Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 262(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/02/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 4 a 7 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.37

 

(60 mun)

3.

Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - Y Diweddaraf am yr Uwchgynhadledd Argyfwng am y Llifogydd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.56

 

(0 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - Gohiriwyd tan 3 Mawrth 2020

(45 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Ail-ddychmygu adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru - strategaeth dulliau modern o adeiladu ar gyfer Cymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.10

 

(45 munud)

6.

Datganiad gan Weinidog yr Economi, Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru: Prosiectau Metro yng Nghymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.49

 

(0 munud)

7.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynnydd ar y Llwybr Canser Sengl - Gohiriwyd tan 17 Mawrth 2020

(45 munud)

8.

Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit: Deddfwriaeth yn ymwneud â gadael yr UE

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.47

(15 munud)

9.

Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) (Taliadau Diofyn) (Terfynau Rhagnodedig) (Cymru) 2020

NDM7273 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Terfynau Rhagnodedig ar gyfer Taliadau Diffygdaliad) (Cymru) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Ionawr 2020.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.31

NDM7273 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Terfynau Rhagnodedig ar gyfer Taliadau Diffygdaliad) (Cymru) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Ionawr 2020.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(5 munud)

10.

Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru)

NDM7272 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:

a) Adrannau 2 - 12;

b) Atodlen 1;

c) Adrannau 13 - 21;

d) Atodlen 2;

e) Adrannau 22 - 25;

f) Atodlen 3;

g) Adrannau 26 - 28;

h) Adran 1;

i) Teitl hir.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.34

NDM7272 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:

a) Adrannau 2 - 12;

b) Atodlen 1;

c) Adrannau 13 - 21;

d) Atodlen 2;

e) Adrannau 22 - 25;

f) Atodlen 3;

g) Adrannau 26 - 28;

h) Adran 1;

i) Teitl hir.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(60 munud)

11.

Dadl: Adolygiad Blynyddol Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2018-2019

NDM7271 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru, Adroddiad Effaith Cymru 2018-19.

Adroddiad Effaith Cymru 2018-19

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 – Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu strategaeth gynhwysfawr ar gyfer diogelu hawliau dynol mewn ffordd gadarn ac ystyrlon nawr bod y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.34

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7271 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru, Adroddiad Effaith Cymru 2018-19.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 – Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu strategaeth gynhwysfawr ar gyfer diogelu hawliau dynol mewn ffordd gadarn ac ystyrlon nawr bod y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

10

1

43

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7271 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

  1. Yn nodi adroddiad blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru, Adroddiad Effaith Cymru 2018-19.
  2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu strategaeth gynhwysfawr ar gyfer diogelu hawliau dynol mewn ffordd gadarn ac ystyrlon nawr bod y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd.
  3.  

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

1

1

45

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

 

12.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19.16

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: