Dadl Aelod
Unigol: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
·
Detholodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn
ar gyfer dadl ar 6 Chwefror:
NNDM6950
David Rees
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn croesawu’r buddsoddiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i gefnogi dyfodol
cynaliadwy i’r diwydiant dur yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
2.
Yn cydnabod yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant dur yng Nghymru yn dilyn
ymadawiad y DU â’r UE.
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi’r sector dur yng Nghymru sy’n
ddiwydiant o bwys i economi Cymru.
4.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â chostau uchel ynni sy’n wynebu’r
sector dur yn y DU o’i gymharu â chostau trydan yn yr UE.
Cefnogwyr:
Jayne Bryant
Suzy Davies
Russell George
John Griffiths
Huw Irranca-Davies
Bethan Sayed
Caroline Jones
Dawn Bowden
Mike Hedges
Vikki Howells
Jack
Sargeant
Alun
Davies
·
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnal y Ddadl
Aelod unigol nesaf ar 20 Chwefror, a dewiswyd y cynnig a ganlyn:
NNDM6947
Huw
Irranca-Davies
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
nodi:
a) bod gan
bobl ifanc yng Nghymru rai o’r lefelau gweithgarwch corfforol isaf yn y Deyrnas
Unedig, sy’n cyfrannu at lefelau cynyddol o ordewdra a materion iechyd
cysylltiedig, fel diabetes math 2;
b) bod
llawer o gymunedau yng Nghymru yn dioddef o lefelau anghyfreithlon o uchel o
lygredd aer, gydag un gymuned yn profi’r ansawdd aer gwaethaf y tu allan i
Lundain;
c)
amcangyfrifir bod cost tagfeydd ar y ffyrdd yn £2 biliwn i economi Cymru bob
blwyddyn;
d) nid yw
targedau ar gyfer allyriadau carbon o drafnidiaeth yng Nghymru wedi’u cyrraedd
yn gyson;
e) mae
lefelau cerdded a beicio yng Nghymru yn gostwng, ac un pryder arbennig yw bod
lefelau teithio llesol i’r ysgol yn gostwng; ac
f) gellid
gwella pob un o’r materion hyn pe bai Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn cael
ei gweithredu’n effeithiol.
2. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i adnewyddu ei huchelgais o ran teithio llesol yng Nghymru
drwy lunio strategaeth teithio llesol gynhwysfawr, sy’n cynnwys targedau uchelgeisiol
a chynllun manwl ar gyfer buddsoddi hirdymor mewn seilwaith teithio llesol.
Deddf
Teithio Llesol (Cymru) 2013
Cefnogwyr:
Dai Lloyd
Russell George
Vikki
Howells
Neil
McEvoy
Jenny
Rathbone