Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 253(v3) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/01/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Datganiad gan y Llywydd

Cyhoeddodd y Llywydd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, bod y Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 15 Ionawr.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.21

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2 a 7 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad gan Mondi ynghylch colledion swyddi ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint?

Russell George (Sir Drefaldwyn) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i adroddiadau ynghylch dyfodol Flybe a'i effaith ar faes awyr Caerdydd?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.17

Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad gan Mondi ynghylch colledion swyddi ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint?

Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i adroddiadau ynghylch dyfodol Flybe a'i effaith ar faes awyr Caerdydd?

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.42

Gwnaeth Leanne Wood ddatgniad yn llongyfarch Wayne Warren o’r Rhondd wedi iddo ennill Pencampwriaeth Ddartiau BDO a chanmol y gamp.

Gwnaeth Sian Gwenllian ddatganiad yn dathlu’r ffaith bod Dafydd Iwan wedi cyrraedd brig gwerthiant iTunes gydag Yma o Hyd.

Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad yn cofnodi 80 mlynedd ers genedigaeth Leighton Thomas Rees.

(60 munud)

5.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru

NDM7226 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar yr ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Tachwedd 2019.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2020.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.47

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

6.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Addysgu Hanes Cymru

NDM7228 Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar addysgu hanes Cymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Tachwedd.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2020.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.39

NDM7228 Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar addysgu hanes Cymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Tachwedd.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2020.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl Plaid Cymru - Trais a Chamdriniaeth Rywiol

NDM7229 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r cynnydd mewn adroddiadau o drais rhywiol yng Nghymru a Lloegr.

2. Yn mynegi cydymdeimlad ac undod â goroeswyr trais a chamdriniaeth rywiol.

3. Yn gresynu at fethiant parhaus nifer o systemau cyfiawnder troseddol ledled y byd i gynnig cefnogaeth i oroeswyr, a gresynu’r ffaith nad yw goroeswyr, yn rhy aml, yn cael eu credu ac yn cael eu gorfodi i ail-fyw profiadau erchyll drwy brosesau llys dwys, a diwylliannau mewn heddluoedd nad ydynt yn credu dioddefwyr.

4. Yn nodi bod erlyniadau ar gyfer trais rhywiol ac euogfarnau yng Nghymru a Lloegr ar eu lefelau isaf ers degawd, a bod gwella cyfraddau euogfarnu’n rhan hanfodol o strategaeth atal trais.

5. Yn nodi bod comisiwn Thomas wedi dadlau mai dim ond datganoli deddfwriaethol llawn, ar y cyd â phwerau gweithredol, fydd yn goresgyn rhwystrau’r setliad datganoli presennol o ran mynd i’r afael â diffyg cyfiawnder ac atebolrwydd y status quo.

6. Yn galw i gefnogaeth a gwasanaethau ymosodiad rhywiol fod ar gael a chael eu hariannu’n ddigonol, ac i lysoedd gael eu haddasu fel y bydd dioddefwyr yn teimlo eu bod yn cael eu hamddiffyn, nid eu dychryn, wrth roi tystiolaeth.

7. Yn galw i ddatganoli cyfiawnder fel y gallwn fynd i’r afael â’r cyfraddau euogfarnu isel hyn drwy fabwysiadu arfer gorau rhyngwladol ar gynyddu cyfraddau euogfarnu ac atal camdriniaeth a thrais rhywiol.

Adroddiad Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru - Hydref 2019

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Dileu pwyntiau 5 a 7.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Nodi adroddiad Comisiwn Thomas ac yn diolch i’r Comisiwn am ei waith ar y posibilrwydd o ddatganoli cyfiawnder gan edrych ymlaen at y ddadl a addawyd yn ystod amser y llywodraeth ar ganfyddiadau’r Comisiwn ac unrhyw effaith gaiff y rhain ar gynyddu cyfraddau euogfarnu ac atal camdriniaeth a thrais rhywiol.

Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod adroddiad Arolwg Trais Rhywiol 2019 Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron EM wedi canfod bod nifer yr achosion a gyfeiriwyd at y Gwasanaeth i gael eu penderfynu gan yr heddlu a nifer yr achosion a erlynwyd gan y Gwasanaeth wedi disgyn, er gwaethaf bod adroddiadau o drais a gaiff eu cyflwyno i'r heddlu bron wedi dyblu.

Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron EM - Arolwg Trais Rhywiol 2019 - Rhagfyr 2019

Gwelliant 5 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi datganiad Llywodraeth y DU bod y canfyddiadau yn peri pryder mawr a'i bod wedi ymrwymo i adfer hyder yn y system gyfiawnder a darparu gwell cefnogaeth i ddioddefwyr.

Adroddiad HMCPSI ar gyfraddau euogfarnau trais rhywiol - 17 Rhagfyr 2019

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.37

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7229 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru :

1. Yn nodi’r cynnydd mewn adroddiadau o drais rhywiol yng Nghymru a Lloegr.

2. Yn mynegi cydymdeimlad ac undod â goroeswyr trais a chamdriniaeth rywiol.

3. Yn gresynu at fethiant parhaus nifer o systemau cyfiawnder troseddol ledled y byd i gynnig cefnogaeth i oroeswyr, a gresynu’r ffaith nad yw goroeswyr, yn rhy aml, yn cael eu credu ac yn cael eu gorfodi i ail-fyw profiadau erchyll drwy brosesau llys dwys, a diwylliannau mewn heddluoedd nad ydynt yn credu dioddefwyr.

4. Yn nodi bod erlyniadau ar gyfer trais rhywiol ac euogfarnau yng Nghymru a Lloegr ar eu lefelau isaf ers degawd, a bod gwella cyfraddau euogfarnu’n rhan hanfodol o strategaeth atal trais.

5. Yn nodi bod comisiwn Thomas wedi dadlau mai dim ond datganoli deddfwriaethol llawn, ar y cyd â phwerau gweithredol, fydd yn goresgyn rhwystrau’r setliad datganoli presennol o ran mynd i’r afael â diffyg cyfiawnder ac atebolrwydd y status quo.

6. Yn galw i gefnogaeth a gwasanaethau ymosodiad rhywiol fod ar gael a chael eu hariannu’n ddigonol, ac i lysoedd gael eu haddasu fel y bydd dioddefwyr yn teimlo eu bod yn cael eu hamddiffyn, nid eu dychryn, wrth roi tystiolaeth.

7. Yn galw i ddatganoli cyfiawnder fel y gallwn fynd i’r afael â’r cyfraddau euogfarnu isel hyn drwy fabwysiadu arfer gorau rhyngwladol ar gynyddu cyfraddau euogfarnu ac atal camdriniaeth a thrais rhywiol.

Adroddiad Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru - Hydref 2019

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

2

12

49

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

8.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.45

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

9.

Dadl Fer

NDM7227 Mick Antoniw (Pontypridd)

Dathlu Arwyr Cymru: Cyfraniad arwyr Cymru i broffil rhyngwladol ein gwlad.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.45

NDM7227 Mick Antoniw (Pontypridd)

Dathlu Arwyr Cymru: Cyfraniad arwyr Cymru i broffil rhyngwladol ein gwlad.