Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 263
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 26/02/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd y 8 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.24 Gofynnwyd y 8 cwestiwn
cyntaf. Cafodd cwestiynau 5 a 6 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y
Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(10 munud) |
Cwestiwn Amserol 1 Gofyn i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd
Cymru: Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad gan KASAI y bydd yn cau ei ffatri
ym Merthyr Tudful yn 2021? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.00 Gofyn i
Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Dawn Bowden
(Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad gan KASAI y bydd yn cau ei
ffatri ym Merthyr Tudful yn 2021? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.13 Gwnaeth Darren Millar
ddatganiad am - Coffáu 30 mlynedd ers Llifogydd Towyn. Gwnaeth Angela Burns
ddatganiad am - Hyrwyddo Diwrnod Clefydau Anghyffredin - 29 Chwefror 2020. Gwnaeth Rhianon Passmore
ddatganiad am - Creu Park Coetir a Maes Chwarae yn Nhrecelyn (agorwyd yn
swyddogol ddydd Sadwrn 22 Chwefror 2020) yn dilyn blynyddoedd o waith caled gan
drigolion lleol a sicrhau grant o £250,000 gan Gronfa’r Loteri Genedlaethol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffyrdd NDM7274 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd
ffyrdd fel rhydwelïau economaidd hanfodol sy'n hyrwyddo ffyniant. 2. Yn cydnabod yr
effaith economaidd ac amgylcheddol andwyol sy'n deillio o gysylltedd gwael a
thagfeydd ffyrdd. 3. Yn gresynu bod y
Prif Weinidog wedi gwneud y penderfyniad unochrog i beidio â bwrw ymlaen â
ffordd liniaru'r M4 er gwaethaf y gefnogaeth a gynigir gan Lywodraeth y DU. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) gweithio gyda
Llywodraeth y DU i ddarparu ffordd liniaru'r M4 cyn gynted â phosibl; b) datblygu cynigion
ar gyfer gwaith i uwchraddio cefnffordd yr A55 yn sylweddol a deuoli'r A40 i
Abergwaun; c) ymgysylltu â
Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â chyflenwi ffordd osgoi Pant/Llanymynech. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu’r cyfan a rhoi
yn ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod yr
argyfwng hinsawdd a’r consensws rhwng y pleidiau dros leihau allyriadau i ddim,
gan gynnwys trwy ddatgarboneiddio ffyrdd a rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus
Cymru a sicrhau newid moddol. 2. Yn cydnabod
cyd-ddibyniaeth y seilwaith ffyrdd a rheilffyrdd a phwysigrwydd gwasanaeth
rheilffyrdd £5bn Llywodraeth Cymru, ei chynllun datreoleiddio bysiau a’i buddsoddiad
mwyaf erioed mewn teithio llesol o ran darparu rhwydwaith trafnidiaeth
aml-foddol a charbon isel a fydd yn chwarae rhan i liniaru’r tagfeydd ar y
ffyrdd. 3. Yn gresynu bod
diffyg ariannu o £1bn gan Lywodraeth y DU yn y seilwaith trafnidiaeth yng
Nghymru a’i methiant i drydaneiddio prif leiniau’r Gogledd a’r De wedi
gwaethygu’r tagfeydd ar y ffyrdd, gan arwain at ragor o draffig ar ein
cefnffyrdd. 4. Yn gresynu hefyd
fod y degawd o gynni gan Lywodraeth y DU wedi cael effaith uniongyrchol ar waith
cynnal rhwydwaith ffyrdd y DU. 5. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i: a) wneud ymrwymiad
tebyg i’r hwnnw gan Lywodraeth Cymru i ariannu pecyn cynhwysfawr o brosiectau
ffyrdd a thrafnidiaeth ar y ffin i wella’r priffyrdd strategol i Gymru gan
