Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Anfonodd y Llywydd ei hymddiheuriadau gan ei bod mewn digwyddiad yn Nulyn yn nodi 100 mlynedd ers agor Senedd Iwerddon. Cadeiriodd y Dirprwy Lywydd y cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

  • Nododd y Trefnydd fod y rhan fwyaf o fusnes dydd Mawrth wedi'i ohirio tan yr wythnos nesaf er mwyn gwneud lle am gyfres o ddatganiadau ar baratoadau Llywodraeth Cymru am Brexit dim bargen, a'i bod wedi gofyn am gopïau o'r datganiadau llafar hyn i gael eu dosbarthu i lefarwyr yn gynharach yn ystod y dydd nag arfer os yn bosibl.

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes. 

 

  • Atgoffodd Rhun ap Iorwerth Reolwyr Busnes y bydd cangen CPA Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn y Siambr heno.

 

Dydd Mercher

 

  • Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Trefnydd fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno cynnig i atal y Rheolau Sefydlog a threfnu dadl ar 30 Ionawr yn dilyn y bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin ar 29 Ionawr ar Gytundeb Ymadael â'r UE. Derbyniodd y Rheolwyr Busnes y cynnig i ohirio'r ddadl ar yr 'Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau 2018’ o 29 Ionawr er mwyn gwneud lle am ddadl ar adroddiadau'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ddydd Mawrth, gan ryddhau amser ar gyfer dadl y Llywodraeth ar 30 Ionawr.

Bydd cynnig ar gyfer dadl y Llywodraeth yn cael ei gyflwyno unwaith y bydd canlyniad y pleidleisiau yn Nhŷ'r Cyffredin yn hysbys.

 

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mawrth 29 Ionawr 2019 –

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar Barodrwydd ar gyfer Brexit (60 munud)

 

Dydd Mercher 30 Ionawr 2019 -

·         Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)ni chyflwynwyd cynnig

Dydd Mercher 13 Chwefror 2019 –

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18 (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: cytundeb perthnasau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

3.4

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn gofyn am ddadl ar barodrwydd ar gyfer Brexit

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwr Busnes i gynnal dadl ar 29 Ionawr.

 

3.5

Llythyr yn gofyn am ddadl adroddiad ar Berthynas Cymru â Phwyllgor y Rhanbarthau yn y Dyfodol

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwr Busnes i gynnal dadl yn y dyfodol.

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

LCM ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid Gwasanaeth)

Cofnodion:

Cytunodd Rheolwyr Busnes y dylid cyfeirio'r memorandwm hwn at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig a dyddiad cau i adrodd ar 1 Mawrth.

 

5.

Y Pwyllgor Busnes

5.1

Coladu Canllawiau a gyhoeddwyd gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 6.17

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes ddiben a chynnwys y papur, a chytunodd i drafod y papur eto ymhen pythefnos.