Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 219(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/07/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

 

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.29

(45 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ofal Critigol - Adroddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.52

(0 munud)

4.

Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Y Cynllun Gweithredu Economaidd - Mesurau Datblygu Economaidd - TYNNWYD YN ÔL

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem hon yn ôl.

(45 munud)

5.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwella Canlyniadau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.20

(15 munud)

6.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau)

NDM7105 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:

https://services.parliament.uk/Bills/2017-19/censusreturnparticularsandremovalofpenalties.html

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.21

NDM7105 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl ar Doll Teithwyr Awyr - yr achos dros ddatganoli

NDM7107 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig, Datganoli’r Doll Teithwyr Awyr i Gymru.

2. Yn croesawu argymhelliad unfrydol y Pwyllgor Materion Cymreig y dylai’r Doll Teithwyr Awyr gael ei datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

3. Yn nodi’r gefnogaeth drawsbleidiol gyson ar draws y Cynulliad i ddatganoli’r doll, gan gynnwys y safbwynt yng nghyfraniad y Pwyllgor Cyllid i adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ymateb i’r adroddiad drwy:

a) amlinellu cynigion i ddatganoli’r Doll Teithwyr Awyr i’r Cynulliad Cenedlaethol; a

b) datganoli’r Doll yn llawn erbyn 2021.

Y Pwyllgor Materion Cymreig - Datganoli'r Doll Teithwyr Awyr i Gymru (Saesneg yn unig)

Pwyllgor Cyllid - Gohebiaeth

Cyd-gyflwynwyr

Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.27

NDM7107 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig, Datganoli’r Doll Teithwyr Awyr i Gymru.

2. Yn croesawu argymhelliad unfrydol y Pwyllgor Materion Cymreig y dylai’r Doll Teithwyr Awyr gael ei datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

3. Yn nodi’r gefnogaeth drawsbleidiol gyson ar draws y Cynulliad i ddatganoli’r doll, gan gynnwys y safbwynt yng nghyfraniad y Pwyllgor Cyllid i adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ymateb i’r adroddiad drwy:

a) amlinellu cynigion i ddatganoli’r Doll Teithwyr Awyr i’r Cynulliad Cenedlaethol; a

b) datganoli’r Doll yn llawn erbyn 2021.

Cyd-gyflwynwyr

Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

8.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Nid oedd cyfnod pleidleisio.