Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd
Mawrth Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod yn bwriadu agor cwestiwn pedwar i'r Prif
Weinidog - ar Ymgyrch Yellowhammer ac Islwyn (Rhiannon Passmore) - i Aelodau ar
draws y Siambr, o ystyried y lefel debygol o ddiddordeb. Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd y bydd, oherwydd pwysigrwydd y ddadl, yn
hyblyg o ran yr amser ar gyfer y ddadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Plant
(Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru), er mwyn caniatáu cymaint o
siaradwyr â phosibl.
·
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o barhau y
tu hwnt i 7.10pm. Dydd
Mercher
·
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o barhau y
tu hwnt i 7.10pm. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Dywedodd y
Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes na fydd y Prif Weinidog ar gael ar gyfer
Cwestiynau i'r Prif Weinidog ar 1 Hydref, felly bydd hi'n ateb yn ei le. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 9 Hydref 2019 - Yn amodol
ar gynnig i'r effaith hwn gael ei gytuno gan y Cynulliad ddydd Mercher, caiff
Pwyllgor o'r Cynulliad Cyfan ei gynnull i drafod Cyfnod 2 y Bil Senedd ac
Etholiadau (Cymru), ar ôl y Ddadl Fer. |
|
Y Cyfarfod Llawn |
|
Cais i amserlennu dadl ar NNDM7127. Cofnodion: Trafododd
y Rheolwyr Busnes y cais a chytunwyd i ymgynghori â'u grwpiau. Gofynasant hefyd
am gyngor cyfreithiol pellach i lywio eu hystyriaeth yr wythnos nesaf. |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau Cofnodion: Trafododd
y Rheolwyr Busnes y cais a chytunwyd i drefnu dadl. |
|
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 |
|
Llythyr gan y Gweinidog Cyllid Cofnodion: Trafododd
y Rheolwyr Busnes y cais a chytuno i ddychwelyd ato yn y cyfarfod nesaf, fel y
gallent ystyried barn y Pwyllgor Cyllid. |
|
Deddfwriaeth |
|
Gorchymyn o dan Adran 109 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 - Swyddogion Cofrestru Etholiadol Cofnodion: Cadarnhaodd
y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad i gyfeirio'r Gorchymyn arfaethedig at y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol gyda dyddiad adrodd o 30 Medi
2019 fan bellaf. |
|
Pwyllgorau |
|
Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad Cofnodion: Dywedodd
Darren Millar wrth y Rheolwyr Busnes y byddai'r grŵp Ceidwadol yn
gwrthwynebu sefydlu'r pwyllgor ac na fyddai'n cymryd rhan ynddo pe bai'n cael
ei sefydlu. Ceisiodd y
Llywydd annog y grŵp Ceidwadol i barhau i gymryd rhan mewn trafodaethau ar
y mater. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod materion yn ymwneud ag aelodaeth a
chadeirio y tu allan i'r pwyllgor a dychwelyd atynt yr wythnos nesaf i wneud
penderfyniad. |
|
Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau Cofnodion: Trafododd
y Rheolwyr Busnes y llythyr ac ailadroddodd yr angen i Aelodau drin pwyllgorau
fel blaenoriaeth a bod yn brydlon. Cytunwyd y byddant yn ystyried cyhoeddi
ffigurau presenoldeb unigol os na fydd y sefyllfa'n gwella. Cytunwyd hefyd bod
gan Gadeiryddion rôl i'w chwarae o ran siarad ag Aelodau nad ydynt yn bresennol
neu sy'n cyrraedd yn hwyr / yn gadael yn gynnar heb eglurhad. |