Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Dirprwy Lywydd.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Byddai'r Cyfarfod Llawn yn dechrau gyda datganiadau gan y Llywydd a'r Prif Weinidog ar yr ymosodiadau yn Llundain.

 

·         Nododd y Rheolwyr Busnes lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn awgrymu y dylid gohirio'r Penderfyniad Ariannol ar gyfer Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) gan i wybodaeth newydd ddod i law ar ôl i'r pwyllgor gyhoeddi ei adroddiad ar egwyddorion cyffredinol y Bil.

 

·         Dywedodd Jane Hutt wrth y pwyllgor y byddai'r Penderfyniad Ariannol ar gyfer Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yn aros ar yr agenda, ond na fyddai'r Gweinidog yn ei gynnig, a byddai'n dweud hynny yn ei gyfraniad yn y Ddadl yng Nghyfnod 1. Y disgwyl bellach yw y caiff y Penderfyniad Ariannol ei gynnig yn ystod tymor yr hydref.

 

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes..

 

Dydd Mercher

 

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y ddadl fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:


Dydd Mercher 21 Mehefin 2017 –

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

Dydd Mercher 28 Mehefin 2017 –

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Dadl gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ei adroddiad ar ddyfodol polisïau amaethyddol a datblygu gwledig yng Nghymru (60 munud) – eitem wedi’i symud o 21 Mehefin

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

4.

Rheolau Sefydlog

4.1

Diwygio Rheolau Sefydlog: Proses y gyllideb

Cofnodion:

·         Trafododd y Rheolwyr Busnes bapur yn nodi cynigion diwygiedig i ddiwygio prosesau cyfredol y gyllideb yn unol â'r argymhellion a wnaed yn sgil ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid blaenorol i arferion gorau o ran y gyllideb.  Mae'r papur yn cynnig drafft diwygiedig o newidiadau arfaethedig, yn cynnwys y newidiadau y cytunwyd arnynt yn y cyfarfod diwethaf.

 

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ar y cynigion i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â phroses y gyllideb. Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn cyflwyno adroddiad ar gyfer cael eu cytundeb arno yr wythnos nesaf.

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Cais gan y Pwyllgor Materion Allanol i ymweld â Brwsel

Cofnodion:

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar gais y Pwyllgor Materion Allanol i Aelodau'r Pwyllgor gael eu hesgusodi rhag bod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 27 Mehefin 2017 er mwyn cynnal cyfarfodydd ym Mrwsel.

 

Unrhyw fater arall

·         Gan na fyddai'r Dirprwy Lywydd yn bresennol yn ystod y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon, byddai'r Comisiynwyr Joyce Watson a Suzy Davies yn cadeirio rhannau o'r ddau Gyfarfod Llawn.

 

·         Roedd Jane Hutt am ddiolch ar gofnod i staff y Comisiwn a oedd wedi helpu i drefnu angladd Rhodri Morgan yn y Senedd ar 31 Mai.

 

·         Hysbysodd David Rowlands y Pwyllgor am farwolaeth Sam Gould yn 33 oed, staff cymorth i Nathan Gill AC.