Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod
ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd
Mawrth ·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr
eitem olaf o fusnes. Dydd
Mercher ·
Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl
Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Dosbarthodd y Trefnydd gopi caled diwygiedig o
'Amserlen Busnes y Llywodraeth am Dair Wythnos', a bydd yr holl newidiadau'n
cael eu dangos ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Amserlen
Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 3 Ebrill 2019 – ·
Dadl ar Adroddiad
y Pwyllgor Cyllid: Gweithredu Datganoli Cyllidol yng Nghymru
Dydd Mercher 1 Mai 2019 –
·
Amser a neilltuwyd
i Blaid Cymru (60 munud) Dydd Mercher 8 Mai 2019 –
|
|
Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid yn gofyn am ddadl ar - cais am ddadl ar 3 Ebrill Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i'r cais. |
|
Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig ar gyfer dadl Cofnodion: ·
Dewisodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn
ar gyfer dadl ar 3 Ebrill: NNDM7021
Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi
cynnig am fil i ddiwygio a gwella cefnogaeth ar gyfer plant sydd wedi cael eu
cam-drin yn rhywiol yng Nghymru. 2. Yn nodi
mai diben y Bil hwn fyddai: a)
cyflwyno'r Model Barnahus o gymorth i ddioddefwyr gyda phwyslais therapiwtig; b)
gweithio gyda'r heddlu i ddefnyddio'r Model Barnahus o gynnal ymchwiliad i bob
achos o gam-drin plant yn rhywiol; ac c) yn cyflwyno
newidiadau statudol i wella llety brys a llety dros dro i blant sydd wedi'u
cam-drin, sy'n methu â dychwelyd i'w cartref neu sy'n ddigartref. ·
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i amserlennu'r
Dadleuon nesaf ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau ar 15 Mai a 26 Mehefin, a
dewiswyd y cynnig canlynol i'w drafod ar 15 Mai. Yn unol â phenderfyniadau
blaenorol y Pwyllgor Busnes, bydd y Swyddfa Gyflwyno yn hysbysu Aelodau o
ddyddiadau tymor yr haf. NNDM7020
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi
cynnig am fil cerbydau cyhoeddus di-allyriad carbon 2. Yn nodi
mai diben y Bil hwn fydd: (a) hybu'r
defnydd o gerbydau trydan neu gerbydau di-allyriadau yng Nghymru er mwyn helpu
i leihau allyriadau carbon; a (b) gosod
dyletswydd ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i lunio strategaeth i
symud tuag at ddefnyddio cerbydau trydan neu gerbydau di-allyriadau yn y fflyd
gyhoeddus yng Nghymru. |
|
Busnes y Cynulliad |
|
Dyddiadau toriadau'r Cynulliad Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar ddyddiadau'r toriadau ar gyfer Hanner Tymor mis Hydref 2019
a Thoriad y Nadolig 2019. Gan fod
Dydd Calan ar ddydd Mercher yn 2020, ni fydd yn bosibl cynnal shifflad o'r
cwestiynau llafar, nac i gynigion gael eu cyflwyno ar y dyddiau arferol yn
ystod wythnos olaf y toriad, fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i dderbyn busnes ar gyfer 7 ac 8 Ionawr yn ystod wythnos gyntaf
y toriad, drwy gynnal balot y cwestiynau llafar ddydd Llun 16 Rhagfyr, gyda'r
terfyn amser ar gyfer shifflad y cwestiynau i'r Gweinidogion am 3:30 ddydd
Mercher 18 Rhagfyr. Er mwyn caniatáu digon o amser i ystyried gwelliannau i
gynigion ar gyfer y Cyfarfodydd Llawn cyntaf yn ôl ym mis Ionawr, cytunodd y
Rheolwyr Busnes y dylid gosod y terfyn amser ar gyfer cynigion ar 7 ac 8 Ionawr
am 6pm ddydd Mercher 18 Rhagfyr. Bydd y terfynau amser ar gyfer gwelliannau i
gynigion ac ar gyfer cwestiynau i'r Prif Weinidog yn dilyn y drefn arferol. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes hefyd y gellid rhoi ystyriaeth yn nes at yr amser i drefnu
busnes ar gyfer wythnos gyntaf mis Ionawr a fyddai'n amharu leiaf ar gyflwyno. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar y dyddiadau dros dro ar gyfer Hanner Tymor y Gwanwyn a
Toriad y Pasg 2020. |
|
Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Pasg Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar y trefniadau cyflwyno ar gyfer toriad y Pasg, Calan Mai a
hanner tymor y Sulgwyn |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Ymgynghoriad ar Filiau Cydgrynhoi Cofnodion: Diwygio
Rheolau Sefydlog: Biliau Cydgrynhoi Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar y weithdrefn amlinellol arfaethedig, a gwnaed cais i'r Ysgrifenyddiaeth
gyflwyno Rheolau Sefydlog drafft i'w hystyried. O ran yr un maes o ddiffyg
cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Swyddogion y Cynulliad (sbarduno Ystyriaeth
Fanwl y Cynulliad), gofynnodd y Rheolwyr Busnes i'r Ysgrifenyddiaeth ddrafftio
ar gyfer y ddau opsiwn ac archwilio unrhyw drydydd opsiwn a allai fod ar gael. Nododd y Rheolwyr Busnes lythyr Comisiwn y
Gyfraith. |
|
Y Pwyllgor Busnes |
|
Coladu Canllawiau a gyhoeddir gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 6.17 Cofnodion: Trafododd
y Rheolwyr Busnes amrywiaeth o faterion yn ymwneud â'r canllawiau a gofynnwyd
i'r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno drafft diwygiedig yn adlewyrchu'r newidiadau y
cytunwyd arnynt, a darparu nodiadau ar feysydd sydd angen eu hystyried
ymhellach. |
|
Unrhyw Fater Arall Cofnodion: Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai ffotograffydd yn bresennol yn y Siambr
ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth nesaf 3 Ebrill. |