Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 205(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/05/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd
y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif
Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1 -
2 a 4 - 8. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau
i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.23 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.56 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Mynd i'r Afael â Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol NDM7041 - Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cefnogi: a) yn galonnog y frwydr
fyd-eang i ddiwreiddio hiliaeth ac ideoleg hiliol ac yn ymdrechu tuag at Gymru
fwy cyfartal, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol o bob math; a b) egwyddorion
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu ar sail Hil. 2. Yn galw ar
Gomisiwn y Cynulliad ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru i hwyluso'r gwaith o
lunio datganiad trawsbleidiol, yn crynhoi egwyddorion Diddymu Pob Math o
Wahaniaethu ar sail Hil mewn ymgynghoriad â'r unigolion a'r sefydliadau mwyaf
priodol. Confensiwn
y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu ar sail Hil (Saesneg
yn unig) Cyd-gyflwynwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.26 NDM7041 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cefnogi: a) yn galonnog y frwydr fyd-eang i ddiwreiddio
hiliaeth ac ideoleg hiliol ac yn ymdrechu tuag at Gymru fwy cyfartal, gan fynd
i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol o bob math; a b) egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar
Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu ar sail Hil. 2. Yn galw ar Gomisiwn y Cynulliad ar ran
Cynulliad Cenedlaethol Cymru i hwyluso'r gwaith o lunio datganiad
trawsbleidiol, yn crynhoi egwyddorion Diddymu Pob Math o Wahaniaethu ar sail
Hil mewn ymgynghoriad â'r unigolion a'r sefydliadau mwyaf priodol. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Y Model Gofal Sylfaenol i Gymru NDM7042 - Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r camau a gymerir
i drawsnewid gwasanaethau yn unol â’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
gresynu y bydd rhai o'r nodau yn y model gofal sylfaenol ar gyfer gwasanaethau
meddygol cyffredinol yn cael eu tanseilio gan yr argyfwng recriwtio presennol o
ran meddygon teulu. Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
nodi bod heriau o ran recriwtio meddygon teulu wedi arwain at gau practisau
meddygon teulu, practisau'n cael eu rheoli gan fyrddau iechyd lleol, dibyniaeth
gynyddol ar feddygon locwm a bylchau yn rotas gwasanaethau meddygon teulu y tu
allan i oriau. Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
gresynu at y ffaith nad yw Cymru yn hyfforddi nifer digonol o feddygon teulu
newydd i ddiwallu anghenion pobl Cymru. Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
nodi'r anghydfod parhaus rhwng cynrychiolwyr meddygon teulu a Llywodraeth Cymru
ynghylch indemniad meddygon teulu a'r effaith niweidiol bosibl y gallai hyn ei
chael ar recriwtio meddygon teulu. Gwelliant 5 - Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi meddygon teulu yng Nghymru; b)
cynyddu cyfran cyllideb y GIG a ddyrennir i ofal sylfaenol; ac c)
mynd i'r afael â phryderon cyrff sy'n cynrychioli meddygon teulu ynghylch
indemniad meddygon teulu. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.28 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7042 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r camau a gymerir i drawsnewid
gwasanaethau yn unol â’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu y bydd rhai o'r nodau yn y model gofal
sylfaenol ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol yn cael eu tanseilio gan
yr argyfwng recriwtio presennol o ran meddygon teulu. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod heriau o ran recriwtio meddygon teulu
wedi arwain at gau practisau meddygon teulu, practisau'n cael eu rheoli gan
fyrddau iechyd lleol, dibyniaeth gynyddol ar feddygon locwm a bylchau yn rotas
gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y ffaith nad yw Cymru yn hyfforddi
nifer digonol o feddygon teulu newydd i ddiwallu anghenion pobl Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi'r anghydfod parhaus rhwng cynrychiolwyr
meddygon teulu a Llywodraeth Cymru ynghylch indemniad meddygon teulu a'r
effaith niweidiol bosibl y gallai hyn ei chael ar recriwtio meddygon teulu. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi meddygon
teulu yng Nghymru; b) cynyddu cyfran cyllideb y GIG a ddyrennir i
ofal sylfaenol; ac c) mynd i'r afael â phryderon cyrff sy'n
cynrychioli meddygon teulu ynghylch indemniad meddygon teulu. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig: NDM7042 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r camau a gymerir i drawsnewid
gwasanaethau yn unol â’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru.
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.44, canwyd y gloch a gohiriwyd y cyfarfod gan
ailgynnull am 17.15 ar gyfer y cyfnod pleidleisio. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Anerchiad gan y Llywydd i nodi ugain mlynedd ers datganoli Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.18 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Anerchiad gan y Prif Weinidog i nodi ugain mlynedd ers datganoli Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.27 |