Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth
Dydd Mercher
|
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn
busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr
amserlen: Dydd
Mercher 12 Chwefror 2020 -
|
|
Deddfwriaeth |
|
Amserlen ar gyfer y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr
Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth
Leol a Chymunedau i ystyried yr egwyddorion cyffredinol, ac ysgrifennu at y
pwyllgor i ymgynghori ar yr amserlen arfaethedig. |
|
Pwyllgorau |
|
Cynnig i newid enw a chylch gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
Busnes fod y Comisiwn Cyfiawnder diweddar yng Nghymru wedi argymell y dylai'r Cynulliad
chwarae rhan fwy rhagweithiol wrth graffu ar weithrediad y system gyfiawnder a
monitro ac adolygu cynnydd ar ddiwygio cyfiawnder. Cytunodd y
Pwyllgor i gynnig i'r Cynulliad bod enw'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol yn cael ei newid i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r
Cyfansoddiad - Legislation, Justice and Constitution Committee - gan ychwanegu
cyfeiriad at gyfiawnder yn ei gylch gwaith. Nododd y Rheolwyr Busnes fod swyddogaethau mewn perthynas
â chyfiawnder sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad ac o fewn cylch gwaith
pwyllgorau eraill - megis gwasanaethau i gefnogi troseddwyr, cyn-droseddwyr ac
i hyrwyddo adsefydlu sy'n ymwneud â thai, addysg a hyfforddiant, datblygu
economaidd a llywodraeth leol - yn parhau i fod yn rhan o gyfrifoldebau'r
pwyllgorau hynny. |
|
Y Cyfarfod Llawn |
|
Pleidleisio drwy ddirprwy Cofnodion: Trafododd y Rheolwyr
Busnes y papur ac ymatebion gan Aelodau i'r ymgynghoriad, ochr yn ochr â'r
wybodaeth ddiweddaraf gan Dŷ'r Cyffredin, a chytunwyd mewn egwyddor i
gyflwyno cynllun pleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant ar sail
prawf tan ddiwedd y Cynulliad hwn. Gofynnodd y Pwyllgor i'r Ysgrifenyddiaeth
gyflwyno cynigion ar gyfer canllawiau a newidiadau i Reolau Sefydlog i gyfarfod
yn y dyfodol. |
|
Unrhyw Fater Arall Cofnodion: Cafodd y
Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd y byddant yn dychwelyd at y papur ar
aelodaeth Pwyllgorau, cadeiryddion a chydbwysedd gwleidyddol, gan gynnwys
d'Hondt, yn y cyfarfod yr wythnos nesaf. |