Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu
cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dywedodd y
Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol yn ateb Cwestiynau Llafar ar ran y Prif Weinidog, sy'n sâl. Dywedodd
wrth y Rheolwyr Busnes hefyd y bydd datganiad llafar ychwanegol heddiw gan
Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar TATA Steel. Dydd
Mawrth ·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Dydd
Mercher ·
Cynhelir y
Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gais i ohirio Dadl Fer Suzy
Davies o ddydd Mercher yr wythnos hon i'r dydd Mercher cyntaf ym mis Ionawr, a
chytunwyd y bydd y bleidlais ar gyfer y tymor nesaf, pan gaiff ei chynnal ym
mis Rhagfyr, yn dechrau gydag ail wythnos y tymor. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 11 Rhagfyr 2019 ·
Dadl
Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) ·
Dadl ar
adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Mynediad at Fancio (60
munud) ·
Amser a
neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Dadl Fer
Vikki Howells (Cwm Cynon) (30 munud) – wedi'i gohirio o 13 Tachwedd |
|
Dadl Aelod: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: Dewisodd y
Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 27 Tachwedd: NNDM7191 Lynne
Neagle (Torfaen) Dai Lloyd
(Gorllewin De Cymru) David
Melding (Canol De Cymru) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn
cydnabod nad yw un o bob pedwar o bobl sy'n cael diagnosis o ganser y pancreas
yn y DU yn goroesi'r clefyd y tu hwnt i fis ac nad yw tri o bob pedwar yn
goroesi y tu hwnt i flwyddyn, llawer ohonynt am nad oeddent yn cael eu trin yn
ddigon cyflym. 2. Yn
cydnabod bod tua 500 o achosion newydd o ganserau'r pancreas yng Nghymru bob
blwyddyn, a bod tua 508 o bobl wedi cael diagnosis o ganser y pancreas yn 2015,
ac y bu farw tua 451 o bobl o'r clefyd yn yr un flwyddyn. 3. Yn
cydnabod mai canser y pancreas yw'r canser cyffredin mwyaf angheuol gyda
phrognosis truenus sydd prin wedi newid yn ystod y 45 mlynedd diwethaf. 4. Yn
croesawu mis ymwybyddiaeth canser y pancreas (Tachwedd) a'r gwaith y mae
Pancreatic Cancer UK yn ei wneud i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r canser sydd â'r
nifer isaf o ran goroesi, a'r cyflymaf o ran lladd. 5. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella cyfraddau goroesi ar gyfer pobl â
chanser y pancreas yng Nghymru drwy: a)
triniaeth gyflymach, drwy ddysgu gan fodelau llawdriniaeth llwybr carlam yn
Lloegr sydd wedi dangos canlyniadau addawol; b)
diagnosis cynharach, drwy ddysgu o Ganolfannau Diagnostig Cyflym sy'n cael eu
cyflwyno yn Lloegr a'r treialon gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd
Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg; ac c)
cefnogaeth gyfannol, trwy gefnogaeth ddeietegol a maethol amserol i alluogi
cleifion i oddef triniaeth yn well. Cefnogir
gan: Delyth
Jewell (Dwyrain De Cymru) Joyce
Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Mark
Isherwood (Gogledd Cymru) Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Neil
McEvoy (Canol De Cymru) Vikki
Howells (Cwm Cynon) |
|
Deddfwriaeth |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Cofnodion: Ystyriodd y Rheolwyr Busnes y cais gan y
Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i ymestyn craffu Cyfnod 1
i 14 wythnos, a newid canlyniadol i ddyddiad cau Cyfnod 2. Cefnogodd Darren Millar, Rhun ap Iorwerth a
Caroline Jones gynnig y pwyllgor i ymestyn yr amserlen. Roedd y Trefnydd yn
gwrthwynebu i unrhyw newid gan y byddai'n dileu'r siawns o hyblygrwydd yn
ddiweddarach, gan gynnwys ymestyn Cyfnodau 2 a 3 pe bai angen, a'r posibilrwydd
o Gyfnod Adrodd. Yng ngoleuni'r gwahanol safbwyntiau a fynegwyd, cytunodd
y Pwyllgor Busnes i archwilio gyda'r Pwyllgor y posibilrwydd o gyfaddawd nad
oedd yn golygu symud dyddiad cau cyfnod 2, hy cyfnod 1 hirach a chyfnod 2
byrrach. Nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi
sôn y bydd yn cyflwyno Bil Tai yn ymwneud â throi allan heb fai yn gynnar yn
2020, y disgwylir iddo gael ei drosglwyddo i'r Pwyllgor. Awgrymodd y Rheolwyr
Busnes y gellid trosglwyddo'r Bil hwn i'r Pwyllgor Materion Allanol a
Deddfwriaeth Ychwanegol yn lle'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a
Chymunedau pe bai hynny o gymorth i leddfu'r pwysau ar y Pwyllgor. |
|
Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddyddiad cau o dydd Iau 5
Rhagfyr i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor
Cyllid adrodd ar y Gorchymyn drafft. |
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor y gallai aelodau'r Pwyllgor
Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu adael y Cyfarfod Llawn ar 27 Tachwedd i
deithio i Wrecsam dim ond ar ôl i'r Amser Pleidleisio gael ei gynnal. |
|
Unrhyw Fater Arall Cofnodion: Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes
fod oedi i Gyfnod 3 y Bil Plant (Diddymu Amddiffyn Cosb Resymol) (Cymru)
oherwydd cyfyngiadau’r cyfnod cyn yr etholiad yn San Steffan. Cwestiynodd y Rheolwyr Busnes am gysondeb o
ran dull y llywodraeth mewn perthynas â'r cyfnod cyn yr etholiad, a dyfynnwyd
cyhoeddiadau a wnaed trwy atebion i gwestiynau, yn ogystal ag mewn busnes a
drefnwyd. Nododd y Rheolwyr Busnes mai mater i'r
Trefnydd yw Amserlen Busnes y Llywodraeth. Cytunodd y Trefnydd i hysbysu
cyd-Weinidogion o'r pryderon a godwyd. |