Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 187(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/02/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd
y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif
Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 13.30 Gofynnwyd yr 8
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.20 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Digartrefedd a Chysgu Allan Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.37 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fodel Buddsoddi Cydfuddiannol Cymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.28 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Dyfodol Rheilffordd Cymru NDM6954 – Rebecca
Evans (Gwŷr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn siomedig yn y tanfuddsoddi hanesyddol gan Lywodraeth y DU yn seilwaith
rheilffyrdd Cymru a chyfleoedd a gollwyd yn ddiweddar i wella capasiti
y seilwaith strategol yng Nghymru. 2.
Yn tynnu sylw at y gwaith, sydd wedi’i gyhoeddi, gan yr Athro Mark Barry: ‘Y
Rhwydwaith Rheilffyrdd yng Nghymru – Yr Achos dros Fuddsoddi’ a’r cynigion
ynddo i wella y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru a’r prif reilffyrdd sy’n
gwasanaethu Cymru. 3.
Yn cefnogi ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Rheilffyrdd Llywodraeth y DU
sy’n cael ei gynnal gan Keith Williams. 4.
Yn credu bod buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd strategol yn hanfodol i ba
mor gystadleuol fydd Cymru yn y dyfodol, waeth ar ba delerau y byddwn yn
ymadael â’r UE, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatblygu amserlen ar gyfer
bodloni ei rhwymedigaethau cyfredol ar gyfer y Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws
Ewropeaidd, gan gynnwys trydaneiddio prif reilffyrdd Gogledd a De Cymru yn
llawn. Y Rhwydwaith Rheilffyrdd
yng Nghymru – Yr Achos dros Fuddsoddi Datganiad
Ysgrifenedig yn cynnwys ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Rheilffyrdd
Llywodraeth y DU Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwellaint 1 – Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu pwynt 1. [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol] Gwellaint 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ym mhwynt 1, dileu
'siomedig yn y' a rhoi yn ei le 'condemnio’r'. Gwellaint 3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Mewnosod ar ddiwedd
pwynt 1: ', gan gydnabod bod
Cymru'n llusgo ar ôl gweddill y DU yn ddifrifol, o ran buddsoddi mewn seilwaith
trafnidiaeth.' Gwellaint 4 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Mewnosod ar ddiwedd
pwynt 2: 'ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu'r argymhellion, gyda phwyslais ar gysylltu'r
gogledd a'r de drwy ail-agor rheilffyrdd y gorllewin.' Gwellaint 5 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu pwynt 3. Gwellaint 6 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu popeth ar ôl
'UE' ym mhwynt 4 ac ychwanegu pwyntiau newydd: Yn gresynu at
berfformiad gwael diweddar gwasanaethau rheilffyrdd, gan gynnwys oedi mynych a
chanslo teithiau, a weithredir gan Trafnidiaeth Cymru ers dod yn gyfrifol am
wasanaethau ar fasnachfraint Cymru a'r Gororau. Yn gresynu at yr
oedi wrth ail-sefydlu gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol rhwng Cymru a
Lerpwl. Yn nodi'r rôl y
gall Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ei chwarae wrth helpu i lunio
gweledigaeth ar gyfer seilwaith rheilffyrdd Cymru. Yn nodi maint y cyfraniad
y bydd bargeinion dinas a bargeinion twf Llywodraeth y DU yn eu gwneud. Yn annog
Llywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU a'r holl randdeiliaid
perthnasol er mwyn parhau i wneud cynnydd o ran gwella gwasanaethau rheilffyrdd
yng Nghymru. Gwellaint 7 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pwysigrwydd
datgarboneiddio trafnidiaeth gyhoeddus ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo
i dulliau adnewyddadwy o bweru trafnidaieth gyhoeddus. Gwellaint 8 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am ffocws
o'r newydd gan Lywodraeth Cymru ar weithio tuag at ailagor rheilffordd Gaerwen
i Amlwch ar draws Ynys Môn yng ngoleuni cyhoeddiadau economaidd diweddar sy'n
peri pryder. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.04 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod
Pleidleisio. NDM6954 – Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn siomedig yn y tanfuddsoddi hanesyddol gan Lywodraeth y DU yn seilwaith
rheilffyrdd Cymru a chyfleoedd a gollwyd yn ddiweddar i wella capasiti y
seilwaith strategol yng Nghymru. 2.
Yn tynnu sylw at y gwaith, sydd wedi’i gyhoeddi, gan yr Athro Mark Barry: ‘Y
Rhwydwaith Rheilffyrdd yng Nghymru – Yr Achos dros Fuddsoddi’ a’r cynigion
ynddo i wella y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru a’r prif reilffyrdd sy’n
gwasanaethu Cymru. 3.
Yn cefnogi ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Rheilffyrdd Llywodraeth y DU
sy’n cael ei gynnal gan Keith Williams. 4.
Yn credu bod buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd strategol yn hanfodol i ba
mor gystadleuol fydd Cymru yn y dyfodol, waeth ar ba delerau y byddwn yn
ymadael â’r UE, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatblygu amserlen ar gyfer
bodloni ei rhwymedigaethau cyfredol ar gyfer y Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws
Ewropeaidd, gan gynnwys trydaneiddio prif reilffyrdd Gogledd a De Cymru yn
llawn. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwellaint 1 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu pwynt 1. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd
gwelliant 1. Gwellaint 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ym mhwynt 1, dileu 'siomedig yn y' a rhoi yn ei le 'condemnio’r'. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Gwellaint 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Mewnosod ar ddiwedd pwynt 1: ', gan gydnabod bod Cymru'n llusgo ar ôl gweddill y DU yn ddifrifol, o
ran buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth.' Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd
gwelliant 3. Gwellaint 4 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Mewnosod
ar ddiwedd pwynt 2: 'ac
yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu'r argymhellion, gyda phwyslais ar
gysylltu'r gogledd a'r de drwy ail-agor rheilffyrdd y gorllewin.' Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd
gwelliant 4. Gwellaint 5 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu
pwynt 3. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd
gwelliant 5. Gwellaint 6 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu
popeth ar ôl 'UE' ym mhwynt 4 ac ychwanegu pwyntiau newydd: Yn
gresynu at berfformiad gwael diweddar gwasanaethau rheilffyrdd, gan gynnwys
oedi mynych a chanslo teithiau, a weithredir gan Trafnidiaeth Cymru ers dod yn
gyfrifol am wasanaethau ar fasnachfraint Cymru a'r Gororau. Yn
gresynu at yr oedi wrth ail-sefydlu gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol rhwng
Cymru a Lerpwl. Yn
nodi'r rôl y gall Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ei chwarae wrth helpu i
lunio gweledigaeth ar gyfer seilwaith rheilffyrdd Cymru. Yn
nodi maint y cyfraniad y bydd bargeinion dinas a bargeinion twf Llywodraeth y
DU yn eu gwneud. Yn
annog Llywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU a'r holl randdeiliaid
perthnasol er mwyn parhau i wneud cynnydd o ran gwella gwasanaethau rheilffyrdd
yng Nghymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 6:
Gwrthodwyd
gwelliant 6. Gwellaint 7 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
nodi pwysigrwydd datgarboneiddio trafnidiaeth gyhoeddus ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ddulliau adnewyddadwy o bweru trafnidaieth
gyhoeddus. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 7:
Derbyniwyd
gwelliant 7. Gwellaint 8 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am ffocws o'r newydd gan Lywodraeth Cymru ar weithio tuag at
ailagor rheilffordd Gaerwen i Amlwch ar draws Ynys Môn yng ngoleuni
cyhoeddiadau economaidd diweddar sy'n peri pryder. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 8:
Gwrthodwyd
gwelliant 8. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6954 – Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn condemnio’r yn y tanfuddsoddi hanesyddol gan Lywodraeth y DU yn seilwaith
rheilffyrdd Cymru a chyfleoedd a gollwyd yn ddiweddar i wella capasiti y
seilwaith strategol yng Nghymru. 2.
Yn tynnu sylw at y gwaith, sydd wedi’i gyhoeddi, gan yr Athro Mark Barry: ‘Y
Rhwydwaith Rheilffyrdd yng Nghymru – Yr Achos dros Fuddsoddi’ a’r cynigion
ynddo i wella y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru a’r prif reilffyrdd sy’n
gwasanaethu Cymru. 3.
Yn cefnogi ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Rheilffyrdd Llywodraeth y DU
sy’n cael ei gynnal gan Keith Williams. 4.
Yn credu bod buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd strategol yn hanfodol i ba
mor gystadleuol fydd Cymru yn y dyfodol, waeth ar ba delerau y byddwn yn
ymadael â’r UE, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatblygu amserlen ar gyfer
bodloni ei rhwymedigaethau cyfredol ar gyfer y Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws
Ewropeaidd, gan gynnwys trydaneiddio prif reilffyrdd Gogledd a De Cymru yn
llawn. 5.
Yn nodi pwysigrwydd datgarboneiddio trafnidiaeth gyhoeddus ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ymrwymo i ddulliau adnewyddadwy o bweru trafnidaieth gyhoeddus.
Derbyniwyd
y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.10 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |