llywodraeth Cymru yn dilyn penderfyniad REHAU Ltd. i ymgynghori ar ddyfodol ei
ffatri yn Amlwch? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.24 Gofyn i’r Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bethan Sayed (Gorllewin
De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ymateb i adolygiad Arolygiaeth
Gofal Iechyd Cymru i ymdriniaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
â honiadau a wnaeth cleifion ag anawsterau dysgu ynghylch ymosodiadau rhyw yn
erbyn gweithiwr gofal? Gofyn i Weinidog yr
Economi a Thrafnidiaeth Rhun Ap Iorwerth (Ynys
Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gamau gweithredu
Llywodraeth Cymru yn dilyn penderfyniad REHAU Ltd. i ymgynghori ar ddyfodol ei
ffatri yn Amlwch? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.47 Gwnaeth Vikki Howells
ddatganiad am Gwneud Cymru yn Genedl o Ffrindiau yn erbyn Sgamiau Gwnaeth
Jayne Bryant ddatganiad am Gêm Gwpan yr FA rhwng Casnewydd a Middlesbrough. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig i atal dros dro Reolau Sefydlog 11.16 a 12.20(i) er mwyn caniatáu cynnal dadl ar y cynnig i ddiwygio rheolau sefydlog (5 munud) NNDM6956 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn
atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei
gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn
darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er
mwyn caniatáu i’r eitem fusnes nesaf gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd
Mercher, 30 Ionawr 2019. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog (5 munud) NNDM6955
Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Cynulliad
Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes
‘Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12 – Cwestiynau Llafar y Cynulliad
i'r Cwnsler Cyffredinol’ a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Ionawr 2019; ac 2. Yn cymeradwyo’r
cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 12, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y
Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Systemau Gwybodeg GIG Cymru NDM6948
Nick
Ramsay (Mynwy) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Systemau
Gwybodeg GIG Cymru - a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Tachwedd 2018. Noder: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2018 Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.51 NDM6948 Nick
Ramsay (Mynwy) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Systemau
Gwybodeg GIG Cymru - a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Tachwedd 2018. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Carchardai a Chyfiawnder Troseddol NDM6949
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r adroddiad
gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru: Dedfrydu a Dalfa yng Nghymru: Ffeil
Ffeithiau. 2. Yn mynegi pryder am
ganfyddiadau’r adroddiad mai yng Nghymru y mae’r raddfa garcharu uchaf yng
ngorllewin Ewrop, a bod dedfrydau llymach yng Nghymru yn cael effaith anghymesur
ar fenywod, pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a chymunedau difreintiedig. 3. Yn nodi gwaith
ymchwil blaenorol gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru sydd wedi datgelu
problemau helaeth o ran diogelwch a lles yng ngharchardai Cymru, gan gynnwys
graddau cynyddol o gamddefnyddio sylweddau, hunan-niweidio, trais a
hunanladdiad. 4. Yn nodi bod nifer o
droseddwyr ifanc o Gymru yn treulio amser eu dedfryd mewn carchardai yn Lloegr,
a bod y carchar yn cael effaith negyddol sylweddol ar gyfleoedd bywyd pobl
ifanc yn y dyfodol. 5. Yn galw am: a) datganoli
cyfiawnder troseddol yn gyfan gwbl i Gymru; b) diystyru adeiladu
rhagor o ‘Uwch garchardai’ ar unrhyw safle yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyfleu’r gwrthwynebiad hwn i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder; c) ailuno'r gwasanaeth
prawf yn gyfan gwbl a rhoi diwedd ar breifateiddio rhannol; d) ffocws ar ddulliau
cymunedol ar gyfer troseddau nad ydynt yn rhai treisgar a rhoi'r gorau i
or-ddefnyddio dedfrydau carcharu byr; e) rhoi diwedd ar
ddedfrydau o garchar i bobl ifanc a menywod ac eithrio mewn amgylchiadau
neilltuol; f) yr hawl i
garcharorion bleidleisio yn etholiadau Cymru. Canolfan
Llywodraethiant Cymru - Dedfrydu a Dalfa yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau
(Saesneg yn unig) Canolfan
