Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes y bydd yn galw Aelod o bob plaid i siarad ar ddatganiad ymddiswyddo'r Prif Weinidog. Hefyd, soniodd y Llywydd am y posibilrwydd o alw Andrew RT Davies a Leanne Wood fel cyn-arweinwyr plaid a wasanaethodd am gyfran sylweddol o gyfnod y Prif Weinidog yn y swydd, yn ogystal ag un Aelod hirdymor arall o'r blaid Lafur, petai'r Aelodau hynny yn dymuno siarad.

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar fusnes y Llywodraeth ar ôl eitem 5 (Cyfnod 4 y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru), a chynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar fusnes y Cynulliad cyn y ddadl fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Mae Arweinydd y Tŷ wedi datgan y bydd y llywodraeth yn aildrefnu dadl Cyfnod 3 ar y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru). Cytunodd i ailystyried 29 Ionawr fel y dyddiad arfaethedig oherwydd y gwrthdaro â Chyfnod 2 y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, ond cadarnhaodd nad oedd yn opsiwn ei chynnal yn gynt.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 23 Ionawr 2019 -

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Wasanaethau Gwybodeg GIG Cymru (60 munud)

·         Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

3.4

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch trefnu dadleuon

Cofnodion:

Gwrthododd y Rheolwyr Busnes y cais.

 

4.

Pwyllgorau

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch cyfarfod ychwanegol

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais.

 

5.

Amserlen y Cynulliad

5.1

Dyddiadau toriadau'r Cynulliad

Cofnodion:

Cytunodd Rheolwyr Busnes ar y dyddiadau arfaethedig.