Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan y Dirprwy Lywydd. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd
Mawrth ·
Dywedodd
Jane Hutt wrth y Pwyllgor fod datganiad gan y Prif Weinidog (60 munud) wedi ei
dynnu oddi ar agenda heddiw; ac y bydd y cynigion a ganlyn yn cael eu cynnwys
yn ei le. Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes mai’r dyddiad cau ar gyfer
cyflwyno gwelliannau yw 1pm heddiw. - Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog er mwyn
medru cynnal dadl ar yr eitem nesaf (5 munud) - Dadl: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (60
munud) ·
Dywedodd
Jane Hutt wrth y Pwyllgor fod datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Economi a Seilwaith: Datblygu Banc Cymru (45 munud) wedi’i ychwanegu at agenda
heddiw. ·
Byddai'r
Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Dydd
Mercher ·
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl
Fer. |
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 4 Hydref 2016 - ·
Dadl gan
Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud) |
|
Pwyllgorau |
|
Craffu ar Filiau’r Pwyllgor Cofnodion: Cytunodd
y Rheolwyr Busnes i ystyried newid Rheol Sefydlog drafft a fyddai'n rhoi
disgresiwn i’r Pwyllgor Busnes mewn perthynas â holl Filiau’r Pwyllgor i
benderfynu a fyddai’n briodol cyfeirio Bil at bwyllgor ar gyfer Cyfnod 1 ai
peidio. Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn
cyflwyno Rheolau Sefydlog drafft ym mis Medi, gan ei gwneud yn bosibl rhoi’r
cynigion gerbron y Cynulliad cyn cyflwyno'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru, a ddisgwylir ym mis Hydref. |
|
Y Pwyllgor Busnes |
|
Hynt y gwaith o Adolygu’r Rheolau Sefydlog Cofnodion: Nododd y Rheolwyr Busnes y papur a gofynnodd
am bapur cwmpasu ar gynnal adolygiad ehangach o’r Rheolau Sefydlog yn yr
hydref, o bosibl. |
|
Brexit - Crynodeb o'r materion ar gyfer Pwyllgor Busnes Cofnodion: ·
Nododd y Rheolwyr Busnes y papur. Dywedodd Arweinydd y Tŷ
y byddai'r Llywodraeth yn cyflwyno’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil
yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn ystod toriad yr haf, ac y byddai ystyriaeth
bellach yn cael ei rhoi i system rhybudd cynnar ar gyfer offerynnau
statudol. ·
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol at y
Pwyllgor Materion allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol
a Deddfwriaethol, ac y bydd pob pwyllgor yn cael gwybod am y Cynnig rhag ofn y
byddent am ei drafod. |
|
Unrhyw fater arall Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol Yn dilyn y cyfarfod yr wythnos diwethaf pan
gytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio’r Memorandwm ar y Bil Canllawiau a
Hawliadau Ariannol at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, cytunodd y
Rheolwyr Busnes hefyd i’w gyfeirio hefyd at y Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau, gyda'r un
dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad. |