Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Bydd Arweinydd y Tŷ yn ateb Cwestiynau’r Prif Weinidog ar ei ran heddiw yn ei absenoldeb.

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl y Ddadl Fer a chyn trafodion Cyfnod 3.

 

·         Bydd egwyl o 10 munud cyn dechrau trafodion Cyfnod 3.

 

3.2

Papur i’w nodi: Canllawiau - Dadleuon ar y Cytundeb Ymadael â’r UE a’r Datganiad Gwleidyddol, ac ar y Gyllideb Ddrafft 2019-20

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y papur.

 

3.3

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Gwnaeth y Llywydd y pwynt bod y Pwyllgor Cyllid wedi holi pam y mae’r ddadl ar adroddiad Holtham, ‘Talu am Ofal Cymdeithasol’, wedi’i threfnu ar gyfer y diwrnod cyn eu dadl ar adroddiad eu pwyllgor, ‘Cost gofalu am boblogaeth sy’n heneiddio’, (8 a 9 Ionawr 2019, yn y drefn honno). Dywedodd Arweinydd y Tŷ na fyddent yn symud eu dadl, gan fod y ddadl ar adroddiad Holtham wedi cael ei chynllunio ers amser gan y llywodraeth.

 

3.4

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y drefn y bydd busnes yn cael ei drafod ddydd Mercher nesaf, 12 Rhagfyr, fel a ganlyn. Caiff y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ei ddiweddaru yn unol â hynny:

 

Busnes y Cynulliad

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)

·         Cwestiynau Amserol (20 munud)

·         Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)

Busnes y Llywodraeth

·         Dadl: Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol (60 munud)

·         Dadl: Cyfnod 4 y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) (15 munud)

Busnes y Cynulliad

·         Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)

·         Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)

·         Dadl Fer – Andrew RT Davies (Canol De Cymru) (30 munud)

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 16 Ionawr 2019 -

·         Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Awtistiaeth (Cymru) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

3.5

Dadl Aelod Unigol: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Cofnodion:

·         Dewisodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 12 Rhagfyr:

NNDM6860

Jane Hutt

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

1. Yn nodi adroddiad Ysgol Fusnes Caerdydd, ‘Y Cyflog Byw - Profiad Cyflogwyr’.

 

2. Yn croesawu’r camau a gymerwyd gan 174 o gyflogwyr ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yng Nghymru i dalu’r cyflog byw go iawn i’w cyflogeion.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) nodi mesurau i gefnogi rhagor o gyflogwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i fabwysiadu’r cyflog byw go iawn a dod yn gyflogwyr cyflog byw go iawn achrededig; ac

 

b) Ystyried cryfhau’r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi mewn perthynas â’r cyflog byw go iawn.

 

Y Cyflog Byw - Profiad Cyflogwyr

 

Y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Moesegol mewn Cadwyni Cyflenwi

 

Cefnogwyr:

Rhun ap Iorwerth

Dawn Bowden

Jayne Bryant

Hefin David

Mike Hedges

Helen Mary Jones

Julie Morgan

Rhianon Passmore

David Rees

Mick Antoniw

John Griffiths

Vikki Howells

Mark Isherwood

Jenny Rathbone

 

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnal y Ddadl Aelod Unigol nesaf yn y flwyddyn newydd.

 

3.6

Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau: dethol cynnig ar gyfer dadl

Cofnodion:

·         Dewisodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 12 Rhagfyr:

NNDM6893

Jenny Rathbone

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi cynnig ar gyfer bil ar atal gwastraff ac ailgylchu.

 

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

 

a) atal gwastraff drwy osod gofynion ailgylchu ar gynhyrchwyr bwyd a manwerthwyr mewn perthynas â deunydd pacio a gwastraff pecynnu; a

 

b) chyflwyno cyfrifoldebau estynedig o ran cynhyrchwyr, i sicrhau bod costau ailgylchu a rheoli gwastraff yn cael eu rhannu’n deg, a bod cynhyrchwyr yn cyfrannu at gost ariannol trin eu cynnyrch ar ddiwedd ei oes.

 

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu’r ddadl nesaf ar Gynnig Deddfwriaethol Aelod ar gyfer y flwyddyn newydd.

 

·         Gofynnodd Rheolwyr Busnes i’r Ysgrifenyddiaeth edrych ar sut y gall y broses gyflwyno ar gyfer Cynigion Deddfwriaethol yr Aelodau gynyddu nifer y cynigion a gyflwynir i’w dewis. Cododd Rheolwyr Busnes y posibilrwydd o gyhoeddi ymlaen llaw ddau ddyddiad y Dadleuon y tymor, a dechrau’r broses o gyflwyno ar ddechrau’r tymor, er mwyn cynyddu’r amser sydd ar gael i Aelodau ystyried a chyflwyno cynigion.

 

4.

Busnes y Cynulliad

4.1

Gweithdrefnau ar gyfer Ymddeoliad ac Enwebiad Prif Weinidog

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y papur.

 

Unrhyw fater arall

Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes y bydd hi’n cyhoeddi canlyniadau etholiad cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru ac yn cyhoeddi enwau’r 60 ymgeisydd llwyddiannus ar ddechrau’r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, a nododd y gefnogaeth a roddwyd gan Aelodau ym mhob un o’r pleidiau i hyrwyddo’r gwaith ar Senedd Ieuenctid Cymru.