gynnwys Coridor Brychdyn o gwmpas Caer; yr A5 trwy Amwythig i Gymru ac yn y
Pant/Llanymynech; b) helpu i liniaru’r
tagfeydd ar y rhwydwaith ffyrdd trwy addo £1bn i drydaneiddio’r brif lein o
Crewe i Gaergybi, buddsoddi i uwchraddio’r lein o Wrecsam i orsaf Lime Street
yn Lerpwl a thrydaneiddio prif lein y De yn ei chyfanrwydd. 6. Yn nodi
penderfyniad a datganiad llafar y Prif Weinidog ddydd Mawrth 4 Mehefin 2019
ynghylch prosiect coridor yr M4 o gwmpas Casnewydd a’r gwaith arwyddocaol sy’n
cael ei wneud gan Gomisiwn Trafnidiaeth y De-ddwyrain i ddatblygu atebion
cynaliadwy ac effeithiol i broblem tagfeydd yng Nghasnewydd ac yng ngweddill y
rhanbarth. 7. Yn croesawu
ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau tagfeydd traffig ar y ffyrdd, gan gynnwys
y pecyn digynsail o £1bn i wella seilwaith ffyrdd a thrafnidiaeth y Gogledd,
gan gynnwys y gwaith uwchraddio mawr ar yr A55 a’r A483, cynlluniau teithio
llesol a Metro’r Gogledd. [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4, 5, 6 a 7 eu
dad-ddethol] Gwelliant 2 - Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn cydnabod
pwysigrwydd buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus werdd i fynd i’r afael â’r
argyfwng hinsawdd a lleddfu tagfeydd ar y ffyrdd. Gwelliant 3 - Sian
Gwenllian (Arfon) Dileu pwynt 3 a rhoi
yn ei le: Yn cadarnhau’r egwyddor
y dylai Llywodraeth Cymru fod yn atebol i etholwyr Cymru a’r Senedd hon o ran
blaenoriaethau seilwaith ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Gwelliant 4 - Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn gwrthod unrhyw
ymgais gan Lywodraeth y DU i benderfynu ar flaenoriaethau gwariant a seilwaith
ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus y Senedd hon ar ei rhan. Gwelliant 5 - Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu wrth
fethiant Llywodraeth Geidwadol y DU a Llywodraeth Lafur Cymru i gyflawni pecyn
o fuddsoddiad seilwaith yn y rhwydwaith ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus
ar gyfer Cymru gyfan. Gwelliant 6 - Sian
Gwenllian (Arfon) Ym mhwynt 4, dileu
is-bwynt (a) a rhoi yn ei le: 'sicrhau datblygiad
cyflym gweledigaeth hirdymor ar gyfer rhwydwaith ffyrdd a thrafnidiaeth
gyhoeddus integredig gwyrdd a chynaliadwy ar gyfer Cymru, sy’n cynnwys rhoi
blaenoriaeth i fynd i’r afael â’r trafferthion tagfeydd o amgylch Casnewydd.' Gwelliant 7 - Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4: 'gwella cysylltedd
trafnidiaeth rhwng gogledd a de Cymru.' Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.18 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7274 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod
pwysigrwydd ffyrdd fel rhydwelïau economaidd hanfodol sy'n hyrwyddo ffyniant. 2. Yn cydnabod yr effaith
economaidd ac amgylcheddol andwyol sy'n deillio o gysylltedd gwael a thagfeydd
ffyrdd. 3. Yn gresynu bod y Prif
Weinidog wedi gwneud y penderfyniad unochrog i beidio â bwrw ymlaen â ffordd
liniaru'r M4 er gwaethaf y gefnogaeth a gynigir gan Lywodraeth y DU. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) gweithio gyda
Llywodraeth y DU i ddarparu ffordd liniaru'r M4 cyn gynted â phosibl; b) datblygu cynigion ar
gyfer gwaith i uwchraddio cefnffordd yr A55 yn sylweddol a deuoli'r A40 i
Abergwaun; c) ymgysylltu â
Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â chyflenwi ffordd osgoi Pant/Llanymynech.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod yr argyfwng hinsawdd a’r consensws
rhwng y pleidiau dros leihau allyriadau i ddim, gan gynnwys trwy
ddatgarboneiddio ffyrdd a rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru a sicrhau
newid moddol. 2. Yn cydnabod cyd-ddibyniaeth y seilwaith ffyrdd a
rheilffyrdd a phwysigrwydd gwasanaeth rheilffyrdd £5bn Llywodraeth Cymru, ei
chynllun datreoleiddio bysiau a’i buddsoddiad mwyaf erioed mewn teithio llesol
o ran darparu rhwydwaith trafnidiaeth aml-foddol a charbon isel a fydd yn
chwarae rhan i liniaru’r tagfeydd ar y ffyrdd. 3. Yn gresynu bod diffyg ariannu o £1bn gan
Lywodraeth y DU yn y seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru a’i methiant i
drydaneiddio prif leiniau’r Gogledd a’r De wedi gwaethygu’r tagfeydd ar y
ffyrdd, gan arwain at ragor o draffig ar ein cefnffyrdd. 4. Yn gresynu hefyd fod y degawd o gynni gan
Lywodraeth y DU wedi cael effaith uniongyrchol ar waith cynnal rhwydwaith
ffyrdd y DU. 5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i: a) wneud ymrwymiad tebyg i’r hwnnw gan Lywodraeth
Cymru i ariannu pecyn cynhwysfawr o brosiectau ffyrdd a thrafnidiaeth ar y ffin
i wella’r priffyrdd strategol i Gymru gan gynnwys Coridor Brychdyn o gwmpas
Caer; yr A5 trwy Amwythig i Gymru ac yn y Pant/Llanymynech; b) helpu i liniaru’r tagfeydd ar y rhwydwaith
ffyrdd trwy addo £1bn i drydaneiddio’r brif lein o Crewe i Gaergybi, buddsoddi
i uwchraddio’r lein o Wrecsam i orsaf Lime Street yn Lerpwl a thrydaneiddio
prif lein y De yn ei chyfanrwydd. 6. Yn nodi penderfyniad a datganiad llafar y Prif
Weinidog ddydd Mawrth 4 Mehefin 2019 ynghylch prosiect coridor yr M4 o gwmpas
Casnewydd a’r gwaith arwyddocaol sy’n cael ei wneud gan Gomisiwn Trafnidiaeth y
De-ddwyrain i ddatblygu atebion cynaliadwy ac effeithiol i broblem tagfeydd yng
Nghasnewydd ac yng ngweddill y rhanbarth. 7. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau
tagfeydd traffig ar y ffyrdd, gan gynnwys y pecyn digynsail o £1bn i wella
seilwaith ffyrdd a thrafnidiaeth y Gogledd, gan gynnwys y gwaith uwchraddio
mawr ar yr A55 a’r A483, cynlluniau teithio llesol a Metro’r Gogledd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd
gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd
gwelliannau 2, 3, 4, 5, 6 a 7 eu dad-ddethol Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7274 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod yr argyfwng hinsawdd a’r consensws
rhwng y pleidiau dros leihau allyriadau i ddim, gan gynnwys trwy
ddatgarboneiddio ffyrdd a rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru a sicrhau
newid moddol. 2. Yn cydnabod cyd-ddibyniaeth y seilwaith ffyrdd a
rheilffyrdd a phwysigrwydd gwasanaeth rheilffyrdd £5bn Llywodraeth Cymru, ei
chynllun datreoleiddio bysiau a’i buddsoddiad mwyaf erioed mewn teithio llesol
o ran darparu rhwydwaith trafnidiaeth aml-foddol a charbon isel a fydd yn
chwarae rhan i liniaru’r tagfeydd ar y ffyrdd. 3. Yn gresynu bod diffyg ariannu o £1bn gan
Lywodraeth y DU yn y seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru a’i methiant i
drydaneiddio prif leiniau’r Gogledd a’r De wedi gwaethygu’r tagfeydd ar y
ffyrdd, gan arwain at ragor o draffig ar ein cefnffyrdd. 4. Yn gresynu hefyd fod y degawd o gynni gan
Lywodraeth y DU wedi cael effaith uniongyrchol ar waith cynnal rhwydwaith
ffyrdd y DU. 5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i: a) wneud ymrwymiad tebyg i’r hwnnw gan Lywodraeth
Cymru i ariannu pecyn cynhwysfawr o brosiectau ffyrdd a thrafnidiaeth ar y ffin
i wella’r priffyrdd strategol i Gymru gan gynnwys Coridor Brychdyn o gwmpas
Caer; yr A5 trwy Amwythig i Gymru ac yn y Pant/Llanymynech; b) helpu i liniaru’r tagfeydd ar y rhwydwaith
ffyrdd trwy addo £1bn i drydaneiddio’r brif lein o Crewe i Gaergybi, buddsoddi
i uwchraddio’r lein o Wrecsam i orsaf Lime Street yn Lerpwl a thrydaneiddio
prif lein y De yn ei chyfanrwydd. 6. Yn nodi penderfyniad a datganiad llafar y Prif
Weinidog ddydd Mawrth 4 Mehefin 2019 ynghylch prosiect coridor yr M4 o gwmpas
Casnewydd a’r gwaith arwyddocaol sy’n cael ei wneud gan Gomisiwn Trafnidiaeth y
De-ddwyrain i ddatblygu atebion cynaliadwy ac effeithiol i broblem tagfeydd yng
Nghasnewydd ac yng ngweddill y rhanbarth. 7. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau
tagfeydd traffig ar y ffyrdd, gan gynnwys y pecyn digynsail o £1bn i wella
seilwaith ffyrdd a thrafnidiaeth y Gogledd, gan gynnwys y gwaith uwchraddio
mawr ar yr A55 a’r A483, cynlluniau teithio llesol a Metro’r Gogledd.
Derbyniwyd y
cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Datgarboneiddio NDM7277 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r angen i leihau
ein hôl troed carbon ac yn nodi potensial hydrogen fel un ffurf i’n helpu i
ddatgarboneiddio. 2. Yn croesawu sefydlu
Cymdeithas Masnach Hydrogen Cymru. 3. Yn nodi fod gan
Gymru, gyda'i hadnoddau naturiol helaeth, gyfle i ymuno â'r arloeswyr trwy symud
y defnydd o hydrogen ymlaen yn gyflym er mwyn cael manteision amgylcheddol,
iechyd ac economaidd. 4. Yn cydnabod yr
astudiaeth sydd eisoes yn cael ei gynnal i ddefnyddio Ynys Môn fel ardal peilot
ar gyfer cynlluniau hydrogen, yn ogystal a chynlluniau ar y gweill mewn sawl
ardal arall o Gymru. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth Gymreig ar hydrogen. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi buddsoddiad
Llywodraeth y DU yn y sector ynni hydrogen, gan gynnwys buddsoddiad diweddar o
£28 miliwn i brosiectau cynhyrchu hydrogen carbon isel ledled y DU fel rhan o'r
Rhaglen Cyflenwi Hydrogen. Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth di-allyriadau, fel trafnidiaeth
gyhoeddus wedi'i phweru gan hydrogen, a gyflwynwyd mewn rhannau eraill o'r DU,
fel rhan o strategaeth ehangach i fynd i'r afael â llygredd aer ac allyriadau
carbon. Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth y DU i ddatblygu sector
ynni hydrogen Cymru, a gweithio gyda phrifysgolion a busnesau o fewn y sector i
sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran y dechnoleg newydd hon. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.20 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7277 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r angen i leihau ein
hôl troed carbon ac yn nodi potensial hydrogen fel un ffurf i’n helpu i
ddatgarboneiddio. 2. Yn croesawu sefydlu
Cymdeithas Masnach Hydrogen Cymru. 3. Yn nodi fod gan Gymru,
gyda'i hadnoddau naturiol helaeth, gyfle i ymuno â'r arloeswyr trwy symud y
defnydd o hydrogen ymlaen yn gyflym er mwyn cael manteision amgylcheddol, iechyd
ac economaidd. 4. Yn cydnabod yr astudiaeth
sydd eisoes yn cael ei chynnal i ddefnyddio Ynys Môn fel ardal beilot ar gyfer
cynlluniau hydrogen, yn ogystal a chynlluniau ar y gweill mewn sawl ardal arall
o Gymru. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i lunio strategaeth Gymreig ar hydrogen.
Derbyniwyd y cynnig
heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Tywydd garw a difrod stormydd NDM7278 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r difrod
a'r dinistr a achoswyd i gymunedau ledled Cymru o ganlyniad i Storm Ciara a
Storm Dennis. 2. Yn talu teyrnged i
ymdrechion arwrol gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus a gwirfoddolwyr cymunedol
wrth ymateb i effeithiau tywydd garw a difrod stormydd yn ystod yr wythnosau
diwethaf. 3. Yn cydnabod y bydd
newid yn yr hinsawdd yn gwneud digwyddiadau tywydd garw, gan gynnwys achosion o
lifogydd difrifol, yn fwy tebygol yn y dyfodol. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) cychwyn ymchwiliad
annibynnol llawn i achosion llifogydd diweddar, yn ogystal â chynnal adolygiad
o ddigonolrwydd ei chynlluniau atal tywydd niweidiol yn gyffredinol; b) sicrhau bod
cefnogaeth ychwanegol ar gael i'r rhai sy'n profi trawma seicolegol o ganlyniad
i'r dinistr diweddar, yn enwedig plant; c) sicrhau bod y
gronfa galedi ar gyfer yr unigolion hynny y mae tywydd garw a difrod storm yn
effeithio arnynt yn sicrhau cydraddoldeb i fusnesau a pherchnogion tai, yn
enwedig y rhai heb yswiriant; d) esbonio statws y
cymorth grant sydd ar gael ar gyfer adfer tir; e) archwilio'r
posibilrwydd o gyflwyno cynllun yswiriant cymdeithasol cost isel gyda'r nod o
sicrhau yswiriant fforddiadwy ar gyfer eiddo bobman yng Nghymru; f) gofyn am asesiad
cynhwysfawr gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru o'r mesurau y byddai eu
hangen i leihau'r risg flynyddol o lifogydd yng Nghymru i 1 y cant, 0.5 y cant
a 0.1 y cant ac i gynyddu gwariant i'r perwyl hwn. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ym mhwynt 2, ar ôl
'arwrol' mewnosoder 'y gwasanaethau brys, staff asiantaeth,'. Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu pwynt 4 a rhoi
yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) sicrhau bod yr
ymchwiliadau sy’n cael eu cynnal i achos llifogydd yn cael eu cyhoeddi a bod y
cymunedau yr effeithiwyd arnynt, y Senedd a’r awdurdodau annibynnol, gan
gynnwys y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol, yn cael craffu arnynt; b) darparu cymorth
ariannol ac ymarferol ychwanegol i’r unigolion a’r busnesau yr effeithiodd y
llifogydd arnynt; c) darparu arian
ychwanegol i awdurdodau lleol er mwyn iddynt allu gwneud gwaith trwsio brys ar
amddiffynfeydd rhag llifogydd a seilwaith hanfodol arall; d) cyhoeddi polisi
cynllunio newydd a mapiau llifogydd eleni i wneud safiad cryfach ar ddatblygu
ar y gorlifdir ac i adlewyrchu’r risgiau cynyddol a ddaw yn sgil y newid yn yr
hinsawdd; e) cyhoeddi Asesiad Perygl
Llifogydd newydd i Gymru ochr yn ochr â Strategaeth Llifogydd ac Arfordirol
newydd eleni a’i ddefnyddio i flaenoriaethu cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd
sy’n diogelu’r cymunedau sy’n wynebu’r risg mwyaf o lifogydd o bob ffynhonnell
– arfordirol, afonydd a dŵr arwyneb; f) cynyddu’r cymorth
ariannol ac ymarferol i awdurdodau lleol er mwyn iddynt allu datblygu
cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd newydd yn gynt. [Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol] Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ym mhwynt 4, cynnwys
is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt (c) ac ailrifo yn unol â hynny: 'sefydlu cynllun rhyddhad
ardrethi i helpu busnesau i wella yn dilyn llifogydd; Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod cymunedau a
busnesau lleol yn cael cymorth parhaus y tu hwnt i'r gwaith glanhau cychwynnol
i'w helpu i wella yn y tymor hir, ac i deall y camau sydd angen eu cymryd i
liniaru llifogydd yn y dyfodol. Gwelliant 5 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ymhellach ar Lywodraeth
Cymru i ddiweddaru canllawiau cynllunio drwy sefydlu lleiniau na ddylid
datblygu arnynt mewn ardaloedd lle mae perygl o lifogydd, megis gorlifdiroedd
naturiol, i rwystro datblygiadau amhriodol a lleihau'r perygl o ddifrod i
gartrefi a busnesau. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.46 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7278 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r difrod a'r dinistr
a achoswyd i gymunedau ledled Cymru o ganlyniad i Storm Ciara a Storm Dennis. 2. Yn talu teyrnged i
ymdrechion arwrol gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus a gwirfoddolwyr cymunedol
wrth ymateb i effeithiau tywydd garw a difrod stormydd yn ystod yr wythnosau
diwethaf. 3. Yn cydnabod y bydd newid yn
yr hinsawdd yn gwneud digwyddiadau tywydd garw, gan gynnwys achosion o lifogydd
difrifol, yn fwy tebygol yn y dyfodol. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) cychwyn ymchwiliad
annibynnol llawn i achosion llifogydd diweddar, yn ogystal â chynnal adolygiad
o ddigonolrwydd ei chynlluniau atal tywydd niweidiol yn gyffredinol; b) sicrhau bod cefnogaeth
ychwanegol ar gael i'r rhai sy'n profi trawma seicolegol o ganlyniad i'r
dinistr diweddar, yn enwedig plant; c) sicrhau bod y gronfa galedi
ar gyfer yr unigolion hynny y mae tywydd garw a difrod storm yn effeithio
arnynt yn sicrhau cydraddoldeb i fusnesau a pherchnogion tai, yn enwedig y rhai
heb yswiriant; d) esbonio statws y cymorth
grant sydd ar gael ar gyfer adfer tir; e) archwilio'r posibilrwydd o
gyflwyno cynllun yswiriant cymdeithasol cost isel gyda'r nod o sicrhau
yswiriant fforddiadwy ar gyfer eiddo bobman yng Nghymru; f) gofyn am asesiad cynhwysfawr
gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru o'r mesurau y byddai eu hangen i
leihau'r risg flynyddol o lifogydd yng Nghymru i 1 y cant, 0.5 y cant a 0.1 y
cant ac i gynyddu gwariant i'r perwyl hwn.
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ym mhwynt 2, ar ôl 'arwrol' mewnosoder 'y gwasanaethau
brys, staff asiantaeth,'. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant
1. Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) sicrhau bod yr ymchwiliadau sy’n cael eu cynnal i
achos llifogydd yn cael eu cyhoeddi a bod y cymunedau yr effeithiwyd arnynt, y
Senedd a’r awdurdodau annibynnol, gan gynnwys y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu
Arfordirol, yn cael craffu arnynt; b) darparu cymorth ariannol ac ymarferol ychwanegol i’r
unigolion a’r busnesau yr effeithiodd y llifogydd arnynt; c) darparu arian ychwanegol i awdurdodau lleol er mwyn
iddynt allu gwneud gwaith trwsio brys ar amddiffynfeydd rhag llifogydd a
seilwaith hanfodol arall; d) cyhoeddi polisi cynllunio newydd a mapiau llifogydd
eleni i wneud safiad cryfach ar ddatblygu ar y gorlifdir ac i adlewyrchu’r
risgiau cynyddol a ddaw yn sgil y newid yn yr hinsawdd; e) cyhoeddi Asesiad Perygl Llifogydd newydd i Gymru ochr
yn ochr â Strategaeth Llifogydd ac Arfordirol newydd eleni a’i ddefnyddio i
flaenoriaethu cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd sy’n diogelu’r cymunedau sy’n
wynebu’r risg mwyaf o lifogydd o bob ffynhonnell – arfordirol, afonydd a dŵr
arwyneb; f) cynyddu’r cymorth ariannol ac ymarferol i awdurdodau
lleol er mwyn iddynt allu datblygu cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd newydd
yn gynt. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant
2. Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei
ddad-ddethol Gwelliant
4 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod
cymunedau a busnesau lleol yn cael cymorth parhaus y tu hwnt i'r gwaith glanhau
cychwynnol i'w helpu i wella yn y tymor hir, ac i deall y camau sydd angen eu
cymryd i liniaru llifogydd yn y dyfodol. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant
4. Gwelliant
5 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ddiweddaru canllawiau cynllunio drwy
sefydlu lleiniau na ddylid datblygu arnynt mewn ardaloedd lle mae perygl o
lifogydd, megis gorlifdiroedd naturiol, i rwystro datblygiadau amhriodol a
lleihau'r perygl o ddifrod i gartrefi a busnesau. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant
5. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7278 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r difrod a'r dinistr
a achoswyd i gymunedau ledled Cymru o ganlyniad i Storm Ciara a Storm Dennis. 2. Yn talu teyrnged i
ymdrechion arwrol y gwasanaethau brys, staff asiantaeth, gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus a
gwirfoddolwyr cymunedol wrth ymateb i effeithiau tywydd garw a difrod stormydd
yn ystod yr wythnosau diwethaf. 3. Yn cydnabod y bydd newid yn
yr hinsawdd yn gwneud digwyddiadau tywydd garw, gan gynnwys achosion o lifogydd
difrifol, yn fwy tebygol yn y dyfodol. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) sicrhau bod yr ymchwiliadau sy’n cael eu cynnal i
achos llifogydd yn cael eu cyhoeddi a bod y cymunedau yr effeithiwyd arnynt, y
Senedd a’r awdurdodau annibynnol, gan gynnwys y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu
Arfordirol, yn cael craffu arnynt; b) darparu cymorth ariannol ac ymarferol ychwanegol i’r
unigolion a’r busnesau yr effeithiodd y llifogydd arnynt; c) darparu arian ychwanegol i awdurdodau lleol er mwyn
iddynt allu gwneud gwaith trwsio brys ar amddiffynfeydd rhag llifogydd a
seilwaith hanfodol arall; d) cyhoeddi polisi cynllunio newydd a mapiau llifogydd
eleni i wneud safiad cryfach ar ddatblygu ar y gorlifdir ac i adlewyrchu’r
risgiau cynyddol a ddaw yn sgil y newid yn yr hinsawdd; e) cyhoeddi Asesiad Perygl Llifogydd newydd i Gymru ochr
yn ochr â Strategaeth Llifogydd ac Arfordirol newydd eleni a’i ddefnyddio i
flaenoriaethu cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd sy’n diogelu’r cymunedau sy’n
wynebu’r risg mwyaf o lifogydd o bob ffynhonnell – arfordirol, afonydd a dŵr
arwyneb; f) cynyddu’r cymorth ariannol ac ymarferol i awdurdodau
lleol er mwyn iddynt allu datblygu cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd newydd
yn gynt. 5. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda
rhanddeiliaid i sicrhau bod cymunedau a busnesau lleol yn cael cymorth parhaus
y tu hwnt i'r gwaith glanhau cychwynnol i'w helpu i wella yn y tymor hir, ac i ddeall
y camau sydd angen eu cymryd i liniaru llifogydd yn y dyfodol.
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Brexit - Datganoli NDM7276 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru Yn gresynu wrth fethiant
datganoli yng Nghymru hyd yma. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu bod
datganoli yng Nghymru wedi cael ei lesteirio hyd yma gan y methiant i
ddatganoli rhagor o bwerau. 2. Yn galw am gryfhau
datganoli yng Nghymru drwy: a) datganoli'r doll
teithwyr awyr; a b) datganoli
deddfwriaeth y system gyfiawnder yn llawn a chadw sefydliadau cyfiawnder
annibynnol Cymru. [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol] Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn croesawu’r
cyfraniadau cyfunol sydd wedi’u gwneud gan bleidiau gwleidyddol ar bob ochr a
chan y gymdeithas sifig yn ehangach i sicrhau mai datganoli yw ewyllys sefydlog
pobl Cymru. [Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol] Gwelliant 3 - Sian
Gwenllian (Arfon) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn gresynu wrth hanes anobeithiol Llywodraeth Lafur Cymru sydd wedi bod mewn
grym yn barhaus ers dechrau datganoli. 2.
Yn credu bod Llywodraethau olynol y DU – o dan Lafur a’r Ceidwadwyr – wedi
llywyddu dros dlodi sy’n pontio’r cenedlaethau a thanfuddsoddi yng Nghymru. 3.
Yn credu y dylai penderfyniadau am ddyfodol Cymru gael eu gwneud gan y rhai
sy’n byw ac yn gweithio yma. 4.
Yn credu mai meddu ar ysgogiadau economaidd a chyllidol gwlad annibynnol yw’r
allwedd i ffyniant Cymru yn y dyfodol. 5.
Yn cytuno mai cynrychiolwyr etholedig pobl Cymru ddylai fod â’r grym i alw
refferendwm ar annibyniaeth yn y dyfodol, heb unrhyw feto gan San Steffan. [Os derbynnir gwelliant 3, caiff gwelliant 4 ei ddad-ddethol] Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu 'datganoli yng
Nghymru' a rhoi yn ei le 'Llywodraethau olynol Cymru'. Gwelliant 5 - Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylid
diddymu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gwelliant 6 - Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod
dewisiadau ymarferol eraill yn lle datganoli, yn absenoldeb Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn cynnwys democrateiddio'r GIG a rhoi mwy o bwerau i
riant-lywodraethwyr i benderfynu ar bolisi addysg ysgolion. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.16 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7276 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru Yn gresynu wrth fethiant
datganoli yng Nghymru hyd yma.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu bod datganoli yng Nghymru wedi cael
ei lesteirio hyd yma gan y methiant i ddatganoli rhagor o bwerau. 2. Yn galw am gryfhau datganoli yng Nghymru drwy: a) datganoli'r doll teithwyr awyr; a b) datganoli deddfwriaeth y system gyfiawnder yn
llawn a chadw sefydliadau cyfiawnder annibynnol Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd
gwelliant 1. Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn croesawu’r cyfraniadau cyfunol sydd wedi’u
gwneud gan bleidiau gwleidyddol ar bob ochr a chan y gymdeithas sifig yn
ehangach i sicrhau mai datganoli yw ewyllys sefydlog pobl Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd
gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol Gwelliant 5 - Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylid diddymu Cynulliad Cenedlaethol
Cymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd
gwelliant 5. Gwelliant 6 - Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod
dewisiadau ymarferol eraill yn lle datganoli, yn absenoldeb Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn cynnwys democrateiddio'r GIG a rhoi mwy o bwerau i
riant-lywodraethwyr i benderfynu ar bolisi addysg ysgolion. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 6:
Gwrthodwyd
gwelliant 6. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7276 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn croesawu’r cyfraniadau cyfunol sydd wedi’u
gwneud gan bleidiau gwleidyddol ar bob ochr a chan y gymdeithas sifig yn
ehangach i sicrhau mai datganoli yw ewyllys sefydlog pobl Cymru.
Derbyniwyd y
cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(10 munud) |
Cwestiwn Amserol 2 Gofyn
i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Andrew RT Davies (Canol De Cymru):
Yng ngoleuni'r cynnydd diweddar yn y coronafeirws
ar draws Ewrop, a wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyngor
iechyd cyhoeddus diweddaraf i bobl yng Nghymru? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 18.19 Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol Andrew RT Davies
(Canol De Cymru): Yng ngoleuni'r
cynnydd diweddar yn y coronafeirws ar draws Ewrop, a wnaiff y Gweinidog roi'r
wybodaeth ddiweddaraf am y cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf i bobl yng
Nghymru? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
18.27 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer Cofnodion: |