Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sian Wilkins 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Ychwanegodd y Llywodraeth ddatganiad gan y Prif Weinidog at agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw: Y datblygiadau diweddaraf yn negodiadau Brexit Llywodraeth y DU

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. 

Dydd Mercher

 

·         Tynnodd y Llywydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y ffaith bod Aelod Annibynnol wedi cyflwyno dau welliant i adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Nododd y Llywydd nad oedd eto wedi penderfynu a ddylid dewis y gwelliannau, ond nad oedd, yn hanesyddol wedi gwneud hynny.

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Ombwdswmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes, bod angen i'r cynnig hwn, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, gael ei gyflwyno gan y Pwyllgor Busnes ac y byddai'n cael ei gyflwyno yn ei henw hi.

 

Busnes wedi'i drefnu ddydd Mercher 13 Mawrth

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes, er bod bron i 5 awr o Fusnes y Cynulliad wedi'i drefnu ar gyfer y diwrnod hwnnw, ei bod yn disgwyl y byddai, yn ymarferol, yn para llai na hynny.

 

Dadl ar Ddeiseb P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gais gan y Trefnydd i symud dadl y Pwyllgor Deisebau ar Ganser y Prostad ar 6 Mawrth i'r eitem olaf o fusnes cyn y cyfnod pleidleisio gan fod gan y Gweinidog apwyntiad ysgol i rieni ganol y prynhawn ac yr hoffai ddychwelyd ar gyfer y ddadl. Dywedodd y Rheolwyr Busnes, er eu bod yn fodlon cytuno i'r cais penodol hwn, nad oeddent yn dymuno gosod cynsail ar gyfer ceisiadau o'r math hwn yn aml.

 

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 13 Mawrth 2019 –

·         Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith Brexit ar y celfyddydau, y diwydiannau creadigol, treftadaeth a'r Gymraeg (30 munud)

 

Dydd Mercher 20 Mawrth 2019 –

 

·         Dadl: Cyfnod 4 y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) (15 munud)

·         Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Cynllun Gweithredu ar Ffonau Symudol (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Gradd ar Wahân? Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

Yn ymwneud â chais Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu am ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn, gwnaeth y Rheolwyr Busnes gais y dylid darparu rhagor o wybodaeth am gynnwys a chyd-destun datganiadau o'r fath yn y dyfodol er mwyn helpu i lywio penderfyniadau amserlennu.

 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol diwygiedig ar y Bil Masnach

Cofnodion:

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol diwygiedig ar y Bil Masnach

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm atodol i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 11 Mawrth (y diwrnod cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn) i ganiatáu'r amser hiraf posibl ar gyfer craffu.

 

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Cais gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gyfarfod y tu allan i'w amser cyfarfod penodedig

Cofnodion:

Cais gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gyfarfod y tu allan i'w amser cyfarfod penodedig

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais.

 

 

5.2

Cais gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i gyfarfod y tu allan i'w amser cyfarfod penodedig

Cofnodion:

Cais gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i gyfarfod y tu allan i'w amser cyfarfod penodedig

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais.

 

 

Unrhyw Fater Arall

Newid aelodaeth pwyllgorau

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd cynnig i ethol Dai Lloyd i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn lle Helen Mary Jones yn cael ei ychwanegu at agenda'r Cyfarfod Llawn yfory.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol)

 

Nododd y Trefnydd bod y Llywodraeth yn dal i ddisgwyl y bydd amserlen dynn rhwng gosod y Memorandwm atodol hwn a dadl yn y Cyfarfod Llawn, o ganlyniad i amserlenni Senedd y DU.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn dal i drafod gyda Llywodraeth y DU ond yn disgwyl y bydd manylion unrhyw newidiadau ar gael i'r Aelodau cyn gynted â phosibl. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ysgrifennu at y ddau bwyllgor a oedd yn ystyried y Memorandwm gwreiddiol (y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol) gyda'r wybodaeth berthnasol ar hyn o bryd.

 

Marwolaeth Paul Flynn AS

 

Yn dilyn ymholiad gan y Trefnydd am ffordd briodol i nodi marwolaeth Paul Flynn AS, dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai'n gwneud datganiad ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn heddiw.