Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Bydd Arweinydd y Tŷ yn ateb Cwestiynau'r Prif Weinidog ar ran y Prif Weinidog heddiw yn ei absenoldeb.

 

·         Dywedodd y Llywydd fod Gweinidogion yn gwneud datganiadau rhy hir yn y Cyfarfod Llawn a all gymryd dros draean o'r amser a neilltuwyd ar gyfer yr eitem honno. Atgoffodd y Llywydd Arweinydd y Tŷ am yr arferiad na ddylai datganiadau Gweinidogion fod yn fwy na 10 munud.

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes

 

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Eglurodd Arweinydd y Tŷ nad yw'r Llywodraeth mewn sefyllfa o hyd i drefnu dadl ar yr M4 eto. Mae'n dal yn bosibl y gellid trefnu'r ddadl cyn y Nadolig.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 5 Rhagfyr 2018 - 

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 03-18 i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 22.9 (15 munud) 

Dydd Mercher 9 Ionawr 2019 -

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i'r Gost o Ofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Cyflwr y Ffyrdd yng Nghymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Amserlen ar gyfer ystyried y Bil Deddfwriaeth (Cymru)

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad mewn egwyddor ar 13 Tachwedd i gyfeirio'r Bil Deddfwriaeth (Cymru) at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei ystyried yng Nghyfnod 1. Cytunwyd mai'r terfyn amser ar gyfer adroddiad y Pwyllgor ar y Bil yng Nghyfnod 1 fyddai 22 Mawrth 2019, a'r terfyn amser ar gyfer cwblhau trafodion y Pwyllgor yng Nghyfnod 2 fyddai 24 Mai 2019.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd y gallai'r Pwyllgor fod yn hyblyg o ran pryd y bydd yn cyfarfod yn ystod cyfnod ystyried y Bil.

 

5.

Busnes y Cynulliad

5.1

Adolygiad o Gwestiynau Llafar y Cynulliad

Cofnodion:

Cafwyd cefnogaeth gyffredinol ymysg Rheolwyr Busnes i Arweinwyr a Llefarwyr gadw eu cwestiynau yn fyr, ond llai am osod terfyn amser cyfyngedig i ofyn eu tri chwestiwn. Roedd cefnogaeth hefyd ymhlith Rheolwyr Busnes i atgoffa Llefarwyr mai pwrpas cael tri chwestiwn yw eu bod yn datblygu thema, yn hytrach na gofyn tri chwestiwn gwahanol.

 

Dywedodd Rheolwyr Busnes y byddent yn cefnogi'r Llywydd i gymryd camau i gadw cwestiynau'n fyr. Bydd y Llywydd yn ystyried yr opsiynau ac yn cyflwyno nodyn ar ddechrau'r tymor nesaf.

 

Unrhyw fater arall

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd

 

Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad mewn egwyddor ar 20 Tachwedd i gyfeirio'r LCM ar y Bil Pysgodfeydd at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol  Cytunodd Rheolwyr Busnes ar y dyddiad cau ar gyfer adrodd sef 12 Chwefror 2019.

 

Aelodaeth Pwyllgorau

 

Nododd Rheolwyr Busnes y newid arfaethedig i aelodaeth y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i gael aelod o'r Ceidwadwyr yn lle Plaid Cymru. Nid oedd hynny wedi digwydd eto gan nad yw grŵp y Ceidwadwyr wedi penderfynu ar enwebai.