Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 193(v6)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/03/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Mae’r
Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd Gweinidog yr
Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog. Bydd
y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif
Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Hysbyswyd y Llywydd, o
dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion
Gwledig yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog. Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf.
Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog
ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.17 Gofynnwyd y 5 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.37 |
|||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Prentisiaethau: Buddsoddi Mewn Sgiliau ar gyfer y Dyfodol - gohiriwyd tan 12 Mawrth Cofnodion: |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.19 |
|||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Rheoli'r Risg o Lifogydd ac Erydu Arfordirol - gohiriwyd tan 12 Mawrth Cofnodion: Mae’r
eitem hon wedi’i gohirio tan 12 Mawrth |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid Gwasanaeth) NDM6979 - Lesley
Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai’r
darpariaethau yn y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid Gwasanaeth), sy’n
gysylltiedig ag Iechyd a Lles Anifeiliaid, i’r graddau y maent o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan
Senedd y DU. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ionawr 2019 yn
unol â Rheol Sefydlog 29.2. Mae copi o’r Bil
i’w weld ar wefan Senedd y DU: https://services.parliament.uk/bills/2017-19/animalwelfareserviceanimals.html Dogfen Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.05 NDM6979 - Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y
dylai’r darpariaethau yn y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid Gwasanaeth), sy’n
gysylltiedig ag Iechyd a Lles Anifeiliaid, i’r graddau y maent o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ionawr 2019 yn unol â Rheol Sefydlog
29.2. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2018-19 NDM6964 - Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r
Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018-19 a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 5 Chwefror 2019. Troednodyn: Yn unol â'r
darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20,
mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol: i. y datganiad
ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006; ii. yr adnoddau y
cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn
ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi; iii. cysoniad rhwng
yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r
adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig; iv. cysoniad rhwng
y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd
Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; v. cysoniad rhwng
yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr
awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a vi. manylion am
unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 –
20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o
dan Reol Sefydlog 20.1A. Mae'r wybodaeth ychwanegol
isod wedi'i darparu i'r Aelodau: - nodyn yn egluro'r
prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.16 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6964 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn
cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018-19 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 5
Chwefror 2019. Troednodyn: Yn
unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol
Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol: i.
y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth
Cymru 2006; ii.
yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y
flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi; iii.
cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y
Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig; iv.
cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan
yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y
cynnig; v.
cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r
Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran
125(1)(c); a vi.
manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau
Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y
cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A. Mae'r
wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau: -
nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog i ganiatáu i’r eitem fusnes nesaf gael ei hystyried NNDM6984
Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno
o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o
dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod
Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i ddadl ar NNDM6985 gael ei
hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 5 Mawrth. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||
(90 munud) |
Dadl ar NNDM6985 - Trafodaethau ar Ymadael â'r UE NNDM6985 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn ailadrodd ei wrthwynebiad i’r cytundeb niweidiol ar gyfer
ymadael â’r UE y cytunwyd arno gan Lywodraeth y DU. 2. Yn cytuno y byddai canlyniad o ddim-cytundeb yn dilyn y
negodiadau presennol ar ymadael â’r UE yn hollol annerbyniol ar 29 Mawrth 2019
neu ar unrhyw adeg. 3. Yn galw felly ar Lywodraeth y DU i gymryd
camau ar unwaith i atal y DU rhag ymadael â’r UE heb gytundeb ac yn cytuno y
dylai proses Erthygl 50 gael ei hestyn fel bod modd dod i gytundeb ar y ffordd
orau ymlaen er mwyn diogelu buddiannau Cymru, yr Alban a’r Deyrnas Unedig gyfan. Cyd-gyflwynwyr: Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1 – Gareth Bennett (Canol De Cymru) Dileu popeth a rhoi
yn ei le: Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn dwyn i gof
fod Llywodraeth y DU, cyn y refferendwm ym mis Mehefin 2016, wedi anfon llyfryn
at bob aelwyd yn y Deyrnas Unedig, yn datgan, o dan y pennawd 'Penderfyniad
Unwaith Mewn Cenhedlaeth', 'Cred y Llywodraeth mai pleidleisio dros aros yn yr
Undeb Ewropeaidd yw’r penderfyniad gorau i’r D.U.', ond hefyd, 'Chi sydd i
benderfynu. Bydd y Llywodraeth yn gweithredu ar eich penderfyniad.'. 2. Yn credu mai
modd drefnus o adael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth 2019 fyddai orau, ond yn
penderfynu, os na ellir cael cytundeb rhwng y Deyras Unedig a'r Undeb
Ewropeaidd, na ddylid ymestyn proses Erthygl 50, gan y byddai hyn yn parhau'r
ansicrwydd ac yn bradychu ewyllys ddemocrataidd pobl Cymru a'r Deyrnas Unedig,
a bleidleisiodd yn bendant dros adael yr UE. 3. Yn galw ar
Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i dderbyn y tebygolrwydd y byddwn yn gadael
yr UE ar delerau Sefydliad Masnach y Byd ar 29 Mawrth 2019, a chanolbwyntio ein
holl ymdrechion erbyn hyn ar baratoi ar gyfer y canlyniad hwn. Gwelliant 2 – Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu mai'r
ffordd orau ymlaen yw cynnal pleidlais y bobl, er mwyn galluogi dewis
democrataidd rhwng cytundeb y Prif Weinidog ar gyfer ymadael â'r UE ac aros yn
yr UE , ac yn galw ar Lywodraeth y DU i amlinellu ei chynlluniau i gynnal
pleidlais o'r fath ar unwaith. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.49 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NNDM6985 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn ailadrodd ei wrthwynebiad i’r cytundeb niweidiol ar gyfer ymadael â’r UE y
cytunwyd arno gan Lywodraeth y DU. 2.
Yn cytuno y byddai canlyniad o ddim-cytundeb yn dilyn y negodiadau presennol ar
ymadael â’r UE yn hollol annerbyniol ar 29 Mawrth 2019 neu ar unrhyw adeg. 3. Yn galw felly ar Lywodraeth y DU i gymryd
camau ar unwaith i atal y DU rhag ymadael â’r UE heb gytundeb ac yn cytuno y
dylai proses Erthygl 50 gael ei hestyn fel bod modd dod i gytundeb ar y ffordd
orau ymlaen er mwyn diogelu buddiannau Cymru, yr Alban a’r Deyrnas Unedig
gyfan. Cyd-gyflwynwyr: Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1
– Gareth Bennett (Canol De Cymru) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn dwyn i gof fod Llywodraeth y DU, cyn y refferendwm ym mis Mehefin 2016, wedi
anfon llyfryn at bob aelwyd yn y Deyrnas Unedig, yn datgan, o dan y pennawd
'Penderfyniad Unwaith Mewn Cenhedlaeth', 'Cred y Llywodraeth mai pleidleisio
dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd yw’r penderfyniad gorau i’r D.U.', ond hefyd,
'Chi sydd i benderfynu. Bydd y Llywodraeth yn gweithredu ar eich
penderfyniad.'. 2.
Yn credu mai modd drefnus o adael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth 2019 fyddai
orau, ond yn penderfynu, os na ellir cael cytundeb rhwng y Deyras Unedig a'r
Undeb Ewropeaidd, na ddylid ymestyn proses Erthygl 50, gan y byddai hyn yn
parhau'r ansicrwydd ac yn bradychu ewyllys ddemocrataidd pobl Cymru a'r Deyrnas
Unedig, a bleidleisiodd yn bendant dros adael yr UE. 3.
Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i dderbyn y tebygolrwydd y
byddwn yn gadael yr UE ar delerau Sefydliad Masnach y Byd ar 29 Mawrth 2019, a
chanolbwyntio ein holl ymdrechion erbyn hyn ar baratoi ar gyfer y canlyniad
hwn. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant
2
– Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
credu mai'r ffordd orau ymlaen yw cynnal pleidlais y bobl, er mwyn galluogi
dewis democrataidd rhwng cytundeb y Prif Weinidog ar gyfer ymadael â'r UE ac
aros yn yr UE , ac yn galw ar Lywodraeth y DU i amlinellu ei chynlluniau i
gynnal pleidlais o'r fath ar unwaith. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig: NNDM6985 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn ailadrodd ei wrthwynebiad
i’r cytundeb niweidiol ar gyfer ymadael â’r UE y cytunwyd arno gan Lywodraeth y
DU. 2. Yn cytuno y byddai canlyniad
o ddim-cytundeb yn dilyn y negodiadau presennol ar ymadael â’r UE yn hollol
annerbyniol ar 29 Mawrth 2019 neu ar unrhyw adeg. 3. Yn galw felly ar Lywodraeth y DU i gymryd
camau ar unwaith i atal y DU rhag ymadael â’r UE heb gytundeb ac yn cytuno y
dylai proses Erthygl 50 gael ei hestyn fel bod modd dod i gytundeb ar y ffordd
orau ymlaen er mwyn diogelu buddiannau Cymru, yr Alban a’r Deyrnas Unedig
gyfan. Cyd-gyflwynwyr:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.08 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |