Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sian Wilkins 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

 

Dydd Mawrth

 

·         Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai'n croesawu Delyth Jewell, Aelod newydd y Cynulliad dros Ranbarth Dwyrain De Cymru, ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn heddiw a'i gwahodd i ddweud ychydig eiriau.

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. 

 

Dydd Mercher

 

 

·         Fel yr Aelod Cyfrifol, dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes fod Bil y Senedd ac Etholiadau (Cymru) wedi cael cydsyniad Gweinidog y Goron ddoe, a'u hatgoffa bod y datganiad rhagarweiniol wedi'i drefnu ar gyfer yfory.

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

 

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 6 Mawrth 2019 –

·         Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Ombwdswmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) (5 munud)

Dydd Mercher 13 Mawrth 2019 –

·         Dadl: Cyfnod 3 y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) (150 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Amserlen ar gyfer y Bil Deddfwriaeth (Cymru)

Cofnodion:

Amserlen ar gyfer y Bil Deddfwriaeth (Cymru)

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad Cyfnod 1 tan ddydd Mawrth 26 Mawrth 2019.

 

Mynegodd Rhun ap Iorwerth bryder mai'r rheswm dros yr oedi oedd bod cyfrifoldebau'r Cwnsler Cyffredinol fel Gweinidog Brexit wedi effeithio ar ei argaeledd.

 

 

4.2

Amserlen y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru).

Cofnodion:

Cafodd yr eitem hon ei chadeirio gan y Dirprwy Lywydd gan mai'r Llywydd yw'r Aelod sy'n gyfrifol am y Bil.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru).

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am hyblygrwydd yn amseriad eu cyfarfodydd er mwyn caniatau ar gyfer craffu ar y Bil.

 

 

4.

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Cwestiynau'r Llefarwyr

 

Gofynnodd y Llywydd i Reolwyr Busnes sicrhau bod eu haelodau, lle y bo'n rhesymol ymarferol, yn ei hysbysu drwy'r blwch post Ceisiadau Cyfarfod Llawn pan fyddant yn bwriadu cyfeirio cwestiynau eu llefarwyr at Ddirprwy Weinidog, a'u bod yn parhau i hysbysu'r Llywodraeth hefyd.

Sŵn yn y Siambr

 

Yn dilyn achosion o sŵn yn y Siambr yr wythnos diwethaf, atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes na ddylai Aelodau adael eu dyfeisiau yn y Siambr heb eu goruchwylio.

 

Dyraniad Cadeiryddion Pwyllgorau rhwng grwpiau

 

Dywedodd Darren Millar y byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn awyddus i ddychwelyd at gynigion blaenorol y Pwyllgor Busnes i ail-ddyrannu Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau o Grŵp UKIP i'r Ceidwadwyr Cymreig, ond nad oedd y Grŵp mewn sefyllfa i wneud enwebiad ar hyn o bryd.

Dywedodd y Llywydd y bydd angen i'r pwyllgor ddychwelyd at y penderfyniadau blaenorol a wnaeth y Pwyllgor Busnes ynglŷn â dyrannu Cadeiryddion pwyllgorau, unwaith y bydd y Ceidwadwyr Cymreig mewn sefyllfa i enwebu.

Nododd Rhun ap Iorwerth y byddai'n fodlon cefnogi cynnig o'r fath. Dywedodd Neil Hamilton mai ei farn oedd bod gan Grŵp UKIP, ar sail y cydbwysedd presennol rhwng y pleidiau, yr hawl i un Cadeirydd pwyllgor.

Nododd y Llywydd nad oedd safbwyntiau'r Rheolwyr Busnes wedi newid ers y tro diwethaf y cafodd y mater ei ystyried, ac eithrio Darren Millar, a ddywedodd y byddai ei Grŵp, bellach, yn derbyn ail-ddyrannu Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau. Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd y Llywydd y byddai unrhyw gynnig i ailddyrannu Cadeiryddion Pwyllgorau yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn, yn agored i'w drafod.

Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol 

 

Rhoddodd y Trefnydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Rheolwyr Busnes, mewn perthynas â dau Fil Brexit. Oherwydd amserlenni Seneddol a thrafodaethau parhaus â Llywodraeth y DU, mae gosod y Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol hyn wedi cael ei ohirio a byddai'n arwain at gyfyngu ar yr amser i graffu mewn pwyllgor.