Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Roedd William Whiteley, swyddog o Lywodraeth Cymru, hefyd yn bresennol. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth ·
Hysbysodd Jane Hutt y
Pwyllgor fod tri datganiad wedi cael eu hychwanegu at agenda'r Cyfarfod Llawn
heddiw: -
Datganiad gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Adroddiad interim yr
adolygiad seneddol ar iechyd a gofal cymdeithasol (45 munud) -
Datganiad gan Weinidog y
Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Strategaeth y
Gymraeg (45 munud) -
Datganiad gan Weinidog y
Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Y wybodaeth
ddiweddaraf am y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De (30 munud) ·
Nododd y Rheolwyr Busnes
y byddai pob pleidlais mewn cysylltiad â Bil yr Undebau Llafur (Cymru) yn
digwydd yn ystod trafodion Cyfnod 3. ·
Dywedodd y Llywydd wrth
y Rheolwyr Busnes y byddai egwyl o 10 munud cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau. Dydd Mercher ·
Cytunodd y Rheolwyr
Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i
gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 27 Medi
2017 – ·
Dadl ar adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Ar y trywydd iawn? Masnachfraint y
Rheilffyrdd a Metro De Cymru (60 munud) ·
Dadl ar adroddiad y
Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei ymchwiliad i ddyfodol
polisi rhanbarthol - beth nesaf i Gymru? (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i'r
Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr
Busnes y dylid cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn at y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'w ystyried, a nodwyd y byddai'r Memorandwm yn
cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Hydref 2017. |
|
Rhaglen y ddeddfwriaeth sydd ar ddod Cofnodion: ·
Cytunodd y Rheolwyr
Busnes i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a
Chymunedau i dynnu sylw at y ffaith bod Biliau'n cyd-daro ar ddau achlysur
gwahanol ac i ofyn barn am allu'r Pwyllgor i reoli'r gwaith o graffu ar Filiau; ·
Cytunodd y Rheolwyr
Busnes i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol i ofyn a fyddai gan y Pwyllgor y gallu i ystyried unrhyw
ddeddfwriaeth dros y cyfnod, o ystyried ei lwyth gwaith ar adael yr UE; ·
Cytunodd y Rheolwyr
Busnes y dylid cyfeirio Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru at bwyllgor
pwnc yng Nghyfnod 1 ac yn ôl i'r un pwyllgor yn ystod Cyfnod 2; ·
Nododd y Rheolwyr Busnes
y Biliau y bwriadwyd eu cyflwyno yn ddiweddarach y Cynulliad hwn. |
|
Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 |
|
Amserlen ar gyfer Cyllideb ddrafft 2018-19 Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes
yr amserlen arfaethedig, a chytunodd i ymgynghori â'r Pwyllgor Cyllid fel sy'n
ofynnol gan y Rheolau Sefydlog, ac ystyried y mater eto yn ei gyfarfod cyntaf
ym mis Medi. |
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gais gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth
Leol a Chymunedau i gynnal cyfarfod ychwanegol ddydd Mawrth 18 Gorffennaf 2017. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Effaith Deddf Cymru 2017 ar Reolau Sefydlog y Cynulliad: Uwch-fwyafrif Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor y dylai Rheolau Sefydlog gael eu
diwygio fel bod: ·
rhaid i'r Llywydd wneud
datganiad cyn pob Cyfnod 4 yn nodi a yw Bil yn ymwneud â phwnc gwarchodedig ai
peidio, fel sy'n ofynnol gan y Ddeddf; ·
pleidlais yn cael ei
chofnodi ym mhob Cyfnod 4, fel ei bod bob amser yn eglur faint o Aelodau sydd
wedi pleidleisio o blaid pasio Bil; ·
y Cyfnod Ailystyried yn
cynnwys darpariaeth ar gyfer ailystyried Bil sydd wedi cael ei gyfeirio yn ôl
i'r Cynulliad gan y Goruchaf Lys oherwydd mater uwch-fwyafrif, ac fel bod modd
cyflwyno gwelliannau i Fil yn y cyfnod hwnnw. Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn dod â newidiadau arfaethedig i'r Rheolau
Sefydlog gerbron yn seiliedig ar gasgliadau'r Rheolwyr Busnes. |
|
Trefniadau cyflwyno |
|
Trefniadau cyflwyno yn ystod toriad yr haf Cofnodion: Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes y trefniadau ar gyfer
cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn yn ystod toriad yr haf fel y'u nodir ym
mharagraff 2 o'r papur ac yn yr atodlen a'r nodyn drafft i'r Aelodau sydd
ynghlwm, a chytunwyd ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig
y Cynulliad, fel y'u nodir ym mharagraffau 3 i 7 o'r papur ac yn y nodyn drafft
i'r Aelodau. Gofynnodd y Clerc i'r Pwyllgor nodi y bydd yr un
trefniadau, yn ogystal â bod yn gymwys i'r Swyddfa Gyflwyno, hefyd yn gymwys i'r
Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol sydd ar hyn o bryd yng Nghyfnod 2 â'r Swyddfa
Gyflwyno yn ailagor yn ystod wythnos olaf y toriad. |
|
Amserlen y Cynulliad |
|
Papur i'w nodi - Amserlen Cwestiynau Llafar y Cynulliad Cofnodion: Nododd y Rheolwyr Busnes y newidiadau. |
|
Unrhyw fater arall Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Hysbysodd Jane Hutt y Rheolwyr Busnes y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried
y Bil yn ofalus i benderfynu pa ddarpariaethau y mae angen cydsyniad
deddfwriaethol y Cynulliad ar eu cyfer. Cwestiynau amserol hwyr Yn dilyn achosion yn ddiweddar pan fu raid i'r Llywydd wrthod ceisiadau gan
Aelodau yn ymwneud â chyhoeddiadau a wnaed ar ôl 10.00 y bore hwnnw (oherwydd
nad oeddent yn bodloni'r terfyn amser o 10.00 ond y byddent yn amlwg wedi
cyrraedd y trothwy o fod yn amserol fel arall), cytunodd y Rheolwyr Busnes i
addasu'r canllawiau ar unwaith a chaniatáu ar gyfer y posibilrwydd o dderbyn
cwestiynau amserol hwyr mewn amgylchiadau eithriadol. Byddai'r agwedd hon hefyd yn rhan o'r broses
fwy cyffredinol o adolygu cwestiynau yn nhymor yr hydref. |