Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 225(v2)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/09/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(120 muned) |
Dadl - Brexit ac addoedi Senedd y DU NDM7128 Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cyd-weld â Llefarydd Tŷ’r
Cyffredin ei bod yn warth cyfansoddiadol fod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
wedi cynghori’r Frenhines i addoedi’r Senedd am bum wythnos a mwy, a’r wlad
mewn argyfwng. 2. Yn ailadrodd ei farn y
byddai Brexit heb gytundeb yn tarfu’n sylweddol ar Gymru yn y tymor byr ac yn
achosi niwed difrifol iddi yn y tymor hir, ac na ddylai’r Deyrnas Unedig,
felly, ymadael â’r UE heb gytundeb ar unrhyw gyfrif; ac yn credu nad yw
refferendwm 2016 nac Etholiad Cyffredinol 2017 yn rhoi mandad ar gyfer
gweithredu yn y fath fodd. 3. Yn galw ar Aelodau Seneddol
i ddefnyddio unrhyw ddull cyfreithiol a chyfansoddiadol sydd ar gael i atal
Llywodraeth y DU rhag dilyn trywydd a fydd yn golygu na cheir cytundeb yn sgil
y negodiadau Brexit; ac i sicrhau, yn wyneb y sefyllfa sydd ohoni, fod y
penderfyniad ynglŷn ag ymadael â’r UE ai peidio yn cael ei roi yn ôl yn
nwylo’r etholwyr mewn refferendwm. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Caroline
Jones Dileu'r cyfan a rhoi
yn ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. O'r farn bod yn well i ddeddfwrfeydd gael eu llywyddu
gan aelod sy'n wleidyddol niwtral ac yn ymatal rhag arddel safbwyntiau dadleuol
neu bleidiol a allai danseilio didueddrwydd ei swydd. 2. Yn cefnogi Brexit sy'n gadael yr UE yn llwyr yng
ngoleuni'r ffaith bod llawer o Aelodau Seneddol yn gwrthod derbyn canlyniad
refferendwm 2016 a diffyg hyblygrwydd yr Undeb Ewropeaidd yn ei safbwynt
negodi. 3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio'r holl
ddulliau angenrheidiol a phriodol i weithredu canlyniad refferendwm 2016, lle y
pleidleisiodd y DU a Chymru o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd. Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Os bydd yn wynebu’r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb, a
dim mandad iddo, yn galw ar i Erthygl 50 gael ei dirymu. Gwelliant 3 – Rhun
ap Iorwerth Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Os caiff yr etholwyr gynnig etholiad cyffredinol yn
hytrach na refferendwm i ddatrys yr argyfwng Brexit, yn galw ar bleidiau sydd o
blaid aros, i ymgyrchu dros bolisi o ddirymu Erthygl 50 a pharhau yn yr UE. Gwelliant 4 – Rhun
ap Iorwerth Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn paratoi at y posibilrwydd o ganlyniad heb gytundeb yn
y pen draw drwy alw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Confensiwn Cyfansoddiadol
Cenedlaethol i Gymru, gan gynnwys Cynulliad Dinasyddion; ystyried pob opsiwn ar
gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru, gan gynnwys annibynniaeth, a dechrau
paratoi at refferendwm i bobl Cymru benderfynu ar eu dyfodol cyfansoddiadol. Gwelliant 5 – Neil
McEvoy Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y gallai canlyniad Brexit heb gytundeb, ac
agenda genedlaetholaidd yr asgell dde a gaiff ei dilyn gan Lywodraeth y DU yn
Llundain arwain, yn fuan iawn, at wahanu gwleidyddol llawn y cenhedloedd sydd,
ar hyn o bryd, yn ffurfio gwladwriaeth y DU ac, i baratoi at y posibilrwydd
hwn, yn penderfynu: a) ymgysylltu â gwleidyddion etholedig ar bob lefel yng
Nghymru i sefydlu confensiwn cyfansoddiadol, gyda'r dasg o lunio sut y byddai
Cymru sofran y dyfodol yn ymddangos, gan nodi ei pherthynas yn y dyfodol â
