Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Roedd Simon Thomas yn bresennol yn lle Rhun ap Iorwerth, a Gareth Bennett yn lle David Rowlands.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

·         Byddai'r Cyfarfod Llawn yn dechrau am 12.30 gyda datganiadau gan y Llywydd a'r Prif Weinidog am yr ymosodiad ym Manceinion a munud o dawelwch, yna teyrngedau i Rhodri Morgan ac ail funud o dawelwch.  Byddai egwyl fer ar ôl yr eitemmau cyntaf o fusnes, cyn ailymgynnull am weddill busnes y diwrnod.

·         Rhoddodd Jane Hutt wybod i'r Pwyllgor y byddai dau o ddatganiadau'r Llywodraeth yn cael eu symud i ddydd Mercher; datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar Asesu ar gyfer Dysgu - dull gwahanol yng Nghymru; a datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ar yr Ymgynghoriad ar God Erlyn Llywodraeth Cymru. Nododd hefyd fod yr amser a ddyrannwyd i'r ddau ddatganiad wedi'i leihau o 45 munud o i 30 munud.

 

·         Rhoddodd Jane Hutt wybod i'r Pwyllgor y byddai'r Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Plant yn Gyntaf / Children First yn cael ei ohirio.

 

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes y câi'r Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio'r Ddadl Aelod Unigol (a gyflwynwyd gan Julie Morgan a phedwar Aelod arall) ar Hepatitis C tan 14 Mehefin.

 

·         Trefnwyd cynnwys y ddau ddatganiad a ohiriwyd o ddydd Mawrth ar ôl y Datganiadau 90 Eiliad.

 

 

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes y câi'r Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

·         Gan fod y Ddadl Aelod Unigol ar gyfer dydd Mercher wedi cael ei ohirio, cytunodd y Rheolwyr Busnes i symud y drafodaeth i’r slot nesaf ar gyfer Dadl Aelod Unigol ar 14 Mehefin, ac i symud y cynnig Dadl Aelod Unigol (ar Effeithlonrwydd Ynni) a oedd wedi ei drefnu ar gyfer 14 Mehefin ymlaen i'r slot nesaf sydd ar gael ar 28 Mehefin.

 

·         Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:


Dydd Mercher 21 Mehefin 2017 -

·         Dadl gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ei adroddiad ar ddyfodol polisïau amaethyddol a datblygu gwledig yng Nghymru (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ei ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)

 

4.

Pwyllgorau

4.1

Cais gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i gynnal ymweliad â Glasgow

Cofnodion:

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar gais gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i Aelodau'r Pwyllgor gael eu hesgusodi o'r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 14 Mehefin 2017 ar ôl 16.45 er mwyn teithio i Glasgow, fel rhan o'r ymchwiliad i Fargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru, ac i'r Pwyllgor Cyllid wneud trefniadau tebyg.

 

5.

Rheolau Sefydlog

5.1

Diwygio Rheolau Sefydlog: Proses y gyllideb

Cofnodion:

·         Trafododd y Rheolwyr Busnes bapur yn nodi'r cynigion i ddiwygio prosesau cyfredol y gyllideb yn unol â'r argymhellion a wnaed yn sgil ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid blaenorol i arferion gorau o ran y gyllideb ac ymateb y Pwyllgor Cyllid i ymgynghoriad y Pwyllgor Busnes ar y drafft.

 

·         Ystyriodd y Pwyllgor brotocol drafft y cytunwyd arno dros dro rhwng y Pwyllgor Cyllid a Llywodraeth Cymru, gan gytuno:

 

·         y dylai'r ddadl ar y gyllideb ddrafft barhau i ddigwydd yn dilyn cynnig gan y llywodraeth i nodi'r gyllideb ddrafft, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd;

·         y dylai'r wybodaeth sy’n ofynnol i gyd-fynd â chynigion y gyllideb amlinellol gael ei chynnwys yn y protocol, yn hytrach nag yn y Rheolau Sefydlog, ond y dylai'r Rheolau Sefydlog gyfeirio'n benodol at y protocol;

·         i gael gwared ar y cyfeiriad at 'wythnosau eistedd' o'r Rheol Sefydlog drafft, a chynnwys darpariaeth yn y protocol i sicrhau y bydd y wybodaeth angenrheidiol ar gael cyn hanner tymor yr hydref.