Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Mae'r Llywodraeth wedi ychwanegu dau ddatganiad i agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw:

-     Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Digartrefedd a Chysgu Allan

-     Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fodel Buddsoddi Cydfuddiannol Cymru.

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. 

Dydd Mercher

 

·         Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai dehonglydd BSL yn yr oriel gyhoeddus yn ystod 'Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i Bawb'. Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai o gymorth be bai'r Aelodau hynny sy'n siarad yn y ddadl, yn ogystal â'r Gweinidog sy'n ymateb, yn darparu unrhyw nodiadau siarad ymlaen llaw drwy'r Pwyllgor Deisebau neu flwch e-bost Plenary Requests, y Cyfarfod Llawn, y gellir eu rhannu gyda'r cyfieithydd.

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Fel yr Aelod Cyfrifol, dywedodd y Llywydd wrth yr Aelodau ei bod yn dymuno cynnwys datganiad ar 'Gyflwyno Bil Arfaethedig y Comisiwn - Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)' ar amserlen dydd Mercher 13 Chwefror ac iddo gael ei gynnwys ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes heddiw. Nododd y Llywydd, fodd bynnag, eu bod yn dal i aros am Gydsyniad Gweinidog y Goron, a allai olygu oedi wythnos cyn gwneud y datganiad.

 

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 13 Chwefror 2019

·         Datganiad gan y Llywydd: Cyflwyno Bil Arfaethedig y Comisiwn - Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) (30 Munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Ded dfwriaethol: Cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru (60 munud)  - gohiriwyd tan 6 Mawrth

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud) - wedi'i ddwyn ymlaen o 20 Chwefror

 

Dydd Mercher 20 Chwefror 2019 -

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

Dydd Mercher 6 Mawrth 2019 –

·         Dadl ar ddeiseb P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad (60 munud)

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Amserlen ar gyfer trafod cyfnod 3 a chyfnod 4 y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu dadl Cyfnod 3 ddydd Mercher 13 Mawrth 2019 a dadl Cyfnod 4 ddydd Mercher 20 Mawrth 2019, yn ystod amser y Cynulliad.

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ganiatáu cyfarfodydd ychwanegol y tu allan i amser y pwyllgor i ystyried yr adroddiad gan y Comisiynydd Dros Dro.

 

6.

Amserlen y Cynulliad

6.1

Papurau i'w nodi - Rhestr o Gwestiynau Llafar y Cynulliad a Dogfen Cyfrifoldebau Diwygiedig y Gweinidogion

Cofnodion:

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd wyth cwestiwn yn cael eu tynnu o'r balot ar gyfer cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ac na fydd amser wedi'i neilltuo ar gyfer cwestiynau llefarwyr ar hyn o bryd, o gofio bod 15 munud yn cael ei neilltuo i'r eitem, ond os teimlai'r Aelodau'n gryf am hyn y gallai ffurfio rhan o'r adolygiad o'r weithdrefn ymhen ychydig fisoedd.

 

Cododd Rhun ap Iorwerth y ffaith bod cyfrifoldebau'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi cael eu gwahaniaethu oddi wrth rai'r Prif Weinidog yn y ddogfen cyfrifoldebau diwygiedig y Gweinidogion, ond nad dyna'r achos o ran Dirprwy Weinidogion eraill. O gofio hynny, gofynnodd a ddylai llefarwyr barhau i gymryd yn ganiataol y dylid cyfeirio eu cwestiynau i'r Gweinidog. Dywedodd y Llywydd mai'r Llywodraeth ddylai benderfynu pwy fyddai'n ateb cwestiynau'r llefarwyr, ac eglurodd mai'r Gweinidog ddylai eu hateb, oni bai ei bod yn amlwg ar unwaith mai cwestiwn ar gyfer Dirprwy Weinidog oedd gan y llefarydd. Pe bai llefarwyr yn teimlo'n gryf yr hoffent i'w cwestiynau gael eu hateb gan y Dirprwy, gallent nodi hynny i'r llywodraeth yn breifat ymlaen llaw.

 

7.

Y Pwyllgor Busnes

7.1

Casglu ynghyd Ganllawiau a gyhoeddir gany Llywydd o dan Reol Sefydlog 6.17

Cofnodion:

Mewn ymateb i ymholiad gan y Trefnydd ynghylch cynnwys amseru 'Dadleuon sy'n ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil arfaethedig Aelod', cytunodd y Rheolwyr Busnes i ychwanegu'r amseru ar gyfer Cyfnodau 1, 3 a 4.

 

Soniodd y Trefnydd am y posibilrwydd o adolygu nifer y cwestiynau a gyflwynir ar gyfer sesiynau'r cwestiynau llafar, gyda'r bwriad o'i lleihau o'r pymtheg presennol. Dywedodd y Rheolwyr Busnes eraill y gallent fod yn gefnogol i symudiad o'r fath, yn amodol ar ymgynghori â'u grwpiau.

 

Dywedodd y Llywydd y dylai'r Aelodau ymgynghori â'u grwpiau a dychwelyd ato ar ôl yr hanner tymor.