rhannau cyfansoddol yr hen Deyrnas Unedig; b) creu cynulliadau'r bobl, i gynnwys aelodau o'r cyhoedd
yng Nghymru sydd â diddordeb, gan gynnwys Senedd Ieuenctid Cymru, i gyfrannu at
waith y confensiwn cyfansoddiadol hwn; c) ymgysylltu â'r meddyliau cyfreithiol gorau yng Nghymru
a thu hwnt i ysgrifennu cyfansoddiad drafft ar gyfer Cymru sofran y dyfodol,
i'w drafod, ei ddiwygio a'i fabwysiadu yn y pen draw gan gonfensiwn
cyfansoddiadol; d) ymgysylltu â'r economegwyr gorau o Gymru a thu hwnt,
sydd wedi ymrwymo i ddyfodol economaidd ac amgylcheddol cynaliadwy Cymru
sofran, i lunio dulliau realistig i gyflawni hyn; e) ffurfio pwyllgor o'r Cynulliad hwn, a fyddai'n cynnwys
Aelodau Cynulliad sydd â diddordeb, beth bynnag fo'u cysylltiadau pleidiol, i
ddiffinio'r cylch gorchwyl a phenodi cadeirydd ac is-gadeiryddion ar gyfer y
confensiwn cyfansoddiadol a goruchwylio ei effeithiolrwydd a'i gynnydd; f) rhoi'r dasg i Lywodraeth Cymru o ddarparu'r adnodd
angenrheidiol i alluogi'r uchod yn llawn. Gwelliant 6 – Rhun
ap Iorwerth Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu manylion llawn y
dogfennau bras melyn sy'n ymwneud â senario dim cytundeb a ddarparwyd ar ei
chyfer. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.00 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7128 Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cyd-weld â
Llefarydd Tŷ’r Cyffredin ei bod yn warth cyfansoddiadol fod Prif Weinidog
y Deyrnas Unedig wedi cynghori’r Frenhines i addoedi’r Senedd am bum wythnos a
mwy, a’r wlad mewn argyfwng. 2. Yn ailadrodd ei farn
y byddai Brexit heb gytundeb yn tarfu’n sylweddol ar Gymru yn y tymor byr ac yn
achosi niwed difrifol iddi yn y tymor hir, ac na ddylai’r Deyrnas Unedig,
felly, ymadael â’r UE heb gytundeb ar unrhyw gyfrif; ac yn credu nad yw
refferendwm 2016 nac Etholiad Cyffredinol 2017 yn rhoi mandad ar gyfer
gweithredu yn y fath fodd. 3. Yn galw ar Aelodau
Seneddol i ddefnyddio unrhyw ddull cyfreithiol a chyfansoddiadol sydd ar gael i
atal Llywodraeth y DU rhag dilyn trywydd a fydd yn golygu na cheir cytundeb yn
sgil y negodiadau Brexit; ac i sicrhau, yn wyneb y sefyllfa sydd ohoni, fod y
penderfyniad ynglŷn ag ymadael â’r UE ai peidio yn cael ei roi yn ôl yn
nwylo’r etholwyr mewn refferendwm. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Caroline
Jones Dileu'r cyfan a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. O'r farn bod yn well
i ddeddfwrfeydd gael eu llywyddu gan aelod sy'n wleidyddol niwtral ac yn ymatal
rhag arddel safbwyntiau dadleuol neu bleidiol a allai danseilio didueddrwydd ei
swydd. 2. Yn cefnogi Brexit
sy'n gadael yr UE yn llwyr yng ngoleuni'r ffaith bod llawer o Aelodau Seneddol
yn gwrthod derbyn canlyniad refferendwm 2016 a diffyg hyblygrwydd yr Undeb
Ewropeaidd yn ei safbwynt negodi. 3. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i ddefnyddio'r holl ddulliau angenrheidiol a phriodol i weithredu
canlyniad refferendwm 2016, lle y pleidleisiodd y DU a Chymru o blaid gadael yr
Undeb Ewropeaidd. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Os bydd yn wynebu’r
posibilrwydd o Brexit heb gytundeb, a dim mandad iddo, yn galw ar i Erthygl 50
gael ei dirymu. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 – Rhun ap Iorwerth Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Os caiff yr etholwyr
gynnig etholiad cyffredinol yn hytrach na refferendwm i ddatrys yr argyfwng
Brexit, yn galw ar bleidiau sydd o blaid aros, i ymgyrchu dros bolisi o ddirymu
Erthygl 50 a pharhau yn yr UE. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 – Rhun ap Iorwerth Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn paratoi at y posibilrwydd
o ganlyniad heb gytundeb yn y pen draw drwy alw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu
Confensiwn Cyfansoddiadol Cenedlaethol i Gymru, gan gynnwys Cynulliad
Dinasyddion; ystyried pob opsiwn ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru, gan
gynnwys annibynniaeth, a dechrau paratoi at refferendwm i bobl Cymru benderfynu
ar eu dyfodol cyfansoddiadol. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 – Neil McEvoy Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y gallai canlyniad
Brexit heb gytundeb, ac agenda genedlaetholaidd yr asgell dde a gaiff ei dilyn
gan Lywodraeth y DU yn Llundain arwain, yn fuan iawn, at wahanu gwleidyddol
llawn y cenhedloedd sydd, ar hyn o bryd, yn ffurfio gwladwriaeth y DU ac, i
baratoi at y posibilrwydd hwn, yn penderfynu: a) ymgysylltu â
gwleidyddion etholedig ar bob lefel yng Nghymru i sefydlu confensiwn
cyfansoddiadol, gyda'r dasg o lunio sut y byddai Cymru sofran y dyfodol yn
ymddangos, gan nodi ei pherthynas yn y dyfodol â rhannau cyfansoddol yr hen
Deyrnas Unedig; b) creu cynulliadau'r
bobl, i gynnwys aelodau o'r cyhoedd yng Nghymru sydd â diddordeb, gan gynnwys
Senedd Ieuenctid Cymru, i gyfrannu at waith y confensiwn cyfansoddiadol
hwn. c) ymgysylltu â'r
meddyliau cyfreithiol gorau yng Nghymru a thu hwnt i ysgrifennu cyfansoddiad
drafft ar gyfer Cymru sofran y dyfodol, i'w drafod, ei ddiwygio a'i fabwysiadu
yn y pen draw gan gonfensiwn cyfansoddiadol; d) ymgysylltu â'r economegwyr
gorau o Gymru a thu hwnt, sydd wedi ymrwymo i ddyfodol economaidd ac
amgylcheddol cynaliadwy Cymru sofran, i lunio dulliau realistig i gyflawni hyn; e) ffurfio pwyllgor o'r
Cynulliad hwn, a fyddai'n cynnwys Aelodau Cynulliad sydd â diddordeb, beth
bynnag fo'u cysylltiadau pleidiol, i ddiffinio'r cylch gorchwyl a phenodi
cadeirydd ac is-gadeiryddion ar gyfer y confensiwn cyfansoddiadol a goruchwylio
ei effeithiolrwydd a'i gynnydd; f) rhoi'r dasg i
Lywodraeth Cymru o ddarparu'r adnodd angenrheidiol i alluogi'r uchod yn llawn. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 – Rhun ap Iorwerth Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddarparu manylion llawn y dogfennau bras melyn sy'n ymwneud â senario
dim cytundeb a ddarparwyd ar ei chyfer. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 6:
Derbyniwyd/Gwrthodwyd
gwelliant 6. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig: NDM7128 Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cyd-weld â
Llefarydd Tŷ’r Cyffredin ei bod yn warth cyfansoddiadol fod Prif Weinidog
y Deyrnas Unedig wedi cynghori’r Frenhines i addoedi’r Senedd am bum wythnos a
mwy, a’r wlad mewn argyfwng. 2. Yn ailadrodd ei farn
y byddai Brexit heb gytundeb yn tarfu’n sylweddol ar Gymru yn y tymor byr ac yn
achosi niwed difrifol iddi yn y tymor hir, ac na ddylai’r Deyrnas Unedig,
felly, ymadael â’r UE heb gytundeb ar unrhyw gyfrif; ac yn credu nad yw
refferendwm 2016 nac Etholiad Cyffredinol 2017 yn rhoi mandad ar gyfer
gweithredu yn y fath fodd. 3. Yn galw ar Aelodau
Seneddol i ddefnyddio unrhyw ddull cyfreithiol a chyfansoddiadol sydd ar gael i
atal Llywodraeth y DU rhag dilyn trywydd a fydd yn golygu na cheir cytundeb yn
sgil y negodiadau Brexit; ac i sicrhau, yn wyneb y sefyllfa sydd ohoni, fod y
penderfyniad ynglŷn ag ymadael â’r UE ai peidio yn cael ei roi yn ôl yn
nwylo’r etholwyr mewn refferendwm.
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |