Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 210(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/05/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau
i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1-6
ac 8-9. Tynnwyd cwestiwn 7 yn ôl. Atebwyd Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau
i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.15 Gofynnwyd y 7 cwestiwn
cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2-4 gan y
Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.05 Gofynnwyd y 4 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Dirprwy Weinidog
a’r Prif Chwip: Leanne Wood (Rhondda): A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am yr effaith a gafwyd ar gydlyniant cymunedol yn sgil y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod y diffiniad o Islamoffobia? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.25 Atebwyd gan y Dirprwy
Weinidog a’r Prif Chwip: Leanne Wood (Rhondda): A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am yr effaith a gafwyd ar gydlyniant
cymunedol yn sgil y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod y diffiniad o
Islamoffobia? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.39 Gwnaeth Jayne Bryant ddatganiad am – Wythnos Gweithredu ar Dementia Gwnaeth Leanne
Wood ddatganiad am - Pennaeth Ysgol Gyfun Cwm
Rhondda yn ennill gwobr Pennaeth y Flwyddyn Gwnaeth Rhun ap Iorwerth ddatganiad am – Asia i Ynys Môn ar feic |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor (5 munud) Dechreuodd yr eitem am 15.44 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7056
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.13(ii), yn ethol
Caroline Jones (Plaid Brexit) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Oherwydd na chafodd y Cynnig ei gefnogi gan ddau draean
o’r Aelodau pleidleisio, gwrthodwyd y Cynnig. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Craffu ar Gyfrifon 2017-18 - Tynnwyd yn ôl Cofnodion: Tynnwyd yr eitem yn nôl. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: Deiseb P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth NDM7053 Janet Finch-Saunders
(Aberconwy) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac
effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 21 Mawrth 2019. Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth
Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2019. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.45 NDM7053 Janet Finch-Saunders
(Aberconwy) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac
effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mawrth 2019. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Yr Economi NDM7055 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi methiant Llywodraeth Cymru i wireddu potensial economaidd Cymru dros yr
20 mlynedd diwethaf. 2.
Yn nodi nad yw'n credu bod Ffyniant i Bawb: Cynllun Gweithredu Economaidd
Llywodraeth Cymru yn ddigon uchelgeisiol i sicrhau gwelliant sylweddol yn economi
Cymru. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau pellach i wella'r economi, gan
gynnwys: a)
symleiddio a gwella mynediad at gymorth busnes; b)
sicrhau bod polisi yn cyd-fynd â strategaeth ddiwydiannol effeithiol; c)
diwygio prosesau caffael cyhoeddus i gefnogi busnesau bach a chanolig; d)
uwchsgilio ac ailsgilio'r gweithlu er mwyn manteisio ar gyfleoedd newydd; ac e)
gwella seilwaith. Ffyniant
i bawb: y cynllun gweithredu ar yr economi Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le: 1. Yn nodi’r camau a
gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu economi Cymru dros yr ugain mlynedd
diwethaf, sydd wedi arwain at: a) 300,000 yn fwy o
bobl yn gweithio yng Nghymru ers 1999; b) cyfraddau
anweithgarwch economaidd sydd fwy neu lai yn debyg bellach i gyfartaledd y DU
am y tro cyntaf erioed; c) ostyngiad o dros
hanner ers 1999 yn nifer y bobl o oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau; d) y gyfran o bobl o
oedran gweithio sydd â chymwysterau addysg uwch yn cynyddu o un ym mhob pum
person i fwy na un ym mhob tri pherson ers datganoli; e) y nifer uchaf
erioed o fentrau gweithredol yng Nghymru. 2. Yn nodi cynlluniau
Llywodraeth Cymru i sbarduno twf cynhwysol drwy’r Cynllun Gweithredu ar yr
Economi gan gynnwys y Contract Economaidd newydd, buddsoddiad mawr mewn
seilwaith megis y fasnachfraint rheilffyrdd a Metro newydd gwerth £5 biliwn, yn
ogystal â Banc Datblygu newydd Cymru gwerth £1 biliwn. 3. Yn cydnabod llawer
o’r pryderon economaidd a fynegir yn refferendwm yr UE a ffocws Llywodraeth
Cymru ers cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi yn 2017 ar feithrin
economi sylfaenol i sbarduno twf cynhwysol. 4. Yn cydnabod
pwysigrwydd sylfaenol gwaith teg i ddyfodol Cymru ac ymrwymiad Llywodraeth
Cymru i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol i wneud Cymru yn genedl gwaith
teg. 5. Yn gresynu nad yw
Llywodraeth y DU wedi buddsoddi yng Nghymru dros y degawd diwethaf a’i bod wedi
canslo’r bwriad i drydaneiddio’r rheilffyrdd, gwrthod y cynlluniau ar gyfer
morlyn llanw a methu â sicrhau buddsoddiad ym mhrosiect Wylfa. Gwelliant
2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) cynnull
uwchgynhadledd economaidd genedlaethol i drafod dyfodol yr economi gyda
rhanddeiliaid allweddol a diwydiant; a b) deddfu ar gyfer bil
adnewyddu rhanbarthol, a fydd yn gorfodi'r llywodraeth i ystyried tegwch rhanbarthol
a chydraddoldeb wrth wneud penderfyniadau ar wariant. Gwelliant
3 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn mynegi pryder am
ddyfodol economi Cymru ar ôl Brexit. Gwelliant
4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi methiant
Llywodraeth y DU i gyflwyno cynigion manwl neu ymgynghori ar Gronfa Rhannu
Ffyniant newydd ar ôl Brexit yn lle cyllid yr UE, o ystyried ei lle fel elfen
allweddol o economi Cymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.13 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig heb ei ddiwygio. NDM7055 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi methiant Llywodraeth Cymru i wireddu potensial economaidd Cymru dros yr
20 mlynedd diwethaf. 2.
Yn nodi nad yw'n credu bod Ffyniant i Bawb: Cynllun Gweithredu Economaidd
Llywodraeth Cymru yn ddigon uchelgeisiol i sicrhau gwelliant sylweddol yn
economi Cymru. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau pellach i wella'r economi, gan gynnwys: a)
symleiddio a gwella mynediad at gymorth busnes; b)
sicrhau bod polisi yn cyd-fynd â strategaeth ddiwydiannol effeithiol; c)
diwygio prosesau caffael cyhoeddus i gefnogi busnesau bach a chanolig; d)
uwchsgilio ac ailsgilio'r gweithlu er mwyn manteisio ar gyfleoedd newydd; ac e)
gwella seilwaith.
Gwrthodwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 -
Rebecca Evans (Gwyr) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: 1.
Yn nodi’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu economi Cymru dros yr
ugain mlynedd diwethaf, sydd wedi arwain at: a)
300,000 yn fwy o bobl yn gweithio yng Nghymru ers 1999; b)
cyfraddau anweithgarwch economaidd sydd fwy neu lai yn debyg bellach i
gyfartaledd y DU am y tro cyntaf erioed; c) gostyngiad o dros
hanner ers 1999 yn nifer y bobl o oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau; d)
y gyfran o bobl o oedran gweithio sydd â chymwysterau addysg uwch yn cynyddu o
un ym mhob pum person i fwy na un ym mhob tri pherson ers datganoli; e)
y nifer uchaf erioed o fentrau gweithredol yng Nghymru. 2.
Yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru i sbarduno twf cynhwysol drwy’r Cynllun
Gweithredu ar yr Economi gan gynnwys y Contract Economaidd newydd, buddsoddiad
mawr mewn seilwaith megis y fasnachfraint rheilffyrdd a Metro newydd gwerth £5
biliwn, yn ogystal â Banc Datblygu newydd Cymru gwerth £1 biliwn. 3.
Yn cydnabod llawer o’r pryderon economaidd a fynegir yn refferendwm yr UE a
ffocws Llywodraeth Cymru ers cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi yn
2017 ar feithrin economi sylfaenol i sbarduno twf cynhwysol. 4.
Yn cydnabod pwysigrwydd sylfaenol gwaith teg i ddyfodol Cymru ac ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol i wneud Cymru yn
genedl gwaith teg. 5.
Yn gresynu nad yw Llywodraeth y DU wedi buddsoddi yng Nghymru dros y degawd
diwethaf a’i bod wedi canslo’r bwriad i drydaneiddio’r rheilffyrdd, gwrthod y
cynlluniau ar gyfer morlyn llanw a methu â sicrhau buddsoddiad ym mhrosiect
Wylfa. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 -
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
cynnull uwchgynhadledd economaidd genedlaethol i drafod dyfodol yr economi gyda
rhanddeiliaid allweddol a diwydiant; a b)
deddfu ar gyfer bil adnewyddu rhanbarthol, a fydd yn gorfodi'r llywodraeth i
ystyried tegwch rhanbarthol a chydraddoldeb wrth wneud penderfyniadau ar
wariant. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant
3
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
mynegi pryder am ddyfodol economi Cymru ar ôl Brexit. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant
4 -
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
nodi methiant Llywodraeth y DU i gyflwyno cynigion manwl neu ymgynghori ar
Gronfa Rhannu Ffyniant newydd ar ôl Brexit yn lle cyllid yr UE, o ystyried ei
lle fel elfen allweddol o economi Cymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu economi Cymru dros yr
ugain mlynedd diwethaf, sydd wedi arwain at: a)
300,000 yn fwy o bobl yn gweithio yng Nghymru ers 1999; b)
cyfraddau anweithgarwch economaidd sydd fwy neu lai yn debyg bellach i
gyfartaledd y DU am y tro cyntaf erioed; c) gostyngiad o dros
hanner ers 1999 yn nifer y bobl o oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau; d)
y gyfran o bobl o oedran gweithio sydd â chymwysterau addysg uwch yn cynyddu o
un ym mhob pum person i fwy na un ym mhob tri pherson ers datganoli; e)
y nifer uchaf erioed o fentrau gweithredol yng Nghymru. 2.
Yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru i sbarduno twf cynhwysol drwy’r Cynllun
Gweithredu ar yr Economi gan gynnwys y Contract Economaidd newydd, buddsoddiad
mawr mewn seilwaith megis y fasnachfraint rheilffyrdd a Metro newydd gwerth £5
biliwn, yn ogystal â Banc Datblygu newydd Cymru gwerth £1 biliwn. 3.
Yn cydnabod llawer o’r pryderon economaidd a fynegir yn refferendwm yr UE a
ffocws Llywodraeth Cymru ers cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi yn
2017 ar feithrin economi sylfaenol i sbarduno twf cynhwysol. 4.
Yn cydnabod pwysigrwydd sylfaenol gwaith teg i ddyfodol Cymru ac ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol i wneud Cymru yn
genedl gwaith teg. 5.
Yn gresynu nad yw Llywodraeth y DU wedi buddsoddi yng Nghymru dros y degawd
diwethaf a’i bod wedi canslo’r bwriad i drydaneiddio’r rheilffyrdd, gwrthod y
cynlluniau ar gyfer morlyn llanw a methu â sicrhau buddsoddiad ym mhrosiect
Wylfa. 6.
Yn mynegi pryder am ddyfodol economi Cymru ar ôl Brexit. 7.
Yn nodi methiant Llywodraeth y DU i gyflwyno cynigion manwl neu ymgynghori ar
Gronfa Rhannu Ffyniant newydd ar ôl Brexit yn lle cyllid yr UE, o ystyried ei
lle fel elfen allweddol o economi Cymru.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.15 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7054
John Griffiths (Dwyrain
Casnewydd) Anadlu'n haws yng
Nghymru: Gwasanaeth adsefydlu'r ysgyfaint a rhoi'r gorau i smygu. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.19 NDM7054 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Anadlu'n
haws yng Nghymru: Gwasanaeth adsefydlu'r ysgyfaint a rhoi'r gorau i smygu. |