Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i'r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i Fusnes y Llywodraeth am y 3 wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 18 Mehefin 2019 –

·         Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol - Y Gweithgor ar Lywodraeth Leol - y camau nesaf (45 munud)

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Cynnydd tuag at Wneud Cymru’n Genedl Noddfa (45 Munud) - caiff ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig

 

Dydd Mawrth 25 Mehefin 2019

Dadl ar Goridor yr M4 o amgylch Casnewydd (90 munud)

 

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 26 Mehefin 2019 -

·         Dadl ar y cyd gyda Senedd Ieuenctid Cymru (60 munud)

·         Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud) - gohiriwyd tan 3 Gorffennaf

 

Dydd Mercher 3 Gorffennaf 2019 -

 

·         Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud) - gohiriwyd o 26 Mehefin

·         Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Bagloriaeth y Dyfodol: Statws cymhwyster Bagloriaeth Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

 

3.4

Eitem fusnes ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid ystyried yr eitem fel yr eitem gyntaf o fusnes - cyn busnes y Llywodraeth. Cytunwyd hefyd i gynnal pleidlais (os oes angen) ar y cynnig yn syth ar ôl i'r eitem ddod i ben, yn hytrach na'i gohirio tan y Cyfnod Pleidleisio. Nodwyd y bydd y Llywydd yn atal y cyfarfod ar ôl yr eitem, gyda busnes yn ailddechrau am 14.30.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd i aildrefnu dadl Cynnig Deddfwriaethol yr Aelodau i 3 Gorffennaf, er mwyn cynnwys yr eitem ychwanegol.

 

Gofynnodd y Trefnydd i rywun o dîm Senedd Ieuenctid y Comisiwn fod ar gael i drafod y datganiad drafft gyda swyddogion y Llywodraeth.

 

 

3.5

Dadl Aelod: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Dewisodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 6 Mehefin:

 

NNDM7068

Siân Gwenllian

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod hanes Cymru yn cael ei ddysgu i bob disgybl ysgol yng Nghymru yn ddiwahan.

 

Cefnogir gan:

Suzy Davies

 

 

4.

Pwyllgorau

4.1

Cais gan y Pwyllgor Cyllid am gyfarfod ffurfiol oddi ar y safle

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais.

 

 

4.2

Llythyr gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon at y Llywydd

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr, a chytuno ar amserlen y Bil.

 

 

4.3

Ystyried deisebau 5000 o lofnodion

Cofnodion:

Ystyriodd a nododd y Rheolwyr Busnes y papur.

 

 

5.

Rheolau Sefydlog

5.1

Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 1.3

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes yr adroddiad a gofyn am wneud rhai newidiadau. Bydd swyddogion yn gwneud y newidiadau ac yn ailddosbarthu i Reolwyr Busnes i'w cytuno, cyn ei osod yr wythnos hon.

 

 

6.

Busnes y Cynulliad

6.1

Effaith newidiadau diweddar i aelodaeth grwpiau ar bwyllgorau.

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur, a chytunodd Caroline Jones i gadarnhau dewisiadau plaid Brexit ar ôl eu cyfarfod grŵp y bore yma.