Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 202(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/04/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 13.30 Gofynnwyd yr 8
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 14.18 Gofynnwyd y 7
cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1 a 6 gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon
a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.08 Gofynnwyd y 4 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn
i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Lynne
Neagle (Torfaen): Gofyn
i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Helen
Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.22 Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Lynne
Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog
roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fynediad at ofal cleifion mewnol CAMHS i blant a
phobl ifanc risg uchel yng Nghymru? Gofyn i Weinidog yr
Economi a Thrafnidiaeth Helen Mary Jones (Canolbarth
a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael
ynghylch dyfodol gwaith Trostre yn Llanelli? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.53 Gwnaeth Mick
Antoniw ddatganiad am - cydnabod gweithredoedd arwrol y Cymro, Capten
Archibald Dickson bedwar ugain mlynedd yn ôl (ar 28 Mawrth 1939) a arbedodd dros
2,600 o bobl Sbaenaidd yn y golygfeydd anhrefnus ar ddiwedd rhyfel cartref
Sbaen. (Bydd y Llywydd yn ymwybodol o waith parhaus gyda'r Comisiwn i
sefydlu plac i gofio amdano).
Gwnaeth Mohammad
Asghar ddatganiad am - ymosodiadau mosg Christchurch a diogelwch
cymunedol yng Nghymru. Gwnaeth Helen Mary Jones ddatganiad am - Tîm y DU yn cael ei ddewis ar gyfer
WorldSkills 2019 in Kazan (Mae dros 30 o bobl Ifanc
medrus gorau a mwyaf disglair y wlad wedi cael eu dewis i gynrychioli’r DU yn
WorldSkills Kazan yn ddiweddarach eleni). |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig i atal dros dro Reolau Sefydlog 11.16 a 12.20(i) er mwyn caniatáu cynnal dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau (5 munud) NDM7033
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o
Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan
Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn
yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r eitem fusnes nesaf gael ei hystyried
yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 3 Ebrill 2019. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 01-19 i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 22.9 (15 munud) Dechreuodd yr eitem am 15.59 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7032 Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 01-19 a
osodwyd gerbron y Cynulliad ar 1 Ebrill 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9 2. Yn cymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Plant Sydd wedi cael eu Cam-drin yn Rhywiol NDM7021
Bethan
Sayed (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r cynnig i
gael bil i ddiwygio a gwella cefnogaeth ar gyfer plant sydd wedi cael eu
cam-drin yn rhywiol yng Nghymru. 2. Yn nodi mai diben y
Bil hwn fyddai: a) cyflwyno'r Model
Barnahus o gymorth i ddioddefwyr gyda phwyslais
therapiwtig; b) gweithio gyda'r
heddlu i ddefnyddio'r Model Barnahus o gynnal ymchwiliad i bob achos o gam-drin
plant yn rhywiol; ac c) yn cyflwyno
newidiadau statudol i wella llety brys a llety dros dro i blant sydd wedi'u
cam-drin, sy'n methu â dychwelyd i'w cartref neu sy'n ddigartref. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.13 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7021 Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r cynnig
i gael bil i ddiwygio a gwella cefnogaeth ar gyfer plant sydd wedi cael eu
cam-drin yn rhywiol yng Nghymru. 2. Yn nodi mai
diben y Bil hwn fyddai: a) cyflwyno'r Model
Barnahus o gymorth i gleifion gyda phwyslais therapiwtig; b) gweithio gyda'r
heddlu i ddefnyddio'r Model Barnahus o gynnal ymchwiliad i bob achos o gam-drin
plant yn rhywiol; ac c) yn cyflwyno
newidiadau statudol i wella llety brys a llety dros dro i blant sydd wedi'u
cam-drin, sy'n methu â dychwelyd i'w cartref neu sy'n ddigartref. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Gweithredu Datganoli Cyllidol yng Nghymru NDM7030
Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Cyllid, Rhoi datganoli cyllidol ar waith yng Nghymru (2019), a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mawrth 2019. Cefnogwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.36 NDM7030
Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid, Rhoi datganoli cyllidol ar waith yng Nghymru
(2019), a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mawrth 2019. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Timau Iechyd Meddwl Cymunedol NDM7028
Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi Cyd Adolygiad
Thematig Arolygiaeth Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru o Dimau Iechyd
Meddwl Cymunedol. 2. Yn nodi ymhellach y
nifer gynyddol o atgyfeiriadau i'r timau iechyd meddwl cymunedol ledled Cymru. 3. Yn gresynu at y
diffyg cydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd corfforol a gwasanaethau iechyd
meddwl. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i wella'r cymorth a ddarperir gan dimau iechyd meddwl
cymunedol, a mynediad ato, gan gynnwys: a) cynyddu gwariant ar
wasanaethau iechyd meddwl mewn termau real bob blwyddyn hyd at ddiwedd tymor y
Cynulliad; b) sicrhau bod timau
argyfwng ar gael 24/7 ym mhob adran achosion brys mawr; c) gweithio ar frys
gyda byrddau iechyd i wella cyfleusterau iechyd meddwl cymunedol ar gyfer
defnyddwyr y gwasanaeth a staff; a d) codi ymwybyddiaeth
ynghylch mynediad at dimau iechyd meddwl cymunedol fel y gall defnyddwyr y
gwasanaeth gael y cyngor gorau posibl. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu pwyntiau 3 a 4 a
rhoi yn eu lle: Yn cydnabod yr angen i
sicrhau cydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd y corff a gwasanaethau iechyd
meddwl; Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i wella’r cymorth a ddarperir gan dimau iechyd meddwl cymunedol a
gwella’r mynediad at y cymorth hwnnw, gan gynnwys: a) parhau i gynyddu’r
gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl mewn termau real bob blwyddyn hyd at
ddiwedd tymor y Cynulliad, yn dibynnu ar ganlyniad yr adolygiad o wariant yn
2019; b) sicrhau bod
trefniadau ar waith i ymateb i argyfyngau iechyd meddwl bob awr o bob dydd ym
mhob un o’r adrannau achosion brys mawr; c) gweithio ar frys
gyda’r byrddau iechyd i wella cyfleusterau iechyd meddwl cymunedol ar gyfer
defnyddwyr y gwasanaeth a staff; a d) codi ymwybyddiaeth
ynghylch mynediad at dimau iechyd meddwl cymunedol fel y gall defnyddwyr y
gwasanaeth gael y cyngor gorau posibl. Gwelliant
2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ym mhwynt 4, ychwanegu
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4: cyhoeddi data
perfformiad ystyrlon ar amseroedd aros, gan gynnwys grwpiau oedran a diagnosis,
fel y gall hawliadau'n ymwneud â gwella gael eu gwirio'n annibynnol. Gwelliant
3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ym mhwynt 4, ychwanegu
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4: sicrhau bod timau
iechyd meddwl cymunedol yn cysylltu â gwasanaethau hawliau lles i amddiffyn
pobl sy'n agored i niwed yn erbyn asesiadau'r adran gwaith a phensiynau a
phrosesau gwneud penderfyniad sydd yn aml yn gwaethygu cyflyrau iechyd meddwl . Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.17 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7028 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi Cyd Adolygiad
Thematig Arolygiaeth Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru o Dimau Iechyd
Meddwl Cymunedol. 2. Yn nodi ymhellach y
nifer gynyddol o atgyfeiriadau i'r timau iechyd meddwl cymunedol ledled Cymru. 3. Yn gresynu at y diffyg
cydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd corfforol a gwasanaethau iechyd meddwl. 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i wella'r cymorth a ddarperir gan dimau iechyd meddwl cymunedol, a
mynediad ato, gan gynnwys: a) cynyddu gwariant ar
wasanaethau iechyd meddwl mewn termau real bob blwyddyn hyd at ddiwedd tymor y
Cynulliad; b) sicrhau bod timau
argyfwng ar gael 24/7 ym mhob adran achosion brys mawr; c) gweithio ar frys gyda
byrddau iechyd i wella cyfleusterau iechyd meddwl cymunedol ar gyfer defnyddwyr
y gwasanaeth a staff; a d) codi ymwybyddiaeth
ynghylch mynediad at dimau iechyd meddwl cymunedol fel y gall defnyddwyr y
gwasanaeth gael y cyngor gorau posibl.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Rebecca Evans (Gwyr) Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle: Yn cydnabod yr angen i sicrhau cydraddoldeb rhwng
gwasanaethau iechyd y corff a gwasanaethau iechyd meddwl; Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella’r cymorth a
ddarperir gan dimau iechyd meddwl cymunedol a gwella’r mynediad at y cymorth
hwnnw, gan gynnwys: a) parhau i gynyddu’r gwariant ar wasanaethau
iechyd meddwl mewn termau real bob blwyddyn hyd at ddiwedd tymor y Cynulliad,
yn dibynnu ar ganlyniad yr adolygiad o wariant yn 2019; b) sicrhau bod trefniadau ar waith i ymateb i
argyfyngau iechyd meddwl bob awr o bob dydd ym mhob un o’r adrannau achosion
brys mawr; c) gweithio ar frys gyda’r byrddau iechyd i wella
cyfleusterau iechyd meddwl cymunedol ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth a staff;
a d) codi ymwybyddiaeth ynghylch mynediad at dimau
iechyd meddwl cymunedol fel y gall defnyddwyr y gwasanaeth gael y cyngor gorau
posibl. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ym mhwynt 4, ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd
pwynt 4: cyhoeddi data perfformiad ystyrlon ar amseroedd
aros, gan gynnwys grwpiau oedran a diagnosis, fel y gall hawliadau'n ymwneud â
gwella gael eu gwirio'n annibynnol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant
3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ym mhwynt 4, ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd
pwynt 4: sicrhau bod timau iechyd meddwl cymunedol yn
cysylltu â gwasanaethau hawliau lles i amddiffyn pobl sy'n agored i niwed yn
erbyn asesiadau'r adran gwaith a phensiynau a phrosesau gwneud penderfyniad
sydd yn aml yn gwaethygu cyflyrau iechyd meddwl. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7028 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi Cyd Adolygiad
Thematig Arolygiaeth Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru o Dimau Iechyd
Meddwl Cymunedol. 2. Yn nodi ymhellach y
nifer gynyddol o atgyfeiriadau i'r timau iechyd meddwl cymunedol ledled Cymru. 3. Yn cydnabod yr angen i
sicrhau cydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd y corff a gwasanaethau iechyd
meddwl; 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i wella’r cymorth a ddarperir gan dimau iechyd meddwl cymunedol a
gwella’r mynediad at y cymorth hwnnw, gan gynnwys: a) parhau i gynyddu’r
gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl mewn termau real bob blwyddyn hyd at
ddiwedd tymor y Cynulliad, yn dibynnu ar ganlyniad yr adolygiad o wariant yn
2019; b) sicrhau bod trefniadau
ar waith i ymateb i argyfyngau iechyd meddwl bob awr o bob dydd ym mhob un o’r
adrannau achosion brys mawr; c) gweithio ar frys
gyda’r byrddau iechyd i wella cyfleusterau iechyd meddwl cymunedol ar gyfer
defnyddwyr y gwasanaeth a staff; a d) codi ymwybyddiaeth
ynghylch mynediad at dimau iechyd meddwl cymunedol fel y gall defnyddwyr y
gwasanaeth gael y cyngor gorau posibl. e) sicrhau bod timau
iechyd meddwl cymunedol yn cysylltu â gwasanaethau hawliau lles i amddiffyn
pobl sy'n agored i niwed yn erbyn asesiadau'r adran gwaith a phensiynau a
phrosesau gwneud penderfyniad sydd yn aml yn gwaethygu cyflyrau iechyd meddwl.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
18.11 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
18.15 NDM7027 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) Pwy sy'n elwa ar dai cymdeithasol? |