Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Roedd Neil Hamilton yn bresennol fel dirprwy i David Rowlands.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai Cynnig i ddyrannu Cadeiryddion Pwyllgorau i grwpiau gwleidyddol yn cael ei ychwanegu at yr agenda heddiw ar ôl y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.

 

·         Dywedodd Jane Hutt wrth y pwyllgor y byddai dau ddatganiad yn cael eu hychwanegu at yr agenda heddiw:

-     Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Diogelwch Tân yng Nghymru - Y camau sy’n cael eu cymryd yn dilyn y tân yn Nhŵr Grenfell (30 munud)

-     Datganiad gan y Prif Weinidog: Brexit a Datganoli: Diogelu Dyfodol Cymru (60 munud)

 

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai pob pleidlais mewn perthynas â Bil Trafodiadau Tir (Cymru) yn digwydd yn ystod trafodion Cyfnod 3.

 

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd y byddai'r pleidleisio ar bob eitem arall o fusnes yn digwydd cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau.

 

·         Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai egwyl o 10 munud cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau.

 

Dydd Mercher

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes, os cytunir ar y cynnig i ddyrannu cadeiryddion yn agenda dydd Mawrth ei gytuno, y bydd y Llywydd yn gwahodd enwebiadau ar gyfer Cadeiryddion Pwyllgorau ar ddechrau'r cyfarfod ddydd Mercher.

 

·         Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes fod dau gynnig arall wedi cael eu hychwanegu at agenda dydd Mercher mewn perthynas â Gweithdrefnau Cyllid a Phrotocol y Gyllideb; byddai'r rhain yn cael eu grwpio gyda'i gilydd ar gyfer y ddadl ond gan gynnal pleidleisiau ar wahân.

 

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

·         Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:


Dydd Mercher 12 Gorffennaf 2017 -

·         Cynnig i gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Pumed Cynulliad a nodi'r adroddiad cydymffurfiaeth ar gyfer y cyfnod 2015-2017 (60 munud)

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Dadl ar y Ddeiseb 'Amddiffyn Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru' (60 munud)

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) - amserlen ddiwygiedig

Cofnodion:

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar amserlen ddiwygiedig ar gyfer y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) - i newid y dyddiad terfyn cau ar gyfer trafodion pwyllgor yng Nghyfnod 2 o 21 Gorffennaf 2017 i 20 Hydref 2017. 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Effaith ymadawiad Aelod â grŵp gwleidyddol

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes rôl Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, aelodaeth y Pwyllgor Cyllid ac a ddylai cydbwysedd newydd y grwpiau plaid arwain at newidiadau o ran aelodaeth neu gadeiryddiaeth ar gyfer unrhyw bwyllgor arall.

 

Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes fod y gadair yn wag ers dechrau mis Ebrill. Gan fod y Rheolwyr Busnes wedi trafod y mater nifer o weithiau ers hynny, roedd hi eisiau i'r Pwyllgor ddod i benderfyniad am y gadeiryddiaeth. Tynnodd y Llywydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y Rheolau Sefydlog perthnasol, yn bennaf:

 

-     17.2R a 17.13, sy'n gofyn i'r Pwyllgor ystyried effaith lleoedd gwag ar y cydbwysedd rhwng Cadeiryddion ac aelodaeth rhwng grwpiau gwleidyddol; ac

-     17.2B, sy'n gofyn i'r Pwyllgor roi sylw i’r angen i sicrhau bod cydbwysedd y cadeiryddion ar draws y pwyllgorau yn adlewyrchu’r grwpiau gwleidyddol y mae’r Aelodau yn perthyn iddynt.

 

Cynigiodd Jane Hutt i gyfnewid dyraniad cadeiryddion y pwyllgorau CCERA a Deisebau, gyda'r cyntaf yn cael ei roi i Lafur a'r ail i UKIP. Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn cefnogi'r cynnig hwn. Dywedodd Neil Hamilton y byddai'n cefnogi'r cynnig pe bai'r Rheolwyr Busnes yn cytuno i beidio â lleihau dyraniad amser UKIP yn y Cyfarfod Llawn. Nid oedd Paul Davies yn cefnogi'r cynnig gan nad oedd yn mynd i'r afael â'r mater bod gan y Ceidwadwyr lai o gadeiryddion na Phlaid Cymru.

 

Gofynnodd dau o'r Rheolwyr Busnes am gael atal y cyfarfod am gyfnod byr er mwyn iddynt drafod y cynnig yn breifat. Ar ôl cadarnhau nad oedd unrhyw wrthwynebiad i hyn, ataliodd y Llywydd y cyfarfod am 08.53 yn unol â Rheol Sefydlog 17.47. Cafodd y cyfarfod ei ail-gynnull am 08:56.

 

Pleidleisiodd y Pwyllgor ar y cynnig i gyfnewid dyraniad cadeiryddion y Pwyllgorau CCERA a Deisebau: pleidleisiodd Jane Hutt, Rhun ap Iorwerth a Neil Hamilton o blaid, a phleidleisiodd Paul Davies yn erbyn. Felly, cytunwyd ar y cynnig.

 

Yna gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes ystyried a oeddynt yn dymuno gwneud unrhyw newidiadau pellach i ddyraniad cadeiryddion y pwyllgorau o ystyried y cydbwysedd gwleidyddol newydd yn y Cynulliad.

 

Cynigiodd Paul Davies y dylid ailddyrannu un o gadeiryddiaethau Plaid Cymru i grŵp y Ceidwadwyr Cymreig i adlewyrchu'r ffaith mai nhw yw'r mwyaf o'r ddau grŵp bellach. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, ailadroddodd y Llywydd ei phenderfyniad, at ddibenion trefn busnes y Cynulliad, ac felly’r drafodaeth hon, fod Mark Reckless yn aelod o grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad.

 

Roedd Jane Hutt, Rhun ap Iorwerth, a Neil Hamilton yn gwrthwynebu'r cynnig hwnnw, gan nodi'r angen i gynnal sefydlogrwydd y system bwyllgorau, ac osgoi gorfod ail-ddyrannu cadeiryddion bob tro y byddai Aelod yn newid grŵp, fel yr ystyriaethau pennaf. Felly, ni chytunwyd ar y cynnig.

 

 

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes:

 

·         Bod cynnig yn cael ei ychwanegu at agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw i ddyrannu Cadeiryddion Pwyllgorau i grwpiau gwleidyddol; cynnig bod cadeiryddiaeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig (CCERA) yn cael ei dyrannu i'r grŵp Llafur, a bod cadeiryddiaeth y Pwyllgor Deisebau yn cael ei dyrannu i grŵp UKIP;

·         Bod y grŵp UKIP yn cael ei wahodd i enwebu aelod newydd i'r Pwyllgor Cyllid;

·         Os caiff y cynnig ei dderbyn, yr eitem gyntaf o fusnes ar agenda'r Cyfarfod Llawn yfory fyddai enwebiadau ar gyfer Cadeiryddion Pwyllgorau;

·         Os bydd mwy nag un enwebiad, neu os caiff enwebiad ei wrthwynebu, a bod angen pleidlais gudd, byddai'n cael ei chynnal brynhawn yfory, a byddai'r canlyniad yn cael ei gyhoeddi yn y Cyfarfod Llawn cyn y Cyfnod Pleidleisio;

·         Bod cynigion ar wahân yn cael eu cyflwyno cyn gynted ag y bo modd yn cynnig newidiadau canlyniadol i aelodaeth y Pwyllgorau Deisebau, CCERA a Chraffu ar Waith y Prif Weinidog;

·         Bod y dyraniad amser i grwpiau'r gwrthbleidiau yn y Cyfarfod Llawn yn parhau i fod yn 2:2:1 i'r Ceidwadwyr, Plaid Cymru a UKIP yn y drefn honno.

 

6.

Rheolau Sefydlog

6.1

Papur i'w nodi – Trafod Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU

Cofnodion:

·         Nododd y Rheolwyr Busnes y papur.