Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 204(v3) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/05/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.16

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(0 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Ni ddewiswyd unrhyw Gwestiynau Amserol.

Cofnodion:

Ni ddewiswyd unrhyw Gwestiynau Amserol

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.08

Gwnaeth Mick Antoniw ddatganiad am Ddiwrnod Rhyngwladol i Gofio Gweithwyr (28 Ebrill)

Gwnaeth Leanne Wood ddatganiad yn llongyfarch Band Pres y Cory ar ennill Cystadleuaeth Ewropeaidd fawreddog.

(60 munud)

5.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood

NDM7039 Nick Ramsay (Mynwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood - a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Chwefror 2019'

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ebrill 2019.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.13

NDM7039 Nick Ramsay (Mynwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood - a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Chwefror 2019.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ebrill 2019.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

6.

Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Perthynas Cymru ag Ewrop a'r byd yn y dyfodol

NDM7038 David Rees (Aberafan)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei Ymchwiliad i Berthynas Cymru ag Ewrop a’r Byd yn y dyfodol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Chwefror 2019.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 24 Ebrill 2019.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.58

NDM7038 David Rees (Aberafan)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei Ymchwiliad i Berthynas Cymru ag Ewrop a’r Byd yn y dyfodol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Chwefror 2019.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 24 Ebrill 2019.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(30 munud)

7.

Dadl Plaid Cymru - Hawliau Gweithwyr

NDM7034 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi pwysigrwydd Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr a rôl undebau llafur wrth sicrhau hawliau gweithwyr yng Nghymru.

2. Yn nodi bod Cymru yn llusgo ar ôl gweddill y DU o ran lefelau cyflog teg, gyda llawer o bobl yng Nghymru ar gyflogau sydd 30 y cant yn is na gweddill poblogaeth y DU.

3. Yn credu y dylid diweddaru'r ddeddfwriaeth i:

a) cyflawni 'Gwaith Teg' gan ddefnyddio dulliau polisi ac ariannu a chynyddu cwmpas cydfargeinio;

b) amddiffyn hawliau gweithwyr drwy ddulliau gorfodi mwy effeithiol; ac

c) sefydlu partneriaeth gymdeithasol a chydfargeinio yng ngwead bywyd gwaith Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd y defnydd o gontractau dim oriau ym mhob un o wasanaethau datganoledig cyhoeddus Cymru a chadwyni cyflenwi cysylltiedig.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys ymrwymiad i gyflwyno deddf partneriaeth gymdeithasol ac amserlen sy'n gysylltiedig â rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth bresennol.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth ar ôl Pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn cymeradwyo gwaith pob Llywodraeth Cymru ers 1999 i ddatblygu strwythurau partneriaeth gymdeithasol effeithiol gydag undebau llafur a busnesau Cymru.

Yn nodi bod y dull gweithredu hwn wedi helpu i sicrhau hawliau gwirioneddol i weithwyr Cymru drwy Ddeddf yr Undebau Llafur (Cymru) a’r Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol sydd wedi gwyrdroi deddfwriaeth Llywodraeth y DU.

Yn croesawu’r camau a ddatblygwyd drwy bartneriaeth gymdeithasol gan Lywodraeth Cymru i ddileu contractau dim oriau ecsbloetiol yng Nghymru a’r gwaith a wnaed drwy’r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.

Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn genedl Gwaith Teg.

Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a’i chyflwyno yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau wrth i ni ymadael â’r UE ei bod yn ymrwymo i safonau deinamig sy’n rhwymo mewn cyfraith ar gyfer diogelu a gorfodi gwaith teg ar draws y DU.

Deddf yr Undebau Llafur (Cymru)

Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol

Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 4.

Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori ar ddatblygu deddf partneriaethau cymdeithasol.

Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddiogelu hawliau gweithwyr ar ôl Brexit.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.52

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7034 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi pwysigrwydd Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr a rôl undebau llafur wrth sicrhau hawliau gweithwyr yng Nghymru.

2. Yn nodi bod Cymru yn llusgo ar ôl gweddill y DU o ran lefelau cyflog teg, gyda llawer o bobl yng Nghymru ar gyflogau sydd 30 y cant yn is na gweddill poblogaeth y DU.

3. Yn credu y dylid diweddaru'r ddeddfwriaeth i:

a) cyflawni 'Gwaith Teg' gan ddefnyddio dulliau polisi ac ariannu a chynyddu cwmpas cydfargeinio;

b) amddiffyn hawliau gweithwyr drwy ddulliau gorfodi mwy effeithiol; ac

c) sefydlu partneriaeth gymdeithasol a chydfargeinio yng ngwead bywyd gwaith Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd y defnydd o gontractau dim oriau ym mhob un o wasanaethau datganoledig cyhoeddus Cymru a chadwyni cyflenwi cysylltiedig.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys ymrwymiad i gyflwyno deddf partneriaeth gymdeithasol ac amserlen sy'n gysylltiedig â rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth bresennol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

2

40

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth ar ôl Pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn cymeradwyo gwaith pob Llywodraeth Cymru ers 1999 i ddatblygu strwythurau partneriaeth gymdeithasol effeithiol gydag undebau llafur a busnesau Cymru.

Yn nodi bod y dull gweithredu hwn wedi helpu i sicrhau hawliau gwirioneddol i weithwyr Cymru drwy Ddeddf yr Undebau Llafur (Cymru) a’r Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol sydd wedi gwyrdroi deddfwriaeth Llywodraeth y DU.

Yn croesawu’r camau a ddatblygwyd drwy bartneriaeth gymdeithasol gan Lywodraeth Cymru i ddileu contractau dim oriau ecsbloetiol yng Nghymru a’r gwaith a wnaed drwy’r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.

Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn genedl Gwaith Teg.

Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a’i chyflwyno yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau wrth i ni ymadael â’r UE ei bod yn ymrwymo i safonau deinamig sy’n rhwymo mewn cyfraith ar gyfer diogelu a gorfodi gwaith teg ar draws y DU.

Deddf yr Undebau Llafur (Cymru)

Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol

Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

24

52

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddiogelu hawliau gweithwyr ar ôl Brexit.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

14

52

Derbyniwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7034 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi pwysigrwydd Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr a rôl undebau llafur wrth sicrhau hawliau gweithwyr yng Nghymru.

2. Yn cymeradwyo gwaith pob Llywodraeth Cymru ers 1999 i ddatblygu strwythurau partneriaeth gymdeithasol effeithiol gydag undebau llafur a busnesau Cymru.

3. Yn nodi bod y dull gweithredu hwn wedi helpu i sicrhau hawliau gwirioneddol i weithwyr Cymru drwy Ddeddf yr Undebau Llafur (Cymru) a’r Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol sydd wedi gwyrdroi deddfwriaeth Llywodraeth y DU.

4. Yn croesawu’r camau a ddatblygwyd drwy bartneriaeth gymdeithasol gan Lywodraeth Cymru i ddileu contractau dim oriau ecsbloetiol yng Nghymru a’r gwaith a wnaed drwy’r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.

5. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn genedl Gwaith Teg.

6. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a’i chyflwyno yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

7. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau wrth i ni ymadael â’r UE ei bod yn ymrwymo i safonau deinamig sy’n rhwymo mewn cyfraith ar gyfer diogelu a gorfodi gwaith teg ar draws y DU.

8. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddiogelu hawliau gweithwyr ar ôl Brexit.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

23

52

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

(30 munud)

8.

Dadl Plaid Cymru - Newid Hinsawdd

NDM7036 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi rhybudd llym gan gymuned wyddonol y byd nad oes dim ond 12 mlynedd ar ôl i atal 1.5 gradd o gynhesu.

2. Yn nodi ymhellach fod cynhesu tu hwnt i 1.5 gradd yn cynrychioli bygythiad i ddyfodol dynoliaeth, a bod cynhesu cyfyngedig i'r lefel honno, hyd yn oed, yn peri difrod i fywoliaeth pobl ddirifedi ar draws y byd.

3. Yn cydnabod bod ymateb byd-eang brys yn angenrheidiol ar unwaith.

4. Yn croesawu'r ffaith bod atebion i'r argyfwng yn yr hinsawdd ar gael yn eang gan gynnwys technoleg adnewyddadwy, opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy ac adeiladau di-garbon.

5. Yn cefnogi penderfyniadau cynghorau sir, tref a chymuned ar draws Cymru i basio cynigion yn datgan argyfwng o ran yr hinsawdd a phennu targedau o sero ar gyfer allyriadau carbon yn eu hardaloedd lleol.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan argyfwng o ran yr hinsawdd.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwyntiau 5 a 6 a rhoi yn eu lle:

Yn croesawu'r rôl arweiniol y mae'r DU wedi'i chwarae wrth weithio tuag at fargen fyd-eang i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr drwy Gytundeb Paris ac yn nodi bod y DU, ers 1990, wedi torri allyriadau fwy na 40 y cant tra'n tyfu'r economiy gan fwy na dwy ran o dair, sef y perfformiad gorau fesul person nag unrhyw genedl G7 arall.

Yn gresynu mai dim ond 19 y cant y mae allyriadau yng Nghymru wedi lleihau yn ystod y cyfnod rhwng 1990 a 2015 ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a Llywodraeth y DU i sicrhau y cyrhaeddir targedau newydd o ran allyriadau carbon sy'n gyfreithiol orfodol wrth symud ymlaen yng Nghymru.

Cytundeb Paris (Saesneg yn unig)

Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gwyr)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cymeradwyo Llywodraeth Cymru am:

a) ddwyn ymlaen Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) i sbarduno’r gweithredu ar fyrder ar y newid yn yr hinsawdd;

b) ymrwymo’r sector cyhoeddus yng Nghymru i fod yn ddi-garbon erbyn 2030 ac i bob adeilad y sector cyhoeddus ddefnyddio ynni adnewyddadwy yn gyfan-gwbl erbyn 2020 neu cyn gynted â bod modd gwneud hynny o ran contractau; a

c) edrych ar phob opsiwn ar gyfer datgarboneiddio economi Cymru drwy weithio gyda bob sector a chymuned, gan dynnu ar y dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael. 

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Deddf yr Amgylchedd (Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.23

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7036 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi rhybudd llym gan gymuned wyddonol y byd nad oes dim ond 12 mlynedd ar ôl i atal 1.5 gradd o gynhesu.

2. Yn nodi ymhellach fod cynhesu tu hwnt i 1.5 gradd yn cynrychioli bygythiad i ddyfodol dynoliaeth, a bod cynhesu cyfyngedig i'r lefel honno, hyd yn oed, yn peri difrod i fywoliaeth pobl ddirifedi ar draws y byd.

3. Yn cydnabod bod ymateb byd-eang brys yn angenrheidiol ar unwaith.

4. Yn croesawu'r ffaith bod atebion i'r argyfwng yn yr hinsawdd ar gael yn eang gan gynnwys technoleg adnewyddadwy, opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy ac adeiladau di-garbon.

5. Yn cefnogi penderfyniadau cynghorau sir, tref a chymuned ar draws Cymru i basio cynigion yn datgan argyfwng o ran yr hinsawdd a phennu targedau o sero ar gyfer allyriadau carbon yn eu hardaloedd lleol.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan argyfwng o ran yr hinsawdd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

13

29

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwyntiau 5 a 6 a rhoi yn eu lle:

Yn croesawu'r rôl arweiniol y mae'r DU wedi'i chwarae wrth weithio tuag at fargen fyd-eang i leihau allyriadau nwyon gwydr drwy Gytundeb Paris ac yn nodi bod y DU, ers 1990, wedi torri allyriadau fwy na 40 y cant tra'n tyfu'r economiy gan fwy na dwy ran o dair, sef y perfformiad gorau fesul person nag unrhyw genedl G7 arall.

Yn gresynu mai dim ond 19 y cant y mae allyriadau yng Nghymru wedi lleihau yn ystod y cyfnod rhwng 1990 a 2015 ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a Llywodraeth y DU i sicrhau y cyrhaeddir targedau newydd o ran allyriadau carbon sy'n gyfreithiol orfodol wrth symud ymlaen yng Nghymru.

Cytundeb Paris (Saesneg yn unig)

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

1

39

52

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gwyr)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cymeradwyo Llywodraeth Cymru am:

a) ddwyn ymlaen Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) i sbarduno’r gweithredu ar fyrder ar y newid yn yr hinsawdd;

b) ymrwymo’r sector cyhoeddus yng Nghymru i fod yn ddi-garbon erbyn 2030 ac i bob adeilad y sector cyhoeddus ddefnyddio ynni adnewyddadwy yn gyfan-gwbl erbyn 2020 neu cyn gynted â bod modd gwneud hynny o ran contractau; ac

c) edrych ar bob opsiwn ar gyfer datgarboneiddio economi Cymru drwy weithio gyda phob sector a chymuned, gan dynnu ar y dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Deddf yr Amgylchedd (Cymru)

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

1

23

52

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7036 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi rhybudd llym gan gymuned wyddonol y byd nad oes dim ond 12 mlynedd ar ôl i atal 1.5 gradd o gynhesu.

2. Yn nodi ymhellach fod cynhesu tu hwnt i 1.5 gradd yn cynrychioli bygythiad i ddyfodol dynoliaeth, a bod cynhesu cyfyngedig i'r lefel honno, hyd yn oed, yn peri difrod i fywoliaeth pobl ddirifedi ar draws y byd.

3. Yn cydnabod bod ymateb byd-eang brys yn angenrheidiol ar unwaith.

4. Yn croesawu'r ffaith bod atebion i'r argyfwng yn yr hinsawdd ar gael yn eang gan gynnwys technoleg adnewyddadwy, opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy ac adeiladau di-garbon.

5. Yn cefnogi penderfyniadau cynghorau sir, tref a chymuned ar draws Cymru i basio cynigion yn datgan argyfwng o ran yr hinsawdd a phennu targedau o sero ar gyfer allyriadau carbon yn eu hardaloedd lleol.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan argyfwng o ran yr hinsawdd.

7. Yn cymeradwyo Llywodraeth Cymru am:

a) ddwyn ymlaen Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) i sbarduno’r gweithredu ar fyrder ar y newid yn yr hinsawdd;

b) ymrwymo’r sector cyhoeddus yng Nghymru i fod yn ddi-garbon erbyn 2030 ac i bob adeilad y sector cyhoeddus ddefnyddio ynni adnewyddadwy yn gyfan-gwbl erbyn 2020 neu cyn gynted â bod modd gwneud hynny o ran contractau; ac

c) edrych ar bob opsiwn ar gyfer datgarboneiddio economi Cymru drwy weithio gyda phob sector a chymuned, gan dynnu ar y dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

12

2

52

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Pwynt o Drefn

Cododd Jenny Rathbone bwynt o drefn bod rhai ymgyrchwyr wedi cael eu gwrthod rhag cael mynediad i’r oriel gyhoeddus i wylio’r ddadl ar y newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd y Dirprwy Lywydd y bydd yn trafod gyda’r Llywydd ac yn cynghori’r Aelod yn unol â hynny.

9.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.58

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

10.

Dadl Fer

NDM7035 Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)

Tyngu Llw i'r Bobl - Newid y llw a gaiff ei dyngu gan Aelodau'r Cynulliad i addo teyrngarwch i'r bobl.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.02