Llywodraethiant Cymru - Carcharu yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau (Saesneg yn
unig) Pwyllgor
Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin: Tystiolaeth Atodol - Dr Robert Jones,
Canolfan Llywodraethiant Cymru, Medi 2018 (Saesneg yn unig) Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Gareth
Bennett (Canol De Cymru) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi adroddiad
Canolfan Llywodraethiant Cymru, Dedfrydu a Dalfa, Carcharu yng Nghymru a
thystiolaeth atodol i'r Pwyllgor Dethol Materion Cymreig. 2. Yn nodi ymhellach
bod 11 y cant o gyfanswm poblogaeth carchardai Cymru a Lloegr, yn ôl y
Weinyddiaeth Gyfiawnder, ym mis Hydref 2018, yn wladolion tramor, a'r mwyaf
cyffredin yn dod o Wlad Pwyl, Albania, Iwerddon a Rwmania. 3. Yn credu: a) y dylid ariannu
gwasanaeth y carchardai yn ddigonol a rhoi tâl digonol i swyddogion carchardai; b) y dylai pob
carcharor a gaiff ei gadw yn y ddalfa gan swyddogion y Goron fod yn atebol i
Weinidogion Llywodraeth y DU ac nid cwmnïau preifat; c) y dylai Llywodraeth
Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i wyrdroi preifateiddio'r system
garchardai; d) y dylai troseddwyr
o dramor gael eu halltudio i fwrw eu dedfryd yn eu gwledydd eu hunain, ac y
dylai troseddwyr o'r fath gael eu gwahardd rhag dychwelyd i'r DU; e) y dylai carchardai newydd
gael eu hadeiladu fel y bo angen ledled y DU i ddarparu ar gyfer nifer y bobl a
gaiff eu dyfarnu'n euog o droseddau sy'n dwyn cosb o garchar. Bwletin
Ystadegau Rheoli Troseddwyr, Cymru a Lloegr (Saesneg yn unig) [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol] Gwelliant
2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn nodi ffocws gan y
Weinyddiaeth Gyfiawnder ar wasanaethau adsefydlu, dedfrydau cymunedol a lleihau
aildroseddu. [Os derbynnir
gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol] Gwelliant
3 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 5 a rhoi
yn ei le: Yn croesawu gwaith y
Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ac yn edrych ymlaen at ei argymhellion ynglŷn
â’r cyfrifoldeb am blismona a chyfiawnder yng Nghymru yn y dyfodol. Yn galw am: a) diystyru adeiladu
rhagor o ‘uwch garchardai’ ar unrhyw safle yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyfleu’r gwrthwynebiad hwn i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder; b) ailuno'r gwasanaeth
prawf yn gyfan gwbl a rhoi diwedd ar breifateiddio rhannol; c) ffocws ar ddulliau
cymunedol ar gyfer troseddau nad ydynt yn rhai treisgar a rhoi'r gorau i
or-ddefnyddio dedfrydau carcharu byr; d) rhoi diwedd ar
ddedfrydau o garchar i bobl ifanc a menywod ac eithrio mewn amgylchiadau
neilltuol; ac e) yr hawl i
garcharorion bleidleisio yn etholiadau Cymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.24 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6949
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant
Cymru: Dedfrydu a Dalfa yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau. 2. Yn mynegi pryder am ganfyddiadau’r adroddiad mai
yng Nghymru y mae’r raddfa garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop, a bod dedfrydau
llymach yng Nghymru yn cael effaith anghymesur ar fenywod, pobl dduon a
lleiafrifoedd ethnig a chymunedau difreintiedig. 3. Yn nodi gwaith ymchwil blaenorol gan Ganolfan
Llywodraethiant Cymru sydd wedi datgelu problemau helaeth o ran diogelwch a
lles yng ngharchardai Cymru, gan gynnwys graddau cynyddol o gamddefnyddio
sylweddau, hunan-niweidio, trais a hunanladdiad. 4. Yn nodi bod nifer o droseddwyr ifanc o Gymru yn
treulio amser eu dedfryd mewn carchardai yn Lloegr, a bod y carchar wedi cael
effaith negyddol sylweddol ar gyfleoedd bywyd pobl ifanc yn y dyfodol. 5. Yn galw am: a) datganoli cyfiawnder troseddol yn llwyr i Gymru; b) diystyru adeiladu rhagor o ‘Uwch garchardai’ ar
unrhyw safle yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfleu’r
gwrthwynebiad hwn i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder; c) ailuno'r gwasanaeth prawf yn gyfan gwbl a rhoi
diwedd ar breifateiddio rhannol; d) ffocws ar ddulliau cymunedol ar gyfer troseddau
nad ydynt yn rhai treisgar a rhoi'r gorau i or-ddefnyddio dedfrydau carcharu
byr; e) rhoi diwedd ar ddedfrydau o garchar i bobl ifanc
a menywod ac eithrio mewn amgylchiadau neilltuol; f) yr hawl i garcharorion bleidleisio yn etholiadau
Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Gareth Bennett (Canol De Cymru) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru,
Dedfrydu a Dalfa, Carcharu yng Nghymru a thystiolaeth atodol i'r Pwyllgor
Dethol Materion Cymreig. 2. Yn nodi ymhellach bod 11 y cant o gyfanswm poblogaeth
carchardai Cymru a Lloegr, yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ym mis Hydref 2018,
yn wladolion tramor, a'r mwyaf cyffredin yn dod o Wlad Pwyl, Albania, Iwerddon
a Rwmania. 3. Yn credu: a) y dylid ariannu gwasanaeth y carchardai yn ddigonol a
rhoi tâl digonol i swyddogion carchardai; b) y dylai pob carcharor a gaiff ei gadw yn y ddalfa gan
swyddogion y Goron fod yn atebol i Weinidogion Llywodraeth y DU ac nid cwmnïau
preifat; c) y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y
DU i wyrdroi preifateiddio'r system garchardai; d) y dylai troseddwyr o dramor gael eu halltudio i fwrw
eu dedfryd yn eu gwledydd eu hunain, ac y dylai troseddwyr o'r fath gael eu
gwahardd rhag dychwelyd i'r DU; e) y dylai carchardai newydd gael eu hadeiladu fel y bo
angen ledled y DU i ddarparu ar gyfer nifer y bobl a gaiff eu dyfarnu'n euog o
droseddau sy'n dwyn cosb o garchar. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn nodi ffocws gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar
wasanaethau adsefydlu, dedfrydau cymunedol a lleihau aildroseddu. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Rebecca Evans (Gwyr) Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le: Yn croesawu gwaith y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru
ac yn edrych ymlaen at ei argymhellion ynglŷn â’r cyfrifoldeb am blismona
a chyfiawnder yng Nghymru yn y dyfodol. Yn galw am: a) diystyru adeiladu rhagor o ‘uwch garchardai’ ar unrhyw
safle yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfleu’r gwrthwynebiad hwn
i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder; b) ailuno'r gwasanaeth prawf yn gyfan gwbl a rhoi diwedd
ar breifateiddio rhannol; c) ffocws ar ddulliau cymunedol ar gyfer troseddau nad
ydynt yn rhai treisgar a rhoi'r gorau i or-ddefnyddio dedfrydau carcharu byr; d) rhoi diwedd ar ddedfrydau o garchar i bobl ifanc a
menywod ac eithrio mewn amgylchiadau neilltuol; ac e) yr hawl i garcharorion bleidleisio yn etholiadau
Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6949 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant
Cymru: Dedfrydu a Dalfa yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau. 2. Yn mynegi pryder am ganfyddiadau’r adroddiad mai
yng Nghymru y mae’r raddfa garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop, a bod dedfrydau
llymach yng Nghymru yn cael effaith anghymesur ar fenywod, pobl dduon a lleiafrifoedd
ethnig a chymunedau difreintiedig. 3. Yn nodi gwaith ymchwil blaenorol gan Ganolfan
Llywodraethiant Cymru sydd wedi datgelu problemau helaeth o ran diogelwch a
lles yng ngharchardai Cymru, gan gynnwys graddau cynyddol o gamddefnyddio
sylweddau, hunan-niweidio, trais a hunanladdiad. 4. Yn nodi bod nifer o droseddwyr ifanc o Gymru yn
treulio amser eu dedfryd mewn carchardai yn Lloegr, a bod y carchar wedi cael
effaith negyddol sylweddol ar gyfleoedd bywyd pobl ifanc yn y dyfodol. 5. Yn croesawu gwaith y Comisiwn ar Gyfiawnder yng
Nghymru ac yn edrych ymlaen at ei argymhellion ynglŷn â’r cyfrifoldeb am
blismona a chyfiawnder yng Nghymru yn y dyfodol. Yn galw am: a) diystyru adeiladu rhagor o ‘uwch garchardai’ ar
unrhyw safle yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfleu’r
gwrthwynebiad hwn i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder; b) ailuno'r gwasanaeth prawf yn gyfan gwbl a rhoi
diwedd ar breifateiddio rhannol; c) ffocws ar ddulliau cymunedol ar gyfer troseddau
nad ydynt yn rhai treisgar a rhoi'r gorau i or-ddefnyddio dedfrydau carcharu
byr; d) rhoi diwedd ar ddedfrydau o garchar i bobl ifanc
a menywod ac eithrio mewn amgylchiadau neilltuol; ac e) yr hawl i garcharorion bleidleisio yn etholiadau
Cymru.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar NNDM6958 - Y Rhagolygon am Gytundeb Brexit yn dilyn y Bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin NNDM6958 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn condemnio Llywodraeth y DU am fethu â chynnal negodiadau ystyrlon ynghylch y
cytundeb i ymadael â'r UE ar sail drawsbleidiol ac yn nhermau trafodaethau
diffuant â'r gweinyddiaethau datganoledig. 2.
