Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 265(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/03/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1-6 ac 8. Cafodd cwestiynau 5 ac 8 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

(45 munud)

2.

Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.21

Gofynnwyd cwestiynau1, 2, 4-7 a 9. Cafodd cwestiynau 6 a 9 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 5 a 7 gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Gofyn i’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

 

Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynglŷn â'r adroddiadau y gallai gemau rygbi'r chwe gwlad fod ar gael ar sail talu-wrth-wylio yn unig yn y dyfodol? (TAQ401)

 

Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit

 

Huw Irranca-Davies (Ogwr): I ba raddau yr ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru ynghylch cynnwys mandad y DU ar gyfer y trafodaethau gyda'r UE? (TAQ402)

 

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.06

Gofyn i’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynglŷn â'r adroddiadau y gallai gemau rygbi'r chwe gwlad fod ar gael ar sail talu-wrth-wylio yn unig yn y dyfodol?

 

Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit

Huw Irranca-Davies (Ogwr): I ba raddau yr ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru ynghylch cynnwys mandad y DU ar gyfer y trafodaethau gyda'r UE?

 

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.34

Gwnaeth Mick Antoniw ddatganiad am - 35 mlynedd ers diwedd streic y glowyr.

 

(60 munud)

5.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Strategaeth Ryngwladol Ddrafft Llywodraeth Cymru

NDM7286 - David Rees (Aberafan)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar Strategaeth Ryngwladol Ddrafft Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2019.

Er gwybodaeth: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 5 Chwefror 2020.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.35

NDM7286 - David Rees (Aberafan)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar Strategaeth Ryngwladol Ddrafft Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2019.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(60 munud)

6.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Plant Sy'n Derbyn Gofal

NDM7287 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i blant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o'r maes gofal ac Adroddiad Blynyddol Rhaglen Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Wella Canlyniadau i Blant ar gyfer 2019.

2. Yn nodi ymhellach bod cyfleoedd bywyd plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal yn sylweddol waeth na'r plant hynny nad ydynt mewn gofal.

3. Yn gresynu bod nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru wedi codi 34 y cant yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, a bod bron i 10 y cant o blant mewn gofal wedi bod mewn tri neu fwy o leoliadau.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:

a) adolygu cynlluniau awdurdodau lleol ar frys o ran lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal;

b) cynorthwyo awdurdodau lleol i recriwtio 550 o deuluoedd maeth yng Nghymru i lenwi'r bylchau a ganfuwyd gan y Rhwydwaith Maethu;

c) ymchwilio i gymorth ariannol ac adsefydlu sydd ar gael i rieni mabwysiadol; a

d) sicrhau bod mynediad i gyrsiau rhianta cadarnhaol am ddim yn cael ei gynnig i bob rhiant a gwarcheidwad ledled Cymru.

Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Plant a Phobl Ifanc Sydd Wedi Bod Mewn Gofal -Tachwedd 2018

Adroddiad Blynyddol Rhaglen Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Wella Canlyniadau i Blant 2019

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod bod yna resymau cymleth tu ôl i lefelau cynyddol o blant mewn gofal, ond yn credu fod y disgwyliad sydd ar awdurdodau lleol i osod targedau er mwyn ateb y broblem yn ddatrysiad arwynebol.

Gwelliant 2 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu:

a) mai llwybr cydnabyddedig da allan o ofal yw drwy gysylltiad o safon uchel rhwng plant sy’n derbyn gofal a’u rhieni;

b) na ddylai cysylltiad gael ei leihau na’i gyfyngu er cyfleuster i ddarparwyr gofal a gaiff eu talu; ac

c) gall cysylltiad cyfyngedig gadw plant mewn gofal yn hirach na sydd ei angen.

Gwelliant 3 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod fod pobl ifanc sy’n gadael gofal ac a ddaw’n rhieni, hefyd yn wynebu’r risg o wahaniaethu ac y gallai fod yn ddefnyddiol ailedrych ar bob achos plentyn mewn gofal i chwilio am gefndir o wahaniaethu yn erbyn rhieni a oedd yn cyfrannu at gadw eu plentyn mewn gofal.

Gwelliant 4 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y dylai’r ysgogiad elw gael ei ddileu o’r maes gofal plant ac nad cwmnïau preifat yw’r dewis gorau i wasanaethu buddiannau plant Cymru yn y dyfodol.

Gwelliant 5 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynnu bod plant sy’n gwneud honiadau ynghylch camdrin mewn gofal yn cael eu cymryd o ddifrif ac y cânt eiriolwr, a bod arbenigwr diogelu plant yn siarad â nhw mewn lle diogel er mwyn trafod yr hyn â godwyd.

Gwelliant 6 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod fod ymchwiliadau o gwynion yn gwadu ffeithiau mewn adroddiadau asesu a derbyn mewn cysylltiad â phlant sy’n derbyn gofal, fod yn gyfan gwbl annibynnol a heb i’r cyngor sir y mae’r achwynwr yn cwyno amdano fod yn talu amdanynt.

 

 

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.28

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7287 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i blant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o'r maes gofal ac Adroddiad Blynyddol Rhaglen Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Wella Canlyniadau i Blant ar gyfer 2019.

2. Yn nodi ymhellach bod cyfleoedd bywyd plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal yn sylweddol waeth na'r plant hynny nad ydynt mewn gofal.

3. Yn gresynu bod nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru wedi codi 34 y cant yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, a bod bron i 10 y cant o blant mewn gofal wedi bod mewn tri neu fwy o leoliadau.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:

a) adolygu cynlluniau awdurdodau lleol ar frys o ran lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal;

b) cynorthwyo awdurdodau lleol i recriwtio 550 o deuluoedd maeth yng Nghymru i lenwi'r bylchau a ganfuwyd gan y Rhwydwaith Maethu;

c) ymchwilio i gymorth ariannol ac adsefydlu sydd ar gael i rieni mabwysiadol; a

d) sicrhau bod mynediad i gyrsiau rhianta cadarnhaol am ddim yn cael ei gynnig i bob rhiant a gwarcheidwad ledled Cymru.

Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Plant a Phobl Ifanc Sydd Wedi Bod Mewn Gofal -Tachwedd 2018

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

10

51

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

(30 munud)

7.

Dadl Plaid Cymru - Anhwylderau Bwyta

NDM7288 - Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta 2020 yn cael ei chynnal rhwng 2 Mawrth a 8 Mawrth ac y bydd y ffocws eleni ar bwysigrwydd grymuso a chefnogi teuluoedd a chyfeillion.

2. Yn credu:

a) bod anhwylderau bwyta yn salwch meddwl difrifol gyda chyfraddau marwolaeth uchel;

b) bod gwellhad yn bosibl;

c) gall teuluoedd a chyfeillion chwarae rhan hollbwysig wrth gefnogi adferiad.

3. Yn cymeradwyo'r rhai a fu'n gweithio ar yr Adolygiad o'r Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta 2018 a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gymerodd ran ynddo, ac uchelgais yr adolygiad i greu gwasanaeth anhwylderau bwyta o safon fyd-eang i Gymru, sy'n hygyrch i bawb sydd ei angen.

4. Yn credu y bydd grymuso a chefnogi teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr eraill yn hanfodol i wireddu'r uchelgais hwn.

5. Yn gresynu at y cyfnod estynedig o amser a gymerodd Llywodraeth Cymru i ymateb i gasgliadau adolygiad 2018 o'r gwasanaeth.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd, awdurdodau lleol a'r holl randdeiliaid eraill i sicrhau bod argymhellion yr Adolygiad Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta 2018 yn cael eu gweithredu'n llawn.

Adolygiad Llywodraeth Cymru o Wasanaeth Anhwylderau Bwyta - Tachwedd 2018

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 5 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu ymhellach at yr amser i ddatblygu amseroedd aros am wasanaethau i oedolion a gwasanaethau plant a amlinellir yn ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 26 Medi 2019.

Datganiad ysgrifenedig - Adolygiad o Wasanaethau Anhwylderau Bwyta Cymru - Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - 26 Medi 2019

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ym mhwynt 6, ar ôl 'i sicrhau' ychwanegu 'ar frys'.

 

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.33

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7288 - Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta 2020 yn cael ei chynnal rhwng 2 Mawrth a 8 Mawrth ac y bydd y ffocws eleni ar bwysigrwydd grymuso a chefnogi teuluoedd a chyfeillion.

2. Yn credu:

a) bod anhwylderau bwyta yn salwch meddwl difrifol gyda chyfraddau marwolaeth uchel;

b) bod gwellhad yn bosibl;

c) gall teuluoedd a chyfeillion chwarae rhan hollbwysig wrth gefnogi adferiad.

3. Yn cymeradwyo'r rhai a fu'n gweithio ar yr Adolygiad o'r Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta 2018 a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gymerodd ran ynddo, ac uchelgais yr adolygiad i greu gwasanaeth anhwylderau bwyta o safon fyd-eang i Gymru, sy'n hygyrch i bawb sydd ei angen.

4. Yn credu y bydd grymuso a chefnogi teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr eraill yn hanfodol i wireddu'r uchelgais hwn.

5. Yn gresynu at y cyfnod estynedig o amser a gymerodd Llywodraeth Cymru i ymateb i gasgliadau adolygiad 2018 o'r gwasanaeth.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd, awdurdodau lleol a'r holl randdeiliaid eraill i sicrhau bod argymhellion yr Adolygiad Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta 2018 yn cael eu gweithredu'n llawn.

Adolygiad Llywodraeth Cymru o Wasanaeth Anhwylderau Bwyta - Tachwedd 2018

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

8

51

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

(30 munud)

8.

Dadl Plaid Cymru - Gwasanaethau Iechyd Meddwl

NDM7289 - Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r pryderon ynghylch ansawdd y gofal a godir gan berthnasau cleifion o Gymru mewn unedau iechyd meddwl cleifion mewnol yn Lloegr.

2. Yn credu na ddylid anfon unrhyw gleifion sy'n cael problemau iechyd meddwl i unedau sy'n bell iawn o'u teulu.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau digon o gapasiti cleifion mewnol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru fel y gellir mynd ati'n radol i ddileu'r gwaith o roi gofal ar gontract allanol;

b) bod â chynllun ar gyfer ailwladoli cleifion o Gymru sydd ar hyn o bryd yn byw mewn unedau yn Lloegr;

c) gosod gwaharddiad ar GIG Cymru rhag defnyddio unedau yn Lloegr sydd ag adroddiadau gwael gan y Comisiwn Ansawdd Gofal;

d) sicrhau bod unedau y tu allan i Gymru sy'n derbyn arian GIG Cymru yn cydymffurfio â gofynion arolygu Cymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau bod pellter o’r cartref yn cael ei ystyried yn ffactor allweddol ar gyfer pobl sydd angen cymorth iechyd meddwl arbenigol fel cleifion mewnol

b) sicrhau bod trefniadau cadarn ar waith i fonitro ansawdd a diogelwch lleoliadau mewn unedau yn Lloegr, gan gynnwys gweithio ar y cyd â’r Comisiwn Ansawdd Gofal.

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad]

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau bod holl gleifion iechyd meddwl cyfrwng Cymraeg a diogelwch lefel uchel yn cael eu lleoli yng Nghymru oni bai mewn amgylchiadau eithriadol;

b) sicrhau digon o gapasiti ar gyfer cleifion mewnol diogelwch canolig a lefel uchel ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru fel y gellir diddymu'r trefniadau ar gyfer contractio gofal yn raddol;

c) sicrhau bod Arolygiaeth Iechyd Cymru a'r Comisiwn Ansawdd Gofal yn cydweithredu er mwyn i unedau iechyd meddwl y tu allan i Gymru sy'n derbyn cleifion o Gymru gydymffurfio â gofynion arolygu;

d) cyflwyno Uwch-swyddogion Cyfrifol ar gyfer cleifion iechyd meddwl diogelwch canolig a lefel uchel Cymru er mwyn galluogi cydweithio rhwng Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a byrddau iechyd lleol sy'n canolbwyntio ar y claf; ac

e) sicrhau bod yn rhaid i gynlluniau cyfathrebu gael eu gosod ochr yn ochr â chynlluniau triniaeth ar gyfer cleifion iechyd meddwl diogelwch canolig a lefel uchel Cymru er mwyn rheoli disgwyliadau'r claf, y teulu a'r clinigwyr.

 

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.57

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7289 - Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r pryderon ynghylch ansawdd y gofal a godir gan berthnasau cleifion o Gymru mewn unedau iechyd meddwl cleifion mewnol yn Lloegr.

2. Yn credu na ddylid anfon unrhyw gleifion sy'n cael problemau iechyd meddwl i unedau sy'n bell iawn o'u teulu.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau digon o gapasiti cleifion mewnol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru fel y gellir mynd ati'n raddol i ddileu'r gwaith o roi gofal ar gontract allanol;

b) bod â chynllun ar gyfer ailwladoli cleifion o Gymru sydd ar hyn o bryd yn byw mewn unedau yn Lloegr;

c) gosod gwaharddiad ar GIG Cymru rhag defnyddio unedau yn Lloegr sydd ag adroddiadau gwael gan y Comisiwn Ansawdd Gofal;

d) sicrhau bod unedau y tu allan i Gymru sy'n derbyn arian GIG Cymru yn cydymffurfio â gofynion arolygu Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

40

51

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau bod pellter o’r cartref yn cael ei ystyried yn ffactor allweddol ar gyfer pobl sydd angen cymorth iechyd meddwl arbenigol fel cleifion mewnol

b) sicrhau bod trefniadau cadarn ar waith i fonitro ansawdd a diogelwch lleoliadau mewn unedau yn Lloegr, gan gynnwys gweithio ar y cyd â’r Comisiwn Ansawdd Gofal.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

1

19

51

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7289 - Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r pryderon ynghylch ansawdd y gofal a godir gan berthnasau cleifion o Gymru mewn unedau iechyd meddwl cleifion mewnol yn Lloegr.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau bod pellter o’r cartref yn cael ei ystyried yn ffactor allweddol ar gyfer pobl sydd angen cymorth iechyd meddwl arbenigol fel cleifion mewnol

b) sicrhau bod trefniadau cadarn ar waith i fonitro ansawdd a diogelwch lleoliadau mewn unedau yn Lloegr, gan gynnwys gweithio ar y cyd â’r Comisiwn Ansawdd Gofal.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

11

0

51

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

9.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.26

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

10.

Dadl Fer

NDM7280 - Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Ai clefyd yw gordewdra?

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.51

NDM7280 - Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Ai clefyd yw gordewdra?