Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes y bydd ffotograffydd allanol yn y Cyfarfod Llawn heddiw ar gyfer dechrau'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

 

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i drefnu dadl ar ei 'Adroddiad 01-19' yn ystod Cyfarfod Llawn yfory. Bydd cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro yn cael ei gyflwyno yn enw'r Llywydd, fel rhagflaenydd i'r ddadl.

 

·         Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.

 

3.3

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

Nododd y Rheolwyr Busnes y canlynol, i'w gynnal ar ôl datganiad y Llywydd ddydd Mawrth 7 Mai:

 

·         Anerchiad gan y Prif Weinidog i nodi ugain mlynedd ers datganoli (15 munud)

 

3.4

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mawrth 7 Mai 2019 -

 

·         Anerchiad gan y Llywydd i nodi ugain mlynedd ers datganoli (15 munud)

Dydd Mercher 15 Mai 2019 –

 

·         Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Cynnal Hyder yn y Weithdrefn Safonau (30 munud)

·         Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)

·         Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

3.5

Cais i drefnu dadl ar NNDM7031

Cofnodion:

Cytunodd Rheolwyr Busnes i'r cais a chytunodd i ddychwelyd at y mater ar ôl toriad y Pasg.

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil Amaethyddiaeth

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol at yr un pwyllgorau â'r memorandwm cyntaf - y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - gyda dyddiad terfynol o 11 Mehefin ar gyfer adrodd.

 

Nododd y Rheolwyr Busnes yr ansicrwydd ynghylch y llinell amser Seneddol yn San Steffan.

 

5.

Busnes y Cynulliad

5.1

Sesiwn ar y Cyd rhwng y Cynulliad a Senedd Ieuenctid Cymru

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i eitem fusnes ar y cyd rhwng Senedd Ieuenctid Cymru a'r Cynulliad ar 26 Mehefin 2019 ac, yn unol â Rheol Sefydlog 13.3, cytunwyd y dylai'r Llywydd wahodd rhai o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru i gymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad at y diben hwnnw.

 

6.

Rheolau Sefydlog

6.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol – Rheolau Sefydlog 21.8 - 28.11

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a gwahoddwyd swyddogion i gyflwyno papur ar effaith Brexit ar y Rheolau Sefydlog ar ôl toriad y Pasg.

 

6.2

Papur i'w nodi - Llythyr gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Deddfwriaeth (Bil Cymru)

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd i ymgynghori â'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol unwaith y bydd y Pwyllgor Busnes wedi cytuno ar Reol Sefydlog ddrafft ar gyfer Biliau Cydgrynhoi.

 

Unrhyw Fater Arall

Cwestiynau Llafar y Cynulliad

 

Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad mewn egwyddor o gyfarfod yr wythnos diwethaf i leihau nifer y Cwestiynau Llafar a gyflwynir o 15 i 12. Fodd bynnag, penderfynodd y Rheolwyr Busnes barhau â'r trefniadau pleidleisio presennol lle y caiff 20 Aelod eu dewis i gyflwyno cwestiynau yn y lle cyntaf (yna gymysgiad i ddewis 12 uchaf) am y tro. Caiff y newid hwn ei weithredu yn union ar ôl toriad y Pasg.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd i dreialu caniatáu i Aelodau gael eu cynnwys yn y bleidlais unwaith yn unig ar gyfer sesiynau Cwestiynau Gweinidogol Llafar drwy gydol tymor yr haf, gyda'r bwriad o ddiwygio Rheolau Sefydlog pe bai'n llwyddiant.

 

 

Cwestiynau Arweinwyr a Llefarwyr, llefydd gwag o ran aelodaeth pwyllgorau, a dadleuon y gwrthbleidiau

 

Trafododd y Rheolwyr Busnes y materion hyn yng ngoleuni digwyddiadau diweddar a arweiniodd at leihau maint Grŵp UKIP i 3 Aelod, a chreu nifer o lefydd gwag ar bwyllgorau. Gofynnodd y Pwyllgor i swyddogion gyflwyno papur ar ôl toriad y Pasg a fyddai'n llywio ei benderfyniadau.