Yn pwysleisio unwaith eto y byddai ymadael heb gytundeb yn drychinebus i Gymru
ac y dylai Llywodraeth a Senedd y DU wneud popeth o fewn eu grym i atal
sefyllfa o ymadael heb gytundeb, gan gynnwys gofyn am ymestyn dyddiad ymadael
Erthygl 50. 3.
Yn credu os, fel yr ymddengys ar hyn o bryd, nad oes modd i Senedd y DU uno i
gefnogi cynnig gwahanol sy'n cynnwys cymryd rhan yn y farchnad sengl ac mewn
undeb tollau, yna'r unig opsiwn sydd ar ôl yw dychwelyd y penderfyniad at y
bobl; ac yn credu y dylid dechrau gweithio ar unwaith i baratoi am bleidlais
gyhoeddus. 4.
Yn credu y dylai Senedd y DU fynd ati, ar unwaith, i drafod mwy gyda'r
gweinyddiaethau datganoledig am y materion hyn. Cyd-gyflwynwyr Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Gareth
Bennett (Canol De Cymru) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu bod safbwynt
bresennol Llywodraeth y DU o ran ymadael â'r UE yn negyddu canlyniad y
refferendwm yn sylweddol, gan gadw'r DU yn yr undeb tollau am gyfnod amhenodol
ac, i bob pwrpas, yn y farchnad sengl, gan ein hamddifadu o unrhyw lais
ffurfiol neu bleidlais ym mhenderfyniadau'r Undeb Ewropeaidd. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i dynnu ei safbwynt yn ôl o ran yr hyn â nodir yn
"Diogelu Dyfodol Cymru," a ysgrifennwyd ar y cyd â Phlaid Cymru, gan
fod hyn hefyd yn anwybyddu ewyllys pobl y DU, a Chymru, a bleidleisiodd yn
bendant i adael yr Undeb Ewropeaidd. 3. Yn cymeradwyo
ymadael â'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, heb unrhyw estyniad i Erthygl 50, ac
o dan delerau Sefydliad Masnach y byd. 4. Yn galw ar
Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i achub ar y cyfle i adfer sofraniaeth
genedlaethol Prydain y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. 5. Yn galw ar
Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i dderbyn ein bod yn gadael yr UE ar
delerau Sefydliad Masnach y Byd ar 29 Mawrth 2019, ac i ganolbwyntio pob
ymdrech, bellach, ar baratoi at y canlyniad hwn. [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant
2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i hwyluso dirprwyaeth seneddol i gael ei hanfon ar ran Cynulliad
Cenedlaethol Cymru i gwrdd â chynrychiolwyr seneddol a chynrychiolwyr y
llywodraeth yn San Steffan i gyflwyno'r achos dros Gymru fel y nodir yn y
cynnig hwn. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.25 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn condemnio
Llywodraeth y DU am fethu â chynnal negodiadau ystyrlon ynghylch y cytundeb i
ymadael â'r UE ar sail drawsbleidiol ac yn nhermau trafodaethau diffuant â'r
gweinyddiaethau datganoledig. 2. Yn pwysleisio
unwaith eto y byddai ymadael heb gytundeb yn drychinebus i Gymru ac y dylai
Llywodraeth a Senedd y DU wneud popeth o fewn eu grym i atal sefyllfa o ymadael
heb gytundeb, gan gynnwys gofyn am ymestyn dyddiad ymadael Erthygl 50. 3. Yn credu os, fel yr
ymddengys ar hyn o bryd, nad oes modd i Senedd y DU uno i gefnogi cynnig
gwahanol sy'n cynnwys cymryd rhan yn y farchnad sengl ac mewn undeb tollau, yna'r
unig opsiwn sydd ar ôl yw dychwelyd y penderfyniad at y bobl; ac yn credu y
