Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Sian Gwenllian;
Roedd Dai Lloyd yn dirprwyo ar ei rhan. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Tynnodd y Trefnydd
sylw'r Pwyllgor Busnes at ohirio’r eitem a ganlyn tan 23 Mawrth: ·
Rheoliadau
Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2021 (10
munud) Dywedodd y
Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y byddai hi a'r Dirprwy Lywydd yn cadeirio o
bell yr wythnos hon. Dydd Mawrth ·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. ·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.05pm. Dydd
Mercher ·
Caiff y Cyfnod
Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer. ·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.15pm. |
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn: Dydd Mawrth
23 Mawrth 2021 – ·
·
Datganiad gan y Prif Weinidog:
COVID-19: Blwyddyn yn Ddiweddarach (45 munud) ·
Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr
Economi a Thrafnidiaeth: Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth newydd i
Gymru (45 munud) ·
Rheoliadau Diogelu Iechyd
(Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 (15 munud) ·
Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau
Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2021 (5 munud) - gohiriwyd o 16 Mawrth ·
Dydd
Mercher 24 Mawrth 2021 ·
Gorchymyn Diwygio Senedd Cymru
(Cynrychiolaeth y Bobl) 2021 / Gorchymyn Etholiadau Cymru (Darpariaethau
Amrywiol) 2021 (15 munud) ·
Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd
(Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 (15 munud) |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 24 Mawrth 2021 – ·
·
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i
gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15
munud) o
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog:
Biliau Cydgrynhoi o
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog:
Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd o
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog:
Busnes Cynnar yn Dilyn Etholiad Senedd o
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog:
Sub Judice o
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog:
Adalw’r Senedd o
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog:
Aelodaeth Pwyllgorau o
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog:
Newidiadau Amrywiol o
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog:
Rheolau Sefydlog Dros Dro ·
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog:
Diffiniad o Grwpiau Gwleidyddol (15 munud) ·
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor
Safonau Ymddygiad – Adroddiad 05-21 (15 munud) ·
Cyfnod Pleidleisio (15 munud) ·
Datganiadau Cloi (30 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes y
dylai’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, gyflwyno adroddiad
erbyn dydd Llun 22 Mawrth. Dywedodd y Trefnydd wrth y
Rheolwyr Busnes fod Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth rhag Troi Allan)
(Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 i fod i gael eu gwneud a'u gosod heddiw,
a'u trafod ar 23 Mawrth. Cytunodd y Pwyllgor felly y dylai’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rhain hefyd
erbyn dydd Llun 22 Mawrth. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
a chytunodd i beidio â chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
(Rhif 3) ar y Bil Cam-drin Domestig i graffu arno. |
|
Busnes y Senedd |
|
Trefniadau cyflwyno a gosod ar ôl yr etholiad Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes bod y Swyddfa Gyflwyno yn parhau i fod ar gau, ac ni fydd yn
derbyn unrhyw fusnes tan ar ôl Cyfarfod Llawn cyntaf y Chweched Senedd, ar
wahân i dderbyn unrhyw fusnes lle mae’r amseru’n hanfodol neu ffurflenni
cofrestru buddiannau, y gellir eu cyflwyno o 7 Mai ymlaen. Nododd y
Pwyllgor Busnes hefyd: ·
caiff cwestiynau ysgrifenedig a
gyflwynir o hynny ymlaen eu cyhoeddi yn y ffordd arferol, gan nodi mai'r
dyddiad olaf ar gyfer eu hateb fydd pum niwrnod gwaith ar ôl iddynt gael eu
cyflwyno; ·
y caiff cwestiynau ysgrifenedig a
gyflwynir i Lywodraeth Cymru eu cyflwyno i’w hateb gan y Prif Weinidog, a fydd
yn penderfynu pwy ddylai eu hateb, hyd nes y penodir Cabinet newydd; ac ·
y caiff cwestiynau ysgrifenedig a
gyflwynir i Gomisiwn y Senedd eu cyflwyno i’w hateb gan y Llywydd. |
|
Adroddiadau Rheolau Sefydlog Drafft |
|
Rheolau Sefydlog Dros Dro Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar yr adroddiad drafft ac i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r
Rheolau Sefydlog i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn dydd Mercher 24 Mawrth. |
|
Diffiniad o Grwpiau Gwleidyddol Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar yr adroddiad drafft ac i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r
Rheolau Sefydlog i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn dydd Mercher 24 Mawrth. |
|
Papurau i’w nodi |
|
Canllawiau etholiadol y Senedd i Weinidogion a staff Llywodraeth Cymru Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes y ddau ddarn o ganllawiau. |
|
Unrhyw faterion eraill Ail-osod
Offerynnau Statudol Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y ffaith bod y Llywodraeth wedi tynnu'n ôl
ac wedi ail-osod rhai Offerynnau Statudol drafft ddydd Gwener yn dilyn
camgymeriadau a nodwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad. Gan fod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad yn dal i edrych ar nifer o offerynnau statudol drafft, pe bai
angen tynnu'n ôl ac ail-osod ymhellach, efallai na fydd digon o amser iddo
gyflwyno adroddiad ac efallai y bydd angen ceisio atal offerynnau statudol i
gynnal y dadleuon perthnasol. |