Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion o'r cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Bydd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad am Chwaraeon Cymru (45 munud)

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn gwneud datganiad ynghylch Cymunedau Cryf – Camau Nesaf (45 munud)

 

Mynegodd David Rowlands siom nad oedd y pleidiau eraill wedi dod at grŵp UKIP i gyd-gyflwyno'r cynnig ar forlynnoedd llanw ar gyfer y ddadl ddydd Mawrth, a gyflwynwyd gan y Blaid Lafur, Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr.

 

Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Esboniodd Jane Hutt y bydd y Prif Weinidog yn mynd ar ymweliad ag UDA ddydd Mawrth 28 Chwefror ac na fyddai'n bresennol yn y Cyfarfod Llawn i ateb cwestiynau'r wythnos honno. Bydd Jane Hutt yn ateb cwestiynau yn ei le. Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes gytuno ar ddull cyson ynghylch pa Aelodau a fyddai'n holi cwestiynau i Arweinydd y Tŷ yn ystod Cwestiynau'r Arweinwyr.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 15 Mawrth 2017 -

  • Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ynghylch Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Bil Diddymu'r Hawl i Brynu (Cymru)

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil Diddymu'r Hawl i Brynu (Cymru) at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar gyfer trafodaeth Cyfnod 1.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio'r penderfyniad ar amserlen y Bil tan un o'r cyfarfodydd yn y dyfodol, i roi amser i ymgynghori â'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

 

5.

Rheolau Sefydlog

5.1

Diwygio Rheolau Sefydlog: Proses y gyllideb

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes bapur yn nodi'r cynigion, a bennwyd gan y Cynulliad a swyddogion y Llywodraeth, i ddiwygio prosesau cyfredol y gyllideb yn unol â'r argymhellion a wnaed yn sgil ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid blaenorol i arferion gorau o ran y gyllideb.

 

Cytunodd y Pwyllgor mewn egwyddor â'r model a drafodwyd gan swyddogion Comisiwn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru, gan gynnwys faint o amser sydd ar gael i graffu ar y gyllideb, a'r rhaniad rhwng cynigion amlinellol a manwl y gyllideb.

Gofynnodd y Pwyllgor am ragor o fanylion am sut y byddai'r ddadl ynghylch y gyllideb ddrafft yn gweithio'n ymarferol pe bai'n dilyn cynnig gan y Pwyllgor Cyllid, cyn cytuno ar ddull a ffefrir yn y Rheolau Sefydlog.

 

Nododd y Rheolwyr Busnes yr awgrym yn yr adroddiad arferion gorau i gydnabod y cysylltiad rhwng cymeradwyo penderfyniadau treth a chymeradwyo cynlluniau cyllideb o fewn y Rheolau Sefydlog, a chytunwyd nad oes angen ysgrifennu unrhyw ddibyniaeth yn y Rheolau Sefydlog ar hyn o bryd, cyn datganoli treth incwm.

 

Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r Ysgrifenyddiaeth yn cyflwyno cynigion ar gyfer diwygio'r Rheolau Sefydlog i'r Rheolwyr Busnes eu cymryd yn ôl i'w grwpiau, ac ymgynghori â'r Pwyllgor Cyllid arnynt.

 

6.

Defnyddio amser yn y Cyfarfod Llawn

6.1

Cwestiynau Amserol a Chwestiynau Brys

Cofnodion:

Ar ôl cytuno mewn egwyddor i gyflwyno gweithdrefn newydd i'r Aelodau holi cwestiynau amserol i'r Prif Weinidog ac Ysgrifenyddion y Cabinet yn y Cyfarfod Llawn, trafododd y Rheolwyr Busnes gynnig manwl ar gyfer gweithdrefn o'r fath.

 

Cytunodd y Pwyllgor i drafod y mater gyda'u grwpiau, a dychwelyd at hyn ar 7 Mawrth.

 

7.

Papurau i’w nodi

7.1

Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol at y Llywydd

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor lythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn cadarnhau bod y Pwyllgor yn bwriadu edrych yn fanylach ar gyfundrefnu cyfraith Cymru ac mai cam cyntaf y Pwyllgor fyddai cymryd tystiolaeth ar gyfundrefnu gan y Cwnsler Cyffredinol.