dylid dechrau gweithio ar unwaith i baratoi am bleidlais gyhoeddus. 4. Yn credu y dylai
Senedd y DU fynd ati, ar unwaith, i drafod mwy gyda'r gweinyddiaethau
datganoledig am y materion hyn. Cyd-gyflwynwyr Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Gareth Bennett (Canol De Cymru) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu bod
safbwynt bresennol Llywodraeth y DU o ran ymadael â'r UE yn negyddu canlyniad y
refferendwm yn sylweddol, gan gadw'r DU yn yr undeb tollau am gyfnod amhenodol
ac, i bob pwrpas, yn y farchnad sengl, gan ein hamddifadu o unrhyw lais
ffurfiol neu bleidlais ym mhenderfyniadau'r Undeb Ewropeaidd. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i dynnu ei safbwynt yn ôl o ran yr hyn â nodir yn
"Diogelu Dyfodol Cymru," a ysgrifennwyd ar y cyd â Phlaid Cymru, gan
fod hyn hefyd yn anwybyddu ewyllys pobl y DU, a Chymru, a bleidleisiodd yn
bendant i adael yr Undeb Ewropeaidd. 3. Yn cymeradwyo
ymadael â'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, heb unrhyw estyniad i Erthygl 50, ac
o dan delerau Sefydliad Masnach y byd. 4. Yn galw ar
Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i achub ar y cyfle i adfer sofraniaeth
genedlaethol Prydain y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. 5. Yn galw ar
Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i dderbyn ein bod yn gadael yr UE ar
delerau Sefydliad Masnach y Byd ar 29 Mawrth 2019, ac i ganolbwyntio pob
ymdrech, bellach, ar baratoi at y canlyniad hwn. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Tynnwyd
gwelliant 2 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig. NNDM6958 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn condemnio Llywodraeth y DU am fethu â chynnal negodiadau ystyrlon ynghylch y
cytundeb i ymadael â'r UE ar sail drawsbleidiol ac yn nhermau trafodaethau
diffuant â'r gweinyddiaethau datganoledig. 2.
Yn pwysleisio unwaith eto y byddai ymadael heb gytundeb yn drychinebus i Gymru
ac y dylai Llywodraeth a Senedd y DU wneud popeth o fewn eu grym i atal
sefyllfa o ymadael heb gytundeb, gan gynnwys gofyn am ymestyn dyddiad ymadael
Erthygl 50. 3.
Yn credu os, fel yr ymddengys ar hyn o bryd, nad oes modd i Senedd y DU uno i
gefnogi cynnig gwahanol sy'n cynnwys cymryd rhan yn y farchnad sengl ac mewn
undeb tollau, yna'r unig opsiwn sydd ar ôl yw dychwelyd y penderfyniad at y
bobl; ac yn credu y dylid dechrau gweithio ar unwaith i baratoi am bleidlais
gyhoeddus. 4.
Yn credu y dylai Senedd y DU fynd ati, ar unwaith, i drafod mwy gyda'r
gweinyddiaethau datganoledig am y materion hyn. Cyd-gyflwynwyr
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
18.42 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6951
Bethan
Sayed (Gorllewin De Cymru) Newid lluniau,
niweidio bywydau. A yw bywyd ar-lein ac
mewn diwylliant poblogaidd yn niweidio ein realaet Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.46 NDM6951 Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru) Newid lluniau,
niweidio bywydau. A yw bywyd ar-lein ac
mewn diwylliant poblogaidd yn niweidio ein realaeth |