Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

 

Croesawodd y Llywydd Rebecca Evans, y Gweinidog dros Gyllid a’r Trefnydd, gan ddweud ei bod yn dirprwyo’n ffurfiol ar ran Julie James yn y cyfarfod heddiw. Bydd cynnig yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn yfory i ethol Rebecca Evans yn ffurfiol i'r Pwyllgor Busnes.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Busnes yr Wythnos Hon

 

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y ddadl fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 16 Ionawr 2019 -

·         Cynnig Cydsyniad Offeryn Statudol: Rheoliadau’r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2018 (15 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Diogelwch Tân mewn Adeiladau Uchel Iawn (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) – gohiriwyd tan 23 Ionawr

 

Dydd Mercher 23 Ionawr 2019 -

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Aelod ynghylch Hawliau Pobl Hŷn (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Wasanaethau Gwybodeg GIG Cymru (60 munud) - gohiriwyd tan 30 Ionawr

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) – gohiriwyd tan 16 Ionawr

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) – gohiriwyd tan 30 Ionawr

 

Dydd Mercher 30 Ionawr 2019 -

·         Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Wasanaethau Gwybodeg GIG Cymru (60 munud) - gohiriwyd ers 23 Ionawr

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) – gohiriwyd - gohiriwyd ers 23 Ionawr

 

3.4

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol, Rheoliadau’r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2018

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwr Busnes i gynnal dadl ar y cynnig 16 Ionawr

 

4.

Pwyllgorau

4.1

Cais am ddadl ar Ddeiseb

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y cais a dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn deall bod canllawiau NICE wedi’u diweddaru ers i'r llythyr gael ei anfon. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ystyried hyn ymhellach, mewn ymgynghoriad â'r Pwyllgor Deisebau, cyn penderfynu a ddylid cynnal dadl.

 

5.

Amserlen y Cynulliad

5.1

Papur i'w nodi - Amserlen Cwestiynau Llafar y Cynulliad

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y newidiadau. Dywedodd y Trefnydd fod Gweinidogion a Dirprwy Weinidogion yn trafod sut y byddant yn dyrannu’r cyfrifoldebau rhyngddynt. Bydd y ddogfen 'Cyfrifoldebau'r Gweinidogion,' yn cael ei diwygio a’i chylchredeg eto i'r Aelodau yn fuan.

 

6.

Deddfwriaeth

6.1

Y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

Cofnodion:

Cadeiriodd y Dirprwy Lywydd yr eitem hon gan mai’r Llywydd yw'r Aelod sy'n gyfrifol am y Bil.

 

Ystyriodd Rheolwyr Busnes y papur a ph'un ai'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ddylai fod yn gyfrifol am ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil. Nododd Darren Millar fod gwrthdaro buddiannau yn achos un aelod o’r Pwyllgor hwn sydd hefyd yn aelod o Gomisiwn y Cynulliad, ac awgrymodd y dylid cyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Nodwyd hefyd fod y Pwyllgor hwnnw'n cynnwys Aelod o'r Comisiwn.

 

O gofio mai'r penderfyniad cyntaf yw ymgynghori ynghylch yr amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil, cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol cyn penderfynu at ba bwyllgor y dylid cyfeirio’r mater.

 

O ran mater yr amserlen arfaethedig, cododd y Trefnydd yr effaith bosibl ar Fil Etholiadau Lleol y Llywodraeth os bydd unrhyw oedi wrth gyflwyno’r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru).

 

Unrhyw fater arall

Ymweliad y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau â Manceinion

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes â'r cais.