Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar y cofnodion ar gyfer y cyfarfod gan y Pwyllgor i'w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes..

Dydd Mercher

 

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y ddadl fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddwyn ymlaen y ddadl nesaf ar Gynnig Deddfwriaethol Aelodau o 12 Gorffennaf i 5 Gorffennaf, gan fod Dadl Aelod Unigol eisoes wedi'i threfnu ar gyfer 12 Gorffennaf. 

 

·         Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i aildrefnu'r eitemau a ganlyn:


Dydd Mercher 5 Gorffennaf 2017 -

·         Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

4.

Bwyllgorau

4.1

Cais ar gyfer Dadl Pwyllgor

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar gais gan y Pwyllgor Deisebau i gynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y ddeiseb 'Amddiffyn Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru', sydd wedi cyrraedd 5383 o lofnodion.  Dyma'r cais cyntaf o'r fath o dan y broses newydd a gytunwyd gan y Pwyllgorau Busnes a Deisebau yn gynharach eleni.  Cytunwyd dros dro i drefnu'r ddadl ar gyfer 12 Gorffennaf.

 

5.

Rheolau Sefydlog

5.1

Diwygio Rheolau Sefydlog: Proses y gyllideb

Cofnodion:

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes yr adroddiad terfynol ar ddiwygio Rheolau Sefydlog mewn perthynas â phroses y gyllideb.  Byddai'r adroddiad yn cael ei osod y diwrnod canlynol, ochr yn ochr â chynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog ac i gytuno ar y protocol a gytunwyd rhwng Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Pwyllgor Cyllid. Bydd y ddau yn cael eu hychwanegu at yr agenda ar gyfer y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher nesaf.

 

6.

Rheolau Sefydlog

6.1

Effaith Deddf Cymru 2017 ar Reolau Sefydlog y Cynulliad

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes gynigion ar gyfer treialu strwythur dadl newydd a chytunwyd:

 

·         i ddileu'r gofyniad bod y dogfennau ar gael i'r Ysgrifennydd Gwladol ar yr un pryd ag i Aelodau, ac i ddisodli'r darpariaethau ynghylch cyfranogiad yr Ysgrifennydd Gwladol  gyda darpariaeth gyffredinol y gall y sawl nad ydynt yn Aelodau gymryd rhan mewn trafodion.

·         i ddileu'r gofyniad yn Rheol Sefydlog 11.21(i) bod amser ar gael bob blwyddyn i drafod rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU, a chaniatáu i'r llywodraeth a/neu'r gwrthbleidiau i drefnu dadl ar y mater os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

·         i ofyn am ragor o wybodaeth am yr arfer yn yr Alban a Gogledd Iwerddon o drafod rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU, yn absenoldeb gofynion Rheolau Sefydlog yno.

·         i dreialu strwythur newydd ar gyfer rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru cyn toriad yr haf er mwyn rhoi proffil uwch i'r ddadl yn y dyfodol, gyda'r bwriad o newid y  Rheolau Sefydlog yn y tymor hwy.

 

Unrhyw Fater Arall

Nododd y Llywydd ei llongyfarchiadau i'r Dirprwy Lywydd, a dderbyniodd Medal Eiriolaeth James M Shannon y Gymdeithas Gwarchod Tân Genedlaethol yr wythnos diwethaf. 

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai'r papur ar y swydd wag o ran cadeiryddiaeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf.