Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

 

Dydd Mawrth

 

·         Yn dilyn yr ymosodiadau yn Christchurch ac Utrecht, bydd y Dirprwy Lywydd yn dweud ychydig o eiriau ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn heddiw a bydd yn gwahodd yr Aelodau i ymuno â hi mewn munud o dawelwch.

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar gyfer eitemau heblaw'r Cyfnod 3 ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

 

·         Bydd egwyl o 10 munud cyn dechrau trafodion Cyfnod 3.

 

Dydd Mercher

 

 

·         Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.

 

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 1 Mai 2019 –

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood (60 munud)

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Perthynas Cymru ag Ewrop a’r byd yn y dyfodol (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

 

3.4

Dadl Aelod - dewis cynnig ar gyfer dadl

Cofnodion:

Dadl Aelod - dewis cynnig ar gyfer dadl

 

·         Dewisodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 27 Mawrth:

 

NNDM6990

Andrew RT Davies

 

NNDM6990

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:

 

a) pwysigrwydd rygbi i bobl Cymru, y manteision economaidd sy'n gysylltiedig â'r gêm, a'i lle arbennig yng ngwead cymunedau ledled ein cenedl;

 

b) yr heriau ariannol a strwythurol sy'n wynebu rygbi yng Nghymru ar hyn o bryd;

 

c) goblygiadau posibl 'Project Reset' Undeb Rygbi Cymru ar rygbi proffesiynol a'r strwythur rhanbarthol yng Nghymru, ac ar y gwasanaethau lleol a chymunedol ychwanegol a ddarperir ar hyn o bryd gan y rhanbarthau; a

 

d) y pryderon cryf a fynegwyd gan gefnogwyr ynghylch y posibilrwydd o uno rhanbarthau'r Gweilch a'r Sgarlets.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Undeb Rygbi Cymru a phartneriaid rhanbarthol/clwb i ddiogelu rygbi yng Nghymru a llunio model cynaliadwy tymor hir ar gyfer y gêm ar lefel ranbarthol ac ar lawr gwlad.

 

Cefnogwyr:

Huw Irranca-Davies

Bethan Sayed

Mohammad Asghar

Jayne Bryant

Hefin David

Suzy Davies

Janet Finch-Saunders

Mike Hedges

Dai Lloyd

Lynne Neagle

David Rees

 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Awdurdodau Afonydd a Draenio Tir

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y bwriedir i'r ddadl yn y Cyfarfod Llawn gael ei chynnal ar 30 Ebrill am 15 munud, a bod hyn yn caniatáu ar gyfer 3 wythnos eistedd o waith craffu gan bwyllgor yn hytrach na'r 6 wythnos arferol, oherwydd amserlenni Senedd y DU.

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r memorandwm at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd ar 25 Ebrill.

 

 

4.2

Amserlen ar gyfer trafod y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru), Ymateb y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad mewn egwyddor ar 5 Mawrth i gyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1 gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd yn ôl ar 19 Gorffennaf. Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar ddyddiad cau o 8 Tachwedd 2019 ar gyfer trafodion pwyllgor Cyfnod 2.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Cais gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am gyfarfod ychwanegol

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais.

 

 

6.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Y Pwyllgor Deisebau

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i wahodd UKIP i lenwi'r swydd wag ar y Pwyllgor Deisebau. Dywedodd Neil Hamilton fod angen i Grŵp UKIP gael trafodaeth gyffredinol am ddyranniad eu lleoedd ar pwyllgorau, cyn enwebu aelod i lenwi'r lle gwag ar y Pwyllgor Deisebau.

 

Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyflwyno cynnig i ethol Janet Finch-Saunders yn aelod o'r  Pwyllgor Craffu Waith y Prif Weinidog yn lle David Rowlands. Bydd y cynnig yn cael ei ychwanegu at agenda Cyfarfod Llawn yfory.

 

Agenda'r Wythnos Nesaf

Dywedodd y Dirprwy Lywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd papurau ar Goladu Canllawiau ac ar Reolau Sefydlog ar gyfer Biliau Cydgrynhoi ar yr agenda ar gyfer yr wythnos